Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 18(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 21/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn
galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y
Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 9 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Ni chyflwynwyd
unrhyw gwestiynau. Cofnodion: Ni
chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5munud) |
Cynnig i ethol Aelodau i Bwyllgorau NDM6099 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.3, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor
Busnes yn lle Simon Thomas (Plaid Cymru). Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.19 NDM6099 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid
Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Busnes yn lle Simon Thomas (Plaid Cymru). Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5munud) |
Cynnig i ethol Aelodau i Bwyllgorau NDM6100 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.3, yn ethol Nathan Gill (Annibynnol) yn aelod o'r Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Michelle Brown (UKIP). Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.19 NDM6100 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Nathan Gill
(Annibynnol) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn
lle Michelle Brown (UKIP). Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5munud) |
Cynnig i ethol Aelodau i Gomisiwn y Cynulliad NDM6101 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 7.9, yn penodi Adam Price (Plaid Cymru) fel aelod o Gomisiwn y
Cynulliad yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru). Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.20 NDM6101 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Adam Price (Plaid
Cymru) fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru). Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar Broses y Gyllideb Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.21 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6095 Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi ei bod yn dair blynedd ers cyhoeddi adroddiad
Yr Athro Sioned Davies a argymhellodd ddileu 'Cymraeg ail iaith' a sefydlu un
continwwm dysgu'r Gymraeg yn ei le. 2. Yn nodi bod llythyr y Prif Weinidog o fis Rhagfyr 2015
yn datgan ei fod "o'r farn bod y cysyniad "Cymraeg fel ail
iaith" yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o'r farn bod hyn yn
cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol". 3. Yn nodi pwysigrwydd y gyfundrefn addysg er mwyn
cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg. 4. Yn gresynu at benderfyniad Cymwysterau Cymru i gadw'r
cymhwyster Cymraeg ail iaith am gyfnod dros dro amhenodol, ac felly, er
mwyn sicrhau na chaiff unrhyw ddisgybl ei amddifadu o sgiliau i ddefnyddio'r
Gymraeg, yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a) amlinellu amserlen glir ar gyfer disodli'r cymhwyster
Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl erbyn 2018 a
fyddai'n golygu arholi'r cymhwyster newydd yn gyntaf yn 2020; (b) mabwysiadu strategaeth i dargedu adnoddau ychwanegol
ar ddysgu Cymraeg i athrawon dan hyfforddiant, athrawon mewn swydd,
cymorthyddion dosbarth ac ymarferwyr dysgu eraill; ac (c) buddsoddi'n sylweddol, a chynllunio o ddifrif, drwy
becyn o fentrau arloesol, er mwyn cynyddu'n gyflym nifer yr ymarferwyr addysg
sy'n dysgu drwy'r Gymraeg. Dogfennau Atodol 'Un
iaith i bawb: Adolygiad o Gymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4' 'Llythyr
gan y Prif Weinidog, 4 Rhagfyr 2015' Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg): Yn nodi: a) bod addysg yng Nghymru yn cael ei diwygio, bod
Cymwysterau Cymru yn cryfhau TGAU Cymraeg Ail Iaith fel mesur dros dro, ac o
2021 y bydd y cwricwlwm newydd yn dileu'r gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymraeg
Ail Iaith; a b) y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau ac
amserlenni ar gyfer newidiadau yn y cwricwlwm a'r broses asesu ar gyfer Cymraeg
mewn ysgolion. Gwelliant 2 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig: Yn nodi pwysigrwydd meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn
cylchoedd chwarae cyn ysgol. Gwelliant 3 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r dull o feithrin
sgiliau iaith Gymraeg ym mhob lleoliad Dechrau'n Deg. Gwelliant 4 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynlluniau ar
gyfer meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn cyrsiau galwedigaethol ac
astudiaethau mewn lleoliadau dysgu yn y gymuned. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.53 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6095 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi ei bod yn dair
blynedd ers cyhoeddi adroddiad Yr Athro Sioned Davies a argymhellodd ddileu
'Cymraeg ail iaith' a sefydlu un continwwm dysgu'r Gymraeg yn ei le. 2. Yn nodi bod llythyr y
Prif Weinidog o fis Rhagfyr 2015 yn datgan ei fod "o'r farn bod y cysyniad
"Cymraeg fel ail iaith" yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym
o'r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y
dyfodol". 3. Yn nodi pwysigrwydd y
gyfundrefn addysg er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o
siaradwyr Cymraeg. 4. Yn gresynu at
benderfyniad Cymwysterau Cymru i gadw'r cymhwyster Cymraeg ail iaith am gyfnod
dros dro amhenodol, ac felly, er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw ddisgybl
ei amddifadu o sgiliau i ddefnyddio'r Gymraeg, yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a) amlinellu amserlen
glir ar gyfer disodli'r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster
Cymraeg newydd i bob disgybl erbyn 2018 a fyddai'n golygu arholi'r cymhwyster
newydd yn gyntaf yn 2020; (b) mabwysiadu
strategaeth i dargedu adnoddau ychwanegol ar ddysgu Cymraeg i athrawon dan
hyfforddiant, athrawon mewn swydd, cymorthyddion dosbarth ac ymarferwyr dysgu
eraill; ac (c) buddsoddi'n
sylweddol, a chynllunio o ddifrif, drwy becyn o fentrau arloesol, er mwyn
cynyddu'n gyflym nifer yr ymarferwyr addysg sy'n dysgu drwy'r Gymraeg.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1
Jane
Hutt (Bro Morgannwg): Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn nodi: a) bod addysg yng Nghymru yn cael ei diwygio, bod
Cymwysterau Cymru yn cryfhau TGAU Cymraeg Ail Iaith fel mesur dros dro, ac o
2021 y bydd y cwricwlwm newydd yn dileu'r gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymraeg
Ail Iaith; a b) y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau
ac amserlenni ar gyfer newidiadau yn y cwricwlwm a'r broses asesu ar gyfer
Cymraeg mewn ysgolion. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig: Yn nodi pwysigrwydd meithrin sgiliau iaith Gymraeg
mewn cylchoedd chwarae cyn ysgol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r dull o
feithrin sgiliau iaith Gymraeg ym mhob lleoliad Dechrau'n Deg. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynlluniau
ar gyfer meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn cyrsiau galwedigaethol ac
astudiaethau mewn lleoliadau dysgu yn y gymuned. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6095 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi ei bod yn dair
blynedd ers cyhoeddi adroddiad Yr Athro Sioned Davies a argymhellodd ddileu
'Cymraeg ail iaith' a sefydlu un continwwm dysgu'r Gymraeg yn ei le. 2. Yn nodi bod llythyr y
Prif Weinidog o fis Rhagfyr 2015 yn datgan ei fod "o'r farn bod y cysyniad
"Cymraeg fel ail iaith" yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym
o'r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y
dyfodol". 3. Yn nodi pwysigrwydd y
gyfundrefn addysg er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o
siaradwyr Cymraeg. 4. Yn nodi: a) bod addysg yng Nghymru yn cael ei diwygio, bod
Cymwysterau Cymru yn cryfhau TGAU Cymraeg Ail Iaith fel mesur dros dro, ac o 2021
y bydd y cwricwlwm newydd yn dileu'r gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymraeg Ail
Iaith; a b) y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau
ac amserlenni ar gyfer newidiadau yn y cwricwlwm a'r broses asesu ar gyfer
Cymraeg mewn ysgolion. 5. Yn nodi pwysigrwydd meithrin sgiliau iaith
Gymraeg mewn cylchoedd chwarae cyn ysgol. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r dull o
feithrin sgiliau iaith Gymraeg ym mhob lleoliad Dechrau'n Deg. 7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei
chynlluniau ar gyfer meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn cyrsiau galwedigaethol
ac astudiaethau mewn lleoliadau dysgu yn y gymuned.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6096 Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi pwysigrwydd aelodaeth lawn o farchnad sengl
Ewropeaidd i economi Cymru. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro): Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi pa mor bwysig ydyw i economi Cymru gael
mynediad i Farchnad Sengl yr UE. 2. Yn galw am eglurder o ran safbwynt Llywodraeth Cymru
ynghylch caniatáu i bobl symud yn rhydd rhwng y DU a'r UE, ar ôl i'r DU adael
yr UE. 3. Yn croesawu'r diddordeb mewn sefydlu cytundebau
masnach newydd rhwng y DU a gwledydd eraill ar draws y byd. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.26 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6096 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi pwysigrwydd
aelodaeth lawn o farchnad sengl Ewropeaidd i economi Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi pa mor bwysig ydyw i economi Cymru gael
mynediad i Farchnad Sengl yr UE. 2. Yn galw am eglurder o ran safbwynt Llywodraeth
Cymru ynghylch caniatáu i bobl symud yn rhydd rhwng y DU a'r UE, ar ôl i'r DU
adael yr UE. 3. Yn croesawu'r diddordeb mewn sefydlu cytundebau
masnach newydd rhwng y DU a gwledydd eraill ar draws y byd. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda
Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6096
Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pa mor bwysig ydyw i economi Cymru gael
mynediad i Farchnad Sengl yr UE. 2. Yn galw am eglurder o ran safbwynt Llywodraeth
Cymru ynghylch caniatáu i bobl symud yn rhydd rhwng y DU a'r UE, ar ôl i'r DU
adael yr UE. 3. Yn croesawu'r diddordeb mewn sefydlu cytundebau
masnach newydd rhwng y DU a gwledydd eraill ar draws y byd. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda
Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6093 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd
Cymru, a rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, a Chanolbarth Lloegr. 2. Yn credu bod y cynigion o fewn "Gweledigaeth ar
gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru" yn cynnig sail ar gyfer gwella
perfformiad economaidd yng ngogledd Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a) cyhoeddi cynllun i wella ac uwchraddio cefnffordd yr
A55 i fynd i'r afael â thrafferthion tagfeydd, risg o lifogydd, a diffyg llain
galed mewn rhai ardaloedd; (b) gweithio gyda Llywodraeth y DU a Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau bod llinell gogledd Cymru yn cael ei
huwchraddio; (c) gweithio gyda rhanddeiliaid i sefydlu cynllun cerdyn
teithio trafnidiaeth integredig ar gyfer gogledd Cymru; (d) cyhoeddi cynllun busnes manwl ar gyfer datblygu Metro
Gogledd Cymru. Dogfen Atodol Gweledigaeth
ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth o fewn
Cymru, a rhwng Cymru a gweddill y DU ac Ewrop. Gwelliant 2. Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): 'cyflwyno cerdyn teithio clyfar ar gyfer Cymru gyfan er
mwyn cysylltu pob cymuned drwy system drafnidiaeth integredig.' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.59 NDM6093 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, a rhwng
gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, a Chanolbarth Lloegr. 2.
Yn credu bod y cynigion o fewn "Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng
Ngogledd Cymru" yn cynnig sail ar gyfer gwella perfformiad economaidd yng
ngogledd Cymru. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a)
cyhoeddi cynllun i wella ac uwchraddio cefnffordd yr A55 i fynd i'r afael â
thrafferthion tagfeydd, risg o lifogydd, a diffyg llain galed mewn rhai
ardaloedd; (b)
gweithio gyda Llywodraeth y DU a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i
sicrhau bod llinell gogledd Cymru yn cael ei huwchraddio; (c)
gweithio gyda rhanddeiliaid i sefydlu cynllun cerdyn teithio trafnidiaeth
integredig ar gyfer gogledd Cymru; (d)
cyhoeddi cynllun busnes manwl ar gyfer datblygu Metro Gogledd Cymru. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6094 Neil Hamilton
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod rôl bwysig ysgolion gramadeg o ran
hyrwyddo symudedd cymdeithasol a rhoi cyfle i blant o gefndiroedd tlawd gael
mynediad at addysg o'r radd flaenaf. 2. Yn nodi bod llai o symudedd cymdeithasol wedi mynd law
yn llaw â llai o lefydd mewn ysgolion gramadeg. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro): Yn credu nad yw dethol yn y system addysg yn briodol i
ysgolion yng Nghymru. Gwelliant 2. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro): Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn credu mai ymestyn dewisiadau rhieni a disgyblion yw'r
ffordd orau o wella safonau yn ein hysgolion. Gwelliant 3. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro): Ym mhwynt 3, dileu: 'sy'n rhoi hawl i blant gael addysg ramadeg os yw
rhieni'n dymuno hynny'. Gwelliant 4. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro): Ym mhwynt 3, dileu: 'ac ailgyflwyno ysgolion gramadeg'. Gwelliant 5. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod miloedd o blant bob blwyddyn yng Nghymru
yn cael eu gwrthod o'r ysgolion y byddai orau ganddynt hwy a'u rheini am fod
ysgolion da, llwyddiannus yn llawn. Gwelliant 6. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau ysgolion o reolaeth
awdurdodau lleol a galluogi ysgolion poblogaidd i ehangu er mwyn galluogi
rhagor o ddisgyblion i gael mynediad i'r ysgolion y maent hwy a'u rhieni yn eu
dewis. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.51 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6094 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod rôl bwysig
ysgolion gramadeg o ran hyrwyddo symudedd cymdeithaol a rhoi cyfle i blant o
gefndireodd tlawd gael mynediad at addysg o'r radd flaenaf. 2. Yn nodi bod llai o
symudedd cymdeithasol wedi mynd law yn llaw â llai o lefydd mewn ysgolion
gramadeg. 3. Yn credu mewn
amrywiaeth mewn addysg uwchradd, sy'n rhoi hawl i blant gael addysg ramadeg os
yw rhieni'n dymuno hynny, ac yn cefnogi statws uwch ar gyfer addysg dechnegol a
galwedigaethol ac ailgyflwyno ysgolion gramadeg yng Nghymru i greu system
addysgol sy'n rhoi'r cyfle gorau i blant o bob gallu.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn credu nad yw dethol yn y system addysg yn
briodol i ysgolion yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn credu mai ymestyn dewisiadau rhieni a disgyblion
yw'r ffordd orau o wella safonau yn ein hysgolion. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): Ym mhwynt 3, dileu: 'sy'n rhoi hawl i blant gael addysg ramadeg os yw
rhieni'n dymuno hynny'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): Ym mhwynt 3, dileu: 'ac ailgyflwyno ysgolion gramadeg'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod miloedd o blant bob blwyddyn yng
Nghymru yn cael eu gwrthod o'r ysgolion y byddai orau ganddynt hwy a'u rheini
am fod ysgolion da, llwyddiannus yn llawn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau ysgolion o
reolaeth awdurdodau lleol a galluogi ysgolion poblogaidd i ehangu er mwyn
galluogi rhagor o ddisgyblion i gael mynediad i'r ysgolion y maent hwy a'u
rhieni yn eu dewis. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6094 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu nad yw dethol yn y system addysg yn
briodol i ysgolion yng Nghymru. 2. Yn nodi bod llai o
symudedd cymdeithasol wedi mynd law yn llaw â llai o lefydd mewn ysgolion
gramadeg. 3. Yn credu mewn
amrywiaeth mewn addysg uwchradd ac yn cefnogi statws uwch ar gyfer addysg
dechnegol a galwedigaethol yng Nghymru i greu system addysgol sy'n rhoi'r cyfle
gorau i blant o bob gallu.
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.50 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau 21.09.16 Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6092 Vikki Howells
(Cwm Cynon) Rhyddhau Potensial Naturiol Plant - Rôl Addysg Awyr
Agored yn y Broses Ddysgu. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.58 NDM6092 Vikki Howells (Cwm Cynon) Rhyddhau
Potensial Naturiol Plant - Rôl Addysg Awyr Agored yn y Broses Ddysgu. |