Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 13(v6) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/07/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Cwestiwn Brys

Dechreuodd yr eitem am 14.18

 

David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog roi manylion y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â TATA Steel a Llywodraeth y DU yn dilyn cyhoeddi bwriad TATA i atal y broses o werthu ei weithfeydd gwneud dur yn y DU?

 

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.39

 

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.53

 

(30 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Yr Adolygiad Ymarfer Plant i Farwolaeth Dylan Seabridge

Dogfen Ategol
Adolygu Ymarfer Plant

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.27

 

(30 munud)

5.

Datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Cronfa Triniaethau Newydd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.07

 

(30 munud)

6.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Hunanwella'r System Addysg

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.39

 

(30 munud)

7.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Moderneiddio Trafnidiaeth: y wybodaeth ddiweddaraf am Fasnachfraint Cymru a'r Gororau a'r Rhaglenni Metro

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.19

(30 munud)

8.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Y Gymraeg

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.07

9.

Datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf ar Glwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Cymru – bydd hyn yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig

Cofnodion:

Bydd hyn yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig.

(30 munud)

10.

Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

NDM6046 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 21 Mehefin 2016.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  1. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
  2. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
  3. cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
  4. cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a
  5. cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau Ategol
Cyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Graffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2016-17

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.44

NDM6046 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 21 Mehefin 2016.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  i.           y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

 ii.           yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

iii.           cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

iv.           cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a

    v.        cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

 

Rhoddwyd y wybodaeth ychwanegol a ganlyn i’r Aelodau:

-     nodyn yn egluro’r prif newidiadau o’r cynlluniau blaenorol.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd cyfnod pleidleisio.