Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jardine 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad gan Elisabeth Jones (Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol)

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

2.

Nodyn cyfathrebu i'r staff – Non Gwilym

Cofnodion:

Cytunodd Non Gwilym i ddrafftio nodyn ar drafodaethau’r Bwrdd Rheoli ar gyfer y dudalen newyddion.

 

3.

Cofnodion cyfarfod 25 Ionawr

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod ar 25 Ionawr fel cofnod cywir, ac eithrio eglurhad mewn perthynas â'r Dangosfwrdd Adnoddau Dynol (10.1) lle cytunwyd, er bod y Bwrdd Rheoli wedi gofyn am fwy o ddata, i gadw'r adroddiad yn syml. 

 

4.

Strategaeth a gwerthoedd corfforaethol y Comisiwn

Cofnodion:

Cyflwynodd Anna Daniel bapur a baratowyd fel fframwaith i gynorthwyo'r Bwrdd Rheoli i ystyried yr hyn a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Comisiwn newydd mewn perthynas â'i nodau a'i flaenoriaethau strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Yn ogystal, gofynnwyd i'r Bwrdd ystyried gwerthoedd y sefydliad a sut y gellid eu hadnewyddu.

Trafododd y Bwrdd Rheoli y fframwaith a'r argymhellion a chytunodd y byddai:

·                yn integreiddio strategaeth y gyllideb yn strategaeth y Comisiwn;

·                yn pwysleisio parhad y nodau yn ystod Cynulliadau blaenorol, ac yn cryfhau'r dystiolaeth am y llwyddiant a gyflawnwyd yn sgil y nodau;

·                yn ymgorffori'r themâu o'r atodiad yn yr adran craffu ar y gorwel ac yn nodi'r meysydd blaenoriaeth arfaethedig o dan y nodau strategol i'w hystyried gan y Comisiwn;

·                yn rhoi lle mwy amlwg i'r cyfrifoldebau Cydraddoldebau, Dwyieithrwydd a Chynaliadwyedd;

·                yn ailedrych ar y gwerthoedd corfforaethol wedi i'r Comisiwn gytuno ar ei nodau a'i flaenoriaethau strategol.

Camau i’w cymryd: Anna Daniel i gwrdd â Claire Clancy i drafod y fersiwn nesaf o'r papur strategaeth.

 

5.

Dangosfwrdd y Pumed Cynulliad - Chwefror 2016

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd gyfle i weld y dangosfwrdd diweddaraf yn dangos y gwaith sy'n mynd rhagddo, y materion allweddol a'r risgiau.

Ystyriodd y Bwrdd a oes rôl ehangach i'r Penaethiaid o ran cwrdd â'r Aelodau newydd yn ystod yr wythnosau cyntaf a chytunwyd y byddent yn bresennol yn y derbyniad ar ôl ethol y Llywydd, yn ogystal â chyfarfodydd sy'n cael eu trefnu gyda'r Aelodau.

Camau i’w cymryd:

·                Penaethiaid gwasanaeth i sicrhau bod mewnrwyd yr Aelodau yn gyfoes a bod cysondeb o ran arddull a chywirdeb y cynnwys; a nodi unrhyw wirfoddolwyr i helpu i brawfddarllen dogfennau newydd a dogfennau wedi'u diweddaru a choladu gwybodaeth i ymgeiswyr.

 

6.

Risgiau Corfforaethol

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Rheoli y risgiau cyfredol a newydd ar lefel gorfforaethol a nododd y cynnydd o ran lliniaru risgiau a statws presennol pob risg.

Yn dilyn yr adolygiad o'r risg Gallu Corfforaethol ar lefel Bwrdd ac ACARAC, diweddarwyd y disgrifiad o'r risg i adlewyrchu'r adborth.

Ystyriodd y Bwrdd a ddylid rheoli'r risgiau ynghylch pontio i'r Pumed Cynulliad fel risg corfforaethol, a chytunwyd eu bod yn cael eu rheoli'n rhagweithiol o fewn pob llinyn ac y dylid parhau i wneud hynny.

Mewn perthynas ag adroddiad 'Risg ar dudalen' y Cynllun Ymadael Gwirfoddol, dywedodd Non Gwilym y byddai'r rheolwr cyfryngau yn adolygu'r camau i'w cymryd.

Byddai'r risg capasiti Dwyieithrwydd yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu risgiau ynghylch newidiadau posibl i'r gofynion yn y Pumed Cynulliad.

Codwyd y mater o absenoldeb oherwydd salwch a chytunwyd y byddai'r Bwrdd yn trafod hyn yn fanylach mewn cyfarfod yn y dyfodol. Hefyd, codwyd y mater o ddiogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed mewn perthynas â'r paratoadau sydd eu hangen i liniaru'r risgiau ynghylch y trosiant uchel o ran Aelodau yn ystod y cyfnod pontio i'r Pumed Cynulliad.

 

Cloi'r cyfarfod

7.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adborth da am y Penwythnos i'r Teulu yn y Senedd ar 5-6 Mawrth i ddathlu deng mlynedd ers ei agor, a ddenodd dros 3000 o bobl.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 14 Ebrill.