Datblygiad Proffesiynol Parhaus i Aelodau a staff
cymorth y Pumed Cynulliad
Croesawyd Carys Evans i'r cyfarfod i drafod canlyniadau’r adolygiad trylwyr
o raglen DPP y Pedwerydd Cynulliad. Y tîm Datblygiad Proffesiynol Parhaus, gyda
Gareth Watts, oedd yn gyfrifol am yr adolygiad hwn. Y nod oedd dysgu gwersi a
gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol ac roedd yn cynnwys cael barn yr Aelodau
drwy gyfrwng arolwg.
Yn gyffredinol, roedd yr Aelodau'n hapus â’r ddarpariaeth ac roedd nifer
fawr wedi manteisio ar y rhaglen, ond roedd angen rhoi sylw i rai agweddau ee
gwerthuso effaith y DPP yn effeithiol, sicrhau bod yr Aelodau yn atebol am
hyfforddiant eu staff a bod hyfforddiant ar gael i staff cymorth y tu allan i
Gaerdydd.
Gwnaeth y Bwrdd Rheoli yr argymhellion a ganlyn:
·
dylid neilltuo mwy o amser i DPP ac i hyfforddiant cadeiryddion
pwyllgorau’n benodol; dylid seilio’r papur ar adroddiad drafft fforwm y
Cadeiryddion;
·
dylid rhoi mwy o bwyslais ar ddwyieithrwydd - Carys Evans a Mair
Parry-Jones i drafod hyn;
·
dylid cyfuno’r adroddiad ar DPP a'r eitem a ganlyn (croesawu ac ymsefydlu)
mewn un papur;
·
Non Gwilym, Lowri Williams a Carys Evans i drafod sut i hyrwyddo’n allanol
y modd rydym yn darparu ein rhaglen DPP.
1.1 Cyflwynir cyfeiriad
cyffredinol y gwaith a braslun o’r dull o weithredu i’r Comisiynwyr yn eu
cyfarfod ar 21 Hydref.