Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00 – 14.00)

1.

Rhagarweiniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod. Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r Bwrdd am gytuno i gynnal y cyfarfod drwy gyfrwng telegynhadledd ac am ail-drefnu ei fusnes yng ngoleuni’r digwyddiadau trasig ar 7 Tachwedd.

1.2 Cafodd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Jane Roberts nad oedd yn gallu bod yn y cyfarfod ar fyr rybudd oherwydd amhariad teithio ac felly nid oedd yn gallu cymryd rhan drwy delegynhadledd. Rhoddodd Jane sylwadau ar bob eitem cyn y cyfarfod.

1.3 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref.

1.4 Bu’r Bwrdd yn cydymdeimlo â theulu, ffrindiau a chydweithwyr Carl Sargeant, y cyn Aelod Cynulliad, yn dilyn eu colled. Diolchodd y Bwrdd i’r canlynol:

-     y tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau am y gefnogaeth a’r cyngor y maent yn parhau i’w darparu i deulu a Staff Cymorth Carl; a’r

-     ysgrifenyddiaeth am ddiweddaru’r Bwrdd am y materion sy’n codi.

1.5 Nododd y Bwrdd y darpariaethau ar gyfer dirwyn i ben swyddfa Carl Sargent. 

1.6 Nododd y Bwrdd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2018 - 19, a oedd yn cynnwys dau argymhelliad o ran effaith tanwariant y Bwrdd ar gyllideb y Comisiwn.

1.7 Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i oblygiadau ariannol ail-wampio’r Cabinet yn ddiweddar ar:

-     y lwfans ar gyfer pleidiau gwleidyddol yng ngoleuni’r darpariaethau o fewn y Penderfyniad; a

-     y gyllideb gyffredinol yng ngoleuni creu dwy swydd Weinidogol newydd.

1.8 Nododd y Bwrdd ddyddiadau ei gyfarfodydd a dyddiadau posibl cyfarfodydd y Grwpiau Cynrychiolwyr.

(14.00 – 14.30)

2.

Eitem i’w thrafod: Y trefniadau ar gyfer hysbysu am ymddygiad amhriodol

Cofnodion:

2.1. Cytunodd y Bwrdd â’r datganiad gan y Llywydd, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ac arweinwyr y grwpiau plaid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru nad oes lle i unrhyw ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad.

2.2.    Nododd y Bwrdd ymrwymiad Comisiwn y Cynulliad i weithio gyda’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad i ddatblygu Polisi Parch ac Urddas.

2.3.    Ar ôl cwblhau’r gwaith hwn, bydd y Bwrdd yn ystyried a oes angen iddo ymgymryd ag unrhyw waith pellach i gryfhau’r darpariaethau ar gyfer Staff Cymorth ar gyfer ymdrin ag unrhyw gwynion rhwng aelodau staff, gan gynnwys yr un safonau tegwch, trylwyredd a chefnogaeth fel mewn achosion sy’n ymwneud ag Aelodau.

 

 

 

(14.30 – 15.30)

3.

Eitem i benderfynu arni: Adolygiad o’r cymorth staffio ar gyfer yr Aelodau: Cynigion ar gyfer casglu data

Cofnodion:

3.1 Nododd y Bwrdd y flaenraglen waith ddiwygiedig ar gyfer yr adolygiad.

3.2 Ystyriodd y Bwrdd a chytunodd ar y cwestiynau drafft i’w defnyddio yn ystod y cyfweliadau un-i-un gydag Aelodau a Staff Cymorth i lywio’r adolygiad. Nododd y Bwrdd y byddai’r rhai a wahoddwyd i gyfweliad yn cynrychioli demograffeg Aelodau a Staff Cymorth yn fras.

3.3 Cytunodd y Bwrdd y dylai’r cwestiynau ar gyfer y cyfweliad hefyd ffurfio arolwg a fyddai’n agored i’r holl Aelodau a’u Staff Cymorth eu cwblhau. Nododd y Bwrdd y dylai’r arolwg fod ar gael yn electronig ac mewn copi caled.

3.4 Cytunodd y Bwrdd y dylai’r cwestiynau ar gyfer y cyfweliad a’r arolwg gael eu treialu gyda’r Grwpiau Cynrychiolwyr.

3.5 Cytunodd y Bwrdd i gynnal digwyddiad gwybodaeth dros dro ar gyfer Staff Cymorth i drafod yr adolygiad.

Camau gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i:

-       baratoi fersiynau terfynol o sgript y cyfweliad a’r arolwg, a’u hail-ddosbarthu’n electronig i’r Bwrdd i’w hadolygu;

-       treialu’r cwestiynau gyda’r Grwpiau Cynrychiolwyr;

-       lansio’r arolwg yn gynnar ym mis Rhagfyr;

-       nodi ffyrdd arloesol o annog Aelodau a Staff Cymorth i gwblhau’r arolwg;

-       trefnu i’r cyfweliadau ddigwydd ym mis Ionawr; a

-       threfnu digwyddiad gwybodaeth dros dro ar gyfer Staff Cymorth ym mis Ionawr i drafod yr adolygiad.