Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jardine 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1     Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Nicola Callow (Cyfarwyddwr Cyllid), Mike Snook (Pennaeth Pobl a Lleoedd) a Dave Tosh (Cyfarwyddwr Adnoddau’r Cynulliad).

1.2      Datganodd Chris Warner fuddiant yn y mater o strategaeth tâl yn y dyfodol, gan y byddai’n arwain ar drafodaethau cyflog ar gyfer yr FDA.

 

2.

Nodyn cyfathrebu i’r staff – Adrian Crompton

Cofnodion:

2.1     Cytunodd Adrian Crompton i ddrafftio nodyn ar drafodaethau’r Bwrdd Rheoli ar gyfer y dudalen newyddion.

 

 

3.

Cofnodion o’r cyfarfod ar 5 Hydref - i’w dosbarthu drwy e-bost.

Cofnodion:

3.1 Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref yn gofnod cywir.

 

4.

Cyfarfod Strategaeth ac Adnoddau - Adnoddau Dynol

  • Fframwaith a pholisïau recriwtio a phenodi (papurau)
  • Strategaeth tâl ar gyfer y dyfodol (dim papurau heblaw am atodiad 4)
  • Cynllunio capasiti trwy ddull ysgafn
  • Unrhyw fater arall

 

 

Cofnodion:

4.1   Roedd y Bwrdd Rheoli wedi cytuno i neilltuo’r cyfarfod i drafod materion Adnoddau Dynol, wedi’u harwain gan Lowri Williams. Roedd Lowri wedi cyfarfod ag aelodau’r Bwrdd yn unigol i drafod pryderon, a godwyd yn ystod y cylch cynllunio capasiti diwethaf, bod polisïau’r gweithlu yn creu pwysau ar y gallu i gyflawni busnes. Roedd Adnoddau Dynol wedi datblygu cynigion i ymdrin â hyn a hefyd i ymateb i sylwadau gan staff a oedd wedi eu casglu drwy’r arolwg staff a’r archwiliad recriwtio.

 

5.

Fframwaith a pholisïau recriwtio a phenodi

Cofnodion:

5.1   Cyflwynodd Leanne Baker bapur yn amlinellu cynigion ar gyfer newidiadau trefniadol i nifer o bolisïau sy’n gysylltiedig â’r Polisi Recriwtio, gan gynnwys lwfansau, secondiadau, swyddi blaenoriaeth a pholisïau tâl a gwobrwyo.

 

5.2   Pwrpas y Polisi Recriwtio oedd sicrhau bod y Comisiwn yn gallu recriwtio a chadw’r bobl yr oedd eu hangen arno i ddarparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf i’r Cynulliad. Cafodd y newidiadau eu datblygu yn unol â’r egwyddorion recriwtio a gytunwyd ym mis Mawrth 2015 sef teilyngdod, tegwch a bod yn agored.

 

5.3   Yn benodol, trafododd y Bwrdd: rhesymoli talu lwfansau i ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol; trefniadau ar gyfer secondiadau a throsglwyddiadau mewnol heb effeithio’n ddiangen ar gynllunio capasiti a chydweithwyr; y polisi ar swyddi blaenoriaeth i gefnogi gweithwyr heb swydd barhaol i ddychwelyd iddi; a’r dull o recriwtio’n barhaol i swyddi gwag.

 

5.4   Cytunodd y Bwrdd fod y polisïau yn gydbwysedd rhesymol o gysondeb a hyblygrwydd, yn amodol ar egluro rhai mân faterion.

 

5.5   Cytunodd y Bwrdd hefyd ei bod yn bwysig i graffu yn rheolaidd a herio penderfyniadau adnoddau a chydnabyddiaeth y cyd, er mwyn deall arferion gwirioneddol mewn gwahanol rannau o’r sefydliad a sicrhau bod polisïau yn parhau i fod yn ymarferol.

 

5.6   Byddai’r cynigion yn cael eu trafod yn fanwl 
 gyda’r Undebau Llafur.

 

5.7   Camau:

    Lowri Williams i gyfarfod â’r Penaethiaid ar wahân i edrych eto ar y pwyntiau manwl a godwyd; a’r

    Bwrdd Rheoli i dderbyn gwybodaeth reoli reolaidd.

 

6.

Strategaeth tâl ar gyfer y dyfodol

Cofnodion:

6.1   Amlinellodd Wayne Cowley ddull posibl i dâl staff pan fydd y cytundeb presennol yn dod i ben ym mis Hydref 2016. Bu’r Bwrdd yn trafod y goblygiadau a gofynnwyd i ragor o waith gael ei wneud i sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng newid cadarnhaol a fforddiadwyedd.

 

7.

Cynllunio capasiti

Cofnodion:

7.1   Byddai cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 23 Tachwedd yn cael ei neilltuo ar gyfer y drafodaeth ar gynllunio capasiti ac adnoddau. Byddai Pecyn o ddata Adnoddau Dynol ar gael er gwybodaeth i’r Bwrdd cyn y cyfarfod.

 

7.2  Camau: Aelodau’r Bwrdd Rheoli i gysylltu â Lowri Williams os oedd angen cymorth pellach i baratoi ar gyfer y cyfarfod.

 

8.

Diweddariad ar ddangosfwrdd y Pumed Cynulliad

Cofnodion:

8.1   Derbyniodd y Bwrdd y dangosfwrdd diweddaraf yn dangos y gwaith sy’n mynd rhagddo, y materion allweddol a’r risgiau.

 

9.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

9.1   Adroddiad Rheolaeth Ariannol - roedd yr adroddiad ar gyfer mis Hydref wedi cael ei baratoi a dywedodd Claire Clancy wrth y Bwrdd fod y rhagolwg diwedd blwyddyn ar hyn o bryd yn awgrymu tanwariant. Byddai’r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yn craffu ar y gyllideb yn fanwl yn ei gyfarfod nesaf ac yn gwneud penderfyniadau buddsoddi priodol.

 

9.2   Adolygiadau Perfformiad a Datblygu Rheolwyr - ar ddydd Gwener 30 Hydref, roedd 79% o’r staff wedi cwblhau eu hadolygiadau.

 

9.3   Gorchymyn etholiadau - dywedodd Non Gwilym fod y tystysgrifau a dderbyniwyd gan y Swyddogion Canlyniadau yn rhoi gwybod i’r Cynulliad am Aelodau etholedig ar adeg eu hethol, nawr yn gallu cael eu llofnodi a’u hanfon ymlaen yn electronig.

 

9.4   Diolchodd y Bwrdd i Lowri Williams a’i thîm am yr holl ymdrech a wnaed o ran y gwaith polisi a thâl a’r paratoadau ar gyfer y cyfarfod.

 

9.5 Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 23 Tachwedd.