Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Amseriad disgwyliedig: 322(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/02/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dechreuodd y Cyfarfod Llawn am 14.58 ar ôl i’r Pwyllgor
o’r Senedd Gyfan dod i ben. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno
drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.58 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.52 Gofynnwyd cwestiynau 1,
3, 5 a 6. Ni ofynnwyd cwestiwn 2. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.04 |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.24 |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Gweithio mewn Partneriaeth ar gyfer Gwaith Teg Cymru Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 17.00 |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Papur Gwyn Ailgydbwyso Gofal a Chymorth Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.25 |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cafodd eitemau 7-8 eu grwpio ar gyfer dadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân. |
|||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021 NDM7590 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a
Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 28 Ionawr 2021. Dogfennau Ategol Adroddiad y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.49 NDM7590 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio
Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Ionawr 2021. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 NDM7589 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5)
(Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ionawr 2021. Dogfennau Ategol Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.49 NDM7589 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif
5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ionawr 2021. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021 NDM7588 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2021. Dogfennau Ategol Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig) Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.58 NDM7588 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
27.5: 1. Yn cymeradwyo Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2021. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(90 munud) |
Dadl: Cyllideb Ddrafft 2021-2022 NDM7586 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 20.12: Yn nodi'r Gyllideb
Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ar 21 Rhagfyr 2020. Dogfennau Ategol Adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Adroddiad Pwyllgor
yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Adroddiad y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Adroddiad y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Gohebiaeth
y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Llythyr
at y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg Llythyr
at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Mark Isherwood (Gogledd
Cymru) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: Yn credu nad yw
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 yn galluogi Cymru i
adeiladu'n ôl yn well ac adfer yn dilyn pandemig COVID-19. Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd i’r cynnig. Gwelliant 4 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod yr adnodd cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb
ddrafft 2021-22 yn cael ei ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i
ehangu meini prawf cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn
teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn
mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.01 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7586 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
20.12: Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar
gyfer blwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y
Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ar 21 Rhagfyr 2020. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: Yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru
ar gyfer 2021-22 yn galluogi Cymru i adeiladu'n ôl yn well ac adfer yn dilyn
pandemig COVID-19. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni
ddetholwyd gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd i’r cynnig. Gwelliant 4 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adnodd
cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb ddrafft 2021-22 yn cael ei
ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i ehangu meini prawf
cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn teulu sy'n derbyn
credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw
cyllid cyhoeddus ar gael iddynt. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: NDM7586 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 20.12: Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar
gyfer blwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog
Cyllid a’r Trefnydd ar 21 Rhagfyr 2020.
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu a’r Rhaglen Ddeddfwriaethol NDM7587 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii): Yn nodi: a) adroddiad Blynyddol
Llywodraeth Cymru 2020; b) y Rhaglen
Ddeddfwriaethol. Adroddiad Blynyddol Llywodraeth
Cymru 2020 Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Mark Isherwood (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn
cydnabod ymdrechion yr holl weision cyhoeddus a'r cyhoedd i fynd i'r
afael â COVID-19 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac yn rhoi diolch iddynt
am yr ymdrechion hynny. Gwelliant 2 Mark Isherwood (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at
y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun adfer cenedlaethol,
yn enwedig o ystyried y posibilrwydd y gallai 3,500 o bobl golli allan ar
driniaeth canser yng Nghymru. Gwelliant 3 Mark Isherwood (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi ymhellach y
diffyg uchelgais yn y rhaglen ddeddfwriaethol, yn enwedig yr oedi o ran
cyflwyno Deddf aer glân i Gymru cyn diwedd tymor y Senedd, er bod cefnogaeth
drawsbleidiol ar ei chyfer. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.35 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7587 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii): Yn
nodi: a)
adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2020; b) y
Rhaglen Ddeddfwriaethol. Adroddiad
Blynyddol Llywodraeth Cymru 2020 Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
cydnabod ymdrechion yr holl weision cyhoeddus a'r cyhoedd i fynd i'r
afael â COVID-19 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac yn rhoi diolch iddynt
am yr ymdrechion hynny. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 2 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at
y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun adfer cenedlaethol,
yn enwedig o ystyried y posibilrwydd y gallai 3,500 o bobl golli allan ar
driniaeth canser yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi ymhellach y diffyg uchelgais yn y rhaglen ddeddfwriaethol, yn enwedig yr
oedi o ran cyflwyno Deddf aer glân i Gymru cyn diwedd tymor y Senedd, er bod
cefnogaeth drawsbleidiol ar ei chyfer. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7587 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii): Yn nodi: a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2020; b) y Rhaglen Ddeddfwriaethol. Adroddiad Blynyddol
Llywodraeth Cymru 2020 c) yn cydnabod ymdrechion yr holl weision cyhoeddus a'r cyhoedd
i fynd i'r afael â COVID-19 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac yn rhoi diolch
iddynt am yr ymdrechion hynny.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 20.15 cafodd y trafodion
eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 20.19 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |