Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn jones
Amseriad disgwyliedig: 325
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/02/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar
ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Eitem ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 12.45 Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 13.31 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro am 3
munud. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.34 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.28 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog
Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol [Gofyn i'r Gweinidog
yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig] Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i bobl yn dilyn
y llifogydd diweddar sydd wedi effeithio cymunedau ar draws Cymru? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.17 Gofyn i Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin
a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar
gael i bobl yn dilyn y llifogydd diweddar sydd wedi effeithio cymunedau ar
draws Cymru? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.23 Gwnaeth Dawn Bowden
ddatganiad am: Taith gyntaf Peiriant Stêm Trevithick o Benydarren, Merthyr
Tudful i Abercynon Gwnaeth Nick Ramsay
ddatganiad am: Pythefnos Masnach Deg – Ailgodi’n Decach. Gwnaeth David Rees
ddatganiad am: 50 mlynedd o’r ddeddf gofal gwrthgyfartal. Gwnaeth Angela Burns
ddatganiad am: Diwrnod Clefydau Prin rhyngwladol – 28 Chwefror |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) NDM7478 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud
darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio iaith arwyddion Prydain (BSL) yng
Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL. 2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai: a) sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd
wedi colli eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i
sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau; b) sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol BSL i
rymuso'r gymuned BSL yng Nghymru; c) ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru
gyd-gynhyrchu a chyhoeddi cynllun BSL cenedlaethol, a sefydlu nodau strategol i
wella hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau cymorth a gwella sgiliau
BSL ar draws cymdeithas; a d) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyd-gynhyrchu
a chyhoeddi eu cynllun BSL eu hunain i ddatblygu ymwybyddiaeth a hyfforddiant
BSL, a gwella mynediad at wasanaethau rheng flaen. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.30 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7478 Mark Isherwood (Gogledd
Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio iaith
arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau
drwy gyfrwng BSL. 2. Yn nodi mai diben y
Bil fyddai: a) sicrhau bod gan y
gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a
darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr
gwasanaethau; b) sefydlu grŵp
cynghori cenedlaethol BSL i rymuso'r gymuned BSL yng Nghymru; c) ei gwneud yn ofynnol
i Lywodraeth Cymru gyd-gynhyrchu a chyhoeddi cynllun BSL cenedlaethol, a
sefydlu nodau strategol i wella hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus a
gwasanaethau cymorth a gwella sgiliau BSL ar draws cymdeithas; a d) ei gwneud yn ofynnol
i gyrff cyhoeddus gyd-gynhyrchu a chyhoeddi eu cynllun BSL eu hunain i
ddatblygu ymwybyddiaeth a hyfforddiant BSL, a gwella mynediad at wasanaethau
rheng flaen. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Parth perygl nitradau Cymru gyfan NDM7599 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r
penderfyniad i gyflwyno parth perygl nitradau Cymru gyfan. 2. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth nesaf Cymru i
gyflwyno cynigion i fynd i'r afael â llygredd yng Nghymru. Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cefnogi uchelgais ffermio Cymru i fod y mwyaf
cyfeillgar yn y byd o ran natur a’r hinsawdd ac ymuno â’r undebau ffermio i
gydnabod bod un achos o lygredd amaethyddol yn un achos yn ormod. Yn cydnabod bod ffermio yng Nghymru yn cynnig
llawer o’r atebion pwysicaf i argyfwng yr hinsawdd, a bod llawer o ffermwyr
Cymru eisoes wedi sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen i’w harferion ffermio. Yn derbyn bod rheoli allyriadau amaethyddol yn rhan
annatod o’r ymdrech i sicrhau allyriadau sero-net yng Nghymru ac ar draws y DU. Yn cytuno mai’r cam cyntaf i daclo allyriadau
amaethyddol yw cynnal y mesurau rheoli da sydd eisoes yn cael eu cynnal gan y
rhan fwyaf o ffermwyr. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.02 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7599 Mark Isherwood (Gogledd
Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wrthdroi'r penderfyniad i gyflwyno parth perygl nitradau Cymru gyfan.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
cefnogi uchelgais ffermio Cymru i fod y mwyaf cyfeillgar yn y byd o ran natur
a’r hinsawdd ac ymuno â’r undebau ffermio i gydnabod bod un achos o lygredd
amaethyddol yn un achos yn ormod. Yn
cydnabod bod ffermio yng Nghymru yn cynnig llawer o’r atebion pwysicaf i
argyfwng yr hinsawdd, a bod llawer o ffermwyr Cymru eisoes wedi sicrhau’r
newidiadau sydd eu hangen i’w harferion ffermio. Yn
derbyn bod rheoli allyriadau amaethyddol yn rhan annatod o’r ymdrech i sicrhau
allyriadau sero-net yng Nghymru ac ar draws y DU. Yn
cytuno mai’r cam cyntaf i daclo allyriadau amaethyddol yw cynnal y mesurau
rheoli da sydd eisoes yn cael eu cynnal gan y rhan fwyaf o ffermwyr. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7599 Mark Isherwood (Gogledd
Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn
cefnogi uchelgais ffermio Cymru i fod y mwyaf cyfeillgar yn y byd o ran natur
a’r hinsawdd ac ymuno â’r undebau ffermio i gydnabod bod un achos o lygredd
amaethyddol yn un achos yn ormod. 2. Yn
cydnabod bod ffermio yng Nghymru yn cynnig llawer o’r atebion pwysicaf i
argyfwng yr hinsawdd, a bod llawer o ffermwyr Cymru eisoes wedi sicrhau’r
newidiadau sydd eu hangen i’w harferion ffermio. 3. Yn
derbyn bod rheoli allyriadau amaethyddol yn rhan annatod o’r ymdrech i sicrhau
allyriadau sero-net yng Nghymru ac ar draws y DU. 4. Yn
cytuno mai’r cam cyntaf i daclo allyriadau amaethyddol yw cynnal y mesurau
rheoli da sydd eisoes yn cael eu cynnal gan y rhan fwyaf o ffermwyr. 5. Yn
galw ymhellach ar Lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno cynigion i fynd i'r afael â
llygredd yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Cymhwystra prydau ysgol am ddim NDM7598 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adnodd
cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb ddrafft 2021-22 yn cael ei
ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i ehangu meini prawf
cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn teulu sy'n derbyn
credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw
cyllid cyhoeddus ar gael iddynt. Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn credu ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas
fodern bod plant yn dal i fynd heb fwyd ac y byddwn yn parhau i gynyddu ein
hymdrechion i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddileu tlodi a newyn. 2. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru: a) wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol
i sicrhau bod y ddarpariaeth o brydau ysgol yn parhau yn ystod y pandemig ac
mai dyma'r llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod
gwyliau'r ysgol; b) wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod
plant sy'n hunanynysu neu'n gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth
prydau ysgol am ddim pan nad oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol; c) yn darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i
deuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf
hael yn y DU; d) wedi sicrhau mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU o
hyd i gael brecwast am ddim i bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd; e) wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi
Addysg (EPI) am lwyddo i sicrhau bod teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol
am ddim yn ystod y pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol; f) wedi ymrwymo i gynnal adolygiad cyflym o'r holl
opsiynau sydd ar gael o ran adnoddau a pholisi gan gynnwys y trothwy incwm ar
gyfer cael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar ddata'r Cyfrifiad Ysgolion
Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD). Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.36 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7598 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod yr adnodd cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb
ddrafft 2021-22 yn cael ei ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i
ehangu meini prawf cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn
teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn
mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn
credu ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern bod plant yn dal i fynd heb
fwyd ac y byddwn yn parhau i gynyddu ein hymdrechion i ddarparu prydau ysgol am
ddim i ddileu tlodi a newyn. 2. Yn
croesawu bod Llywodraeth Cymru: a)
wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y ddarpariaeth o
brydau ysgol yn parhau yn ystod y pandemig ac mai dyma'r llywodraeth gyntaf yn
y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod gwyliau'r ysgol; b)
wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod plant sy'n hunanynysu neu'n
gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim pan nad
oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol; c) yn
darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i deuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol
am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU; d)
wedi sicrhau mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU o hyd i gael brecwast am ddim i
bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd; e)
wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) am lwyddo i
sicrhau bod teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y
pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol; f)
wedi ymrwymo i gynnal adolygiad cyflym o'r holl opsiynau sydd ar gael o ran
adnoddau a pholisi gan gynnwys y trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am
ddim yn seiliedig ar ddata'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion
(CYBLD). Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7598 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn
credu ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern bod plant yn dal i fynd heb
fwyd ac y byddwn yn parhau i gynyddu ein hymdrechion i ddarparu prydau ysgol am
ddim i ddileu tlodi a newyn. 2. Yn
croesawu bod Llywodraeth Cymru: a)
wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y ddarpariaeth o
brydau ysgol yn parhau yn ystod y pandemig ac mai dyma'r llywodraeth gyntaf yn
y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod gwyliau'r ysgol; b)
wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod plant sy'n hunanynysu neu'n
gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim pan nad
oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol; c) yn
darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i deuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol
am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU; d)
wedi sicrhau mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU o hyd i gael brecwast am ddim i
bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd; e)
wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) am lwyddo i
sicrhau bod teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y
pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol; f)
wedi ymrwymo i gynnal adolygiad cyflym o'r holl opsiynau sydd ar gael o ran
adnoddau a pholisi gan gynnwys y trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am
ddim yn seiliedig ar ddata'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion
(CYBLD).
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.06 cafodd y trafodion eu hatal dros
dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 17.10. |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7595 David
Melding (Canol De Cymru) Adolygiad Cumberlege: gwersi ar gyfer cydsyniad ar
sail gwybodaeth yn y GIG. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.15 NDM7595 David
Melding (Canol De Cymru) Adolygiad Cumberlege:
gwersi ar gyfer cydsyniad ar sail gwybodaeth yn y GIG. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.39 NDM7597 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Pa ddyfodol sydd i'r diwydiant pysgota morol? |