Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jardine 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Croesawyd Candice Boyes a Rhodri Wyn Jones a oedd yn bresennol er mwyn arsylwi ar y cyfarfod.

Cafwyd ymddiheuriadau gan Nicola Callow (Pennaeth Cyllid).

Nid oedd buddiannau i’w datgan.

 

2.

Nodyn cyfathrebu i staff - Kathryn Potter

Cofnodion:

Cytunodd Kathryn Potter i ddrafftio nodyn ar drafodaethau’r Bwrdd Rheoli ar gyfer y dudalen newyddion.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol (19 Ionawr 2015)

Cofnodion:

Byddai cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr yn cael eu dosbarthu ar ôl y cyfarfod i gytuno arnynt.

 

4.

Strategaeth ac Archwiliad Sgilliau Dwyieithog

Cofnodion:

Cyflwynodd Mair Parry-Jones y Strategaeth Sgiliau Dwyieithog, a oedd yn un o ofynion y Cynllun Ieithoedd Swyddogol, er mwyn sicrhau bod y sgiliau dwyieithog priodol ar gael ar draws y  meysydd gwasanaeth i gefnogi gofynion y Cynllun. Roedd archwiliad sgiliau wedi cael ei baratoi i ddarganfod lefelau sgiliau iaith staff ac i lywio cynlluniau iaith pob maes gwasanaeth yn y dyfodol.  

Gofynnwyd i'r Bwrdd Rheoli adolygu a chymeradwyo'r Strategaeth a'r Archwiliad.  Roedd yn bwysig i'r Bwrdd lunio a llwyr gefnogi amcanion y Strategaeth. Byddai'r fersiynau terfynol yn cael eu cymeradwyo gan Gomisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros Ieithoedd Swyddogol.

Cytunodd y Bwrdd y dylai ffocws yr Archwiliad fod ar sgiliau'r iaith Gymraeg, gan gynnwys lefelau hyder unigolion i ddefnyddio'r sgiliau hynny. Byddai'r Archwiliad yn fater sensitif i rai staff ac, felly, roedd yn bwysig bod digon o sicrwydd o fewn yr arolwg ei hun yn ogystal â chynllun cyfathrebu clir wrth ei gyflwyno.  Argymhellodd y Bwrdd y dylid ei dreialu ymhellach er mwyn profi sampl o staff i sicrhau bod y data a ddychwelir yn ddefnyddiol.

Camau i’w cymryd: Mair Parry-Jones a Craig Stephenson i sicrhau eglurder a gwell llif ar gyfer amcanion y Strategaeth. Y ffurflen archwilio sgiliau i'w diwygio fel y trafodwyd gyda'r camau nesaf, cynllun cyfathrebu a fersiynau diwygiedig i'w hystyried ymhellach gan y Bwrdd Rheoli.

 

5.

Egwyddorion recriwtio

MB 02-15 Papur 2 – Egwyddorion recriwtio

 

Cofnodion:

Croesawyd Lowri Williams i'r cyfarfod i drafod egwyddorion recriwtio drafft sydd wedi'u hanelu at gynyddu tryloywder yn y prosesau recriwtio. Roedd y Cynulliad wedi ymrwymo i recriwtio ar sail teilyngdod, tegwch a bod yn agored ac roedd yr egwyddorion, a ddyfeisiwyd yn dilyn archwiliad mewnol o recriwtio, yn darparu fframwaith clir ar gyfer polisïau, canllawiau ac arferion recriwtio. 

Croesawodd y Bwrdd Rheoli'r ddogfen fel un a oedd y cynnig eglurder a diogelwch ar gyfer recriwtio yn y dyfodol a chytunodd ar y cynnwys a'r arddull. Byddai gwaith pellach yn dilyn er mwyn adolygu'r gyfres o bolisiau Adnoddau Dynol ac i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r egwyddorion.

Roedd disgwyl i'r ddogfen gael ei hystyried gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn eu cyfarfod ar 9 Chwefror.

Camau i’w cymryd:

·      Lowri i ychwanegu 'egwyddorion' at y pwyntiau bwled yn 3.2

 

6.

Diweddariad Risg Corfforaethol

Cofnodion:

Cynhaliodd y Bwrdd eu hadolygiad cyfnodol o'r gofrestr risg gorfforaethol gan gynnwys sgan cyffredinol am risgiau posibl. Ystyriodd y Bwrdd a ddylid codi Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau fel risg corfforaethol, ond cytunodd bod digon o reolaethau ar waith a monitro rheolaidd gan y Bwrdd Rheoli.

Ystyriodd y Bwrdd ymhellach a ddylai'r prosiect Teleffoni gael ei godi fel risg gorfforaethol, gan fod terfyn amser pendant i adael y contract presennol, a chytunwyd ar hynny. Ymhlith y nifer fawr o reolaethau a mesurau lliniaru dywedodd Dave Tosh fod trafodaethau ar y gweill gyda'r cyflenwr ynghylch opsiynau i ymestyn y cytundeb os fydd angen.

Dywedodd Non Gwilym bod y cyfryngau cymdeithasol yn dal yn risg gorfforaethol hyd nes y bydd Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol yn cael ei benodi, ond dylai hyn ddigwydd yn fuan.

Adolygodd y Bwrdd y siart cryno sy'n amlinellu tebygolrwydd ac effaith pob risg gorfforaethol a chytunodd y byddai'n ddefnyddiol i adolygu'r fformat.

Camau i’w cymryd: Dave Tosh a Kathryn Hughes i ystyried fformatau amgen a fyddai'n gwneud y wybodaeth yn fwy ystyrlon a'u cyflwyno gyda'r diweddariad nesaf

7.

Diweddariad ar y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau - 26 Ionawr

Eitem Lafar

Cofnodion:

Rhoddodd Claire Clancy'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diwethaf y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau, lle y cytunwyd y byddai siart cysoni yn cael ei baratoi ar gyfer y cyfarfod dilynol i ddangos dosraniad yr arian a oedd ar gael i'w fuddsoddi rhwng cyfarfodydd diweddar ac i gadarnhau balans mwyaf diweddar y gronfa fuddsoddi.  Byddai hyn yn golygu bod prosiectau y gellid eu cyflawni cyn diwedd y flwyddyn ariannol yn cael eu cynllunio'n fanwl gywir.

Cymeradwyodd y Bwrdd i amnewid pen y camera robotig ar gyfer ystafell bwyllgora 3, yn amodol ar gadarnhad o'r cronfeydd buddsoddi sydd ar gael.

Cam i’w gymryd: Aelodau'r Bwrdd Rheoli i sicrhau bod gan yr Adran Gyllid amcanestyniadau cyllideb cyfredol hyd at ddiwedd y flwyddyn.

 

7.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 26 Chwefror a bydd yn canolbwyntio ar sesiwn herio'r   Datganiad Llywodraethu blynyddol.