Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes  Deputy Clerk: Ryan Bishop

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd y derbyniwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies AC, Comisiynydd y Cynulliad ac aelod o'r Pwyllgor. Roedd Julian Luke, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, yn bresennol fel arsylwr.

1.2        Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Cofnodion 21 Hydref, camau gweithredu a materion yn codi

Cofnodion:

ACARAC (01-20) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod ar 21 Hydref 2019

ACARAC (01-20) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd 

2.1 Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 21 Hydref.

3.

Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd

Cofnodion:

ACARAC (01-20) Papur 3 – Adroddiad diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd

3.1        Cyflwynodd Gareth Watts yr adroddiad a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y gwaith Llywodraethu a Sicrwydd diweddar, ac amlygodd y canlynol:

 

·                     roedd y Penaethiaid Gwasanaeth i gyd wedi cwblhau Datganiad Sicrwydd, a oedd yn cael eu defnyddio i lywio datganiadau ar lefel Cyfarwyddiaeth cyn cyfarfod i ddarparu archwiliad annibynnol a herio'r rhain ym mis Chwefror;

·                     byddai canlyniadau Asesiad o Ansawdd Allanol (EQA) yr oedd yn ei gynnal o Wasanaeth Archwilio Mewnol Cynulliad Gogledd Iwerddon yn cael eu nodi mewn adroddiad i’r Pwyllgor Archwilio a Risg yn y gwanwyn;

·                     byddai canfyddiadau'r adolygiad i effeithiolrwydd y systemau sydd ar waith ar gyfer cyllidebau hyfforddi'r Comisiwn yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol a'u rhannu gyda'r ACARAC maes o law; ac

·                     arhosodd y cyfrifoldeb dros lunio’r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon gyda'r tîm Llywodraethu ac roedd gwaith yn mynd rhagddo ar gynllunio a chomisiynu darnau o waith.

3.1        Dywedodd Gareth fod Tîm Arweinyddiaeth y Comisiwn wedi ystyried canfyddiadau'r adroddiad ar archwilio prosesau Rheoli Absenoldeb. Nododd y Pwyllgor fod cynnydd yn cael ei wneud gyda chynigion ar gyfer gweithredu argymhellion ynghylch hyfforddiant i reolwyr llinell, gwelliannau mewn monitro amser hyblyg a gwell adroddiadau o'r system Adnoddau Dynol/y Gyflogres.

3.2        Mewn perthynas â'r Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2019-20, roedd adroddiadau ar adolygiadau diweddar o asedau sefydlog a chaffael wedi’u dosbarthu y tu allan i'r pwyllgor.

3.3        Ar gyfer yr adolygiad caffael, a oedd yn canolbwyntio ar strategaeth y Comisiwn i ymgysylltu â mwy o gyflenwyr Cymru, mae'r adroddiad yn cydnabod cynnydd da hyd yma, gyda rhai mân argymhellion.

3.4        Gan ymateb i gwestiynau ynghylch pa waith ymarferol a wnaed i ymgysylltu â chyflenwyr Cymru, eglurodd Dave fod ymgysylltu yn digwydd yn ystod camau adnewyddu contractau ac yn barhaus gyda chontractwyr ac is-gontractwyr cyfredol, megis y gwasanaethau arlwyo ac ystadau. Nododd Dave hefyd enghraifft o ddiwrnod agored diweddar i ymgysylltu â chyflenwyr a gafodd dderbyniad da a gynhaliwyd gan ein contractwyr rheoli ystadau mawr.

3.5        Ailadroddodd Ann bwysigrwydd parhau i ymgysylltu'n rhagweithiol â chyflenwyr Cymru, gan gynnwys drwy gyfryngwyr fel y Siambr Fasnach a Chydffederasiwn Diwydiant Prydain fel bod cyfleoedd yn cael cyhoeddusrwydd mewn modd amserol.

3.6        Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch archwiliad cydymffurfio’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol, eglurodd Gareth y byddai’n cynnwys adolygiad o’r offer a ddefnyddir i fesur cydymffurfiad, gyda’r nod o roi sicrwydd pellach i’r Prif Weithredwr a’r Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros yr ieithoedd swyddogol.

3.7        Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch cynlluniau i adolygu trefniadau diogelwch y Comisiwn, eglurodd Dave fod trafodaethau yn parhau gyda Heddlu De Cymru, o ystyried natur gyfnewidiol bygythiadau.

Cam gweithredu:(3.7)  Gareth Watts i rannu'r cwmpas ar gyfer yr archwiliadau ar gydymffurfio â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol a newidiadau rheoli prosiect.

4.

Trafod y strategaeth Archwilio Mewnol arfaethedig

Cofnodion:

ACARAC (01-20) Papur 4 – Cynllun Archwilio Mewnol 2020-21

4.1        Amlinellodd Gareth y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2020-21 gan nodi bod archwiliadau a gynhaliwyd yn ystod 2019-20 wedi helpu i nodi meysydd i'w cwmpasu. Roedd Gareth yn croesawu awgrymiadau pellach gan y Pwyllgor.

4.2        Amlinellodd Gareth yr adolygiad sydd i ddod o’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer cofnodi, diogelu ac amddiffyn asedau diriaethol y Comisiwn.  Amlinellodd hefyd fod yr archwiliad i reoli risg yn adolygiad cyfnodol o effeithiolrwydd trefniadau rheoli risg ar lefel gorfforaethol, gwasanaeth a phrosiect.

4.3        Roedd y Pwyllgor yn awyddus i glywed rhagor o wybodaeth yn ymwneud â'r archwiliad arfaethedig o ddiwylliant cydymffurfio, a gynhelir ym mis Tachwedd 2020. Eglurodd Gareth fod hwn yn ddilyniant i waith archwilio penodol blaenorol i roi sicrwydd ehangach ar gydymffurfiad yn gyffredinol. Byddai'n cynnwys nodi meysydd allweddol o ofynion statudol, polisi a phroses ar gyfer yr archwiliad i ganfod sut y cafodd cydymffurfiad ei fesur a lefelau hyder mewn mesurau.

4.4        Diolchodd y Cadeirydd i Gareth am ei waith yn llunio’r Cynllun Archwilio Mewnol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Pwyllgor.

Cam gweithredu:(4.3) Gareth Watts i rannu'r cwmpas ar gyfer yr archwiliad i ddiwylliant cydymffurfio.

5.

Y diweddaraf am Archwilio Allanol

Cofnodion:

 

ACARAC (01-20) Papur 5 - Y wybodaeth ddiweddaraf am archwilio allanol

5.1        Croesawodd y Cadeirydd Gareth Lucey ac Ann-Marie Harkin i'r cyfarfod. Eglurodd Gareth fod y wybodaeth ddiweddaraf am archwilio allanol wedi'i dosbarthu y tu allan i'r pwyllgor ym mis Rhagfyr. Roedd wedi cynnwys manylion am gyfrifo'r ffi archwilio lle gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad pellach. Cytunodd Gareth i ddarparu rhagor o fanylion y tu allan i'r pwyllgor.

5.2        Tynnodd Gareth sylw'r Pwyllgor at astudiaeth genedlaethol o drefniadau gwrth-dwyll ar draws sector cyhoeddus Cymru. Roedd hyn mewn ymateb i adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym mis Mehefin 2019 lle cafodd cynigion gan yr Archwilydd Cyffredinol i gynnal adolygiad mwy manwl ar draws 40 o gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru eu cymeradwyo. Roedd hyn yn cynnwys Comisiwn y Cynulliad.

5.3        Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch cyfrinachedd unrhyw ganfyddiadau, sicrhaodd Gareth aelodau'r Pwyllgor, er y byddai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ac felly'n destun archwiliad cyhoeddus, na fyddai'n tynnu sylw penodol at unrhyw broblemau gyda threfniadau'r Comisiwn.

5.4        Nododd y Cadeirydd y gwaith a gynlluniwyd ac y byddai'r Comisiwn yn ystyried unrhyw ddysgu o'r astudiaeth ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi.

Cam gweithredu:(5.1) Swyddfa Archwilio Cymru i ddarparu nodyn ar gyfansoddiad costau cyfradd ddyddiol mewn perthynas â ffioedd archwilio, yn benodol dadansoddiad o'r gorbenion a'r costau a ariennir yn uniongyrchol. 

6.

Trafod y strategaeth Archwilio Mewnol arfaethedig

Cofnodion:

ACARAC (01-20) Papur 6 - Strategaeth Archwilio Allanol 2019-20

6.1        Cafodd y Pwyllgor drosolwg o Gynllun Archwilio 2020 gan Ann-Marie, gan nodi amcangyfrif o gost ar yr un gyfradd is â'r llynedd. Byddai'r archwiliad yn dilyn y dull arferol sy'n seiliedig ar risg ac yn seiliedig ar y rhagdybiaethau a amlinellir yn y cynllun.

6.2        Tynnodd Ann-Marie sylw'r Pwyllgor hefyd at newidiadau personél yn y tîm archwilio gydag Uwch-archwilydd newydd ar waith. Eglurodd hefyd y byddai Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru yn ardystio'r cyfrifon i gynnal annibyniaeth a gwrthrychedd gan fod yr Archwilydd Cyffredinol wedi'i gyflogi o'r blaen gan y Comisiwn.

6.3        Rhagwelwyd y gallai mwyafrif y gwaith archwilio gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mai a dod â'r canfyddiadau gerbron ACARAC yn ei gyfarfod ym mis Mehefin.

6.4        Trafododd y Pwyllgor gwmpas yr archwiliad mewn perthynas â swyddfeydd Aelodau'r Cynulliad. Hysbysodd Ann-Marie y Pwyllgor eu bod yn gallu dibynnu ar wybodaeth a ddarperir o archwiliad mewnol a’r tîm Cymorth Busnes i Aelodau, sy'n cynnal ymweliadau safle â swyddfeydd yn rheolaidd. Clywodd y Pwyllgor y byddai sicrwydd ychwanegol yn cael ei ddarparu o ymweliadau safle fel rhan o'r adolygiad i asedau'r Comisiwn.

6.5        Gofynnodd y Cadeirydd i'r ysgrifenyddiaeth drefnu sesiwn friffio i aelodau'r Pwyllgor ar waith y tîm Cymorth Busnes i Aelodau a monitro treuliau Aelodau'r Cynulliad.

Cam gweithredu: (6.5) Darparu sesiwn friffio i aelodau ACARAC ar waith y tîm Cymorth Busnes i Aelodau a monitro treuliau Aelodau'r Cynulliad.

7.

Y diweddaraf am y gyllideb

Cofnodion:

ACARAC (01-20) Papur 7 - Y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol 2019-20 a chyllideb 2020-21

7.1        Cyflwynodd Nia yr eitem, gan ofyn i aelodau'r Pwyllgor nodi'r sefyllfa ariannol gyfredol ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20.

7.2        Tynnodd Nia sylw at y newid yng nghyflwyniad y gyllideb i adlewyrchu na fyddai'r Comisiwn bellach yn defnyddio unrhyw danwariant sy'n codi o gyllideb Penderfyniad y Bwrdd Taliadau i ariannu gwaith prosiect. Roedd y Pwyllgor yn dawel eu meddwl o glywed hynny, gan mai hon oedd y flwyddyn gyntaf o gyflwyno'r gyllideb fel hyn, a byddai'n destun adolygiad parhaus.

7.3        Mewn ymateb i gwestiynau ar y cynnydd yng nghanrannau trosiant staff, eglurodd Nia fod y cyfartaledd hwn yn dod â'r Comisiwn yn unol yn agosach â chyfartaledd y sector cyhoeddus ac nad oedd yn peri pryder i uwch-reolwyr ar hyn o bryd.

7.4        Holodd y Pwyllgor swyddogion ynghylch y gwariant ar yr ystâd a dyfodol Tŷ Hywel. Hysbysodd Dave y Pwyllgor, o dan y trefniadau cyfredol, fod angen lefel y buddsoddiad i gynnal a chadw'r adeilad.

7.5        Wrth ymateb i gwestiynau ynghylch y targed arbedion gwerth am arian, nododd Nia fod y wybodaeth hon bellach yn cael ei chasglu at ddibenion monitro mewnol yn unig.

 

 

8.

Adolygiad o bolisïau cyfrifyddu

Cofnodion:

ACARAC (01-20) Papur 8 – Adolygiad o bolisïau cyfrifyddu

8.1        Cyflwynodd Nia y papur a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed i adolygu polisïau cyfrifyddu'r Comisiwn.

8.2        O ystyried y cymhlethdodau dan sylw, a'r newidiadau sylweddol i rai dulliau cyfrifyddu ar gyfer y sector cyhoeddus, diolchodd y Cadeirydd i Nia a'i thîm am y gwaith trylwyr a wnaed ar adolygu polisïau cyfrifyddu'r Comisiwn. Nododd hefyd yr ymddengys bod y Comisiwn ar y blaen i gyrff eraill y sector cyhoeddus wrth roi'r newidiadau ar waith.

 

9.

Adolygiad o systemau ariannol

Cofnodion:

ACARAC (01-20) Papur 9 – Adolygiad o’r system gyfrifyddu

9.1        Cyflwynodd Nia y papur a oedd yn amlinellu casgliadau ar adolygiad o system gyfrifyddu'r Comisiwn.

9.2        Nododd y Pwyllgor fod cyflenwr presennol y system gyfrifyddu o dan gontract i ddarparu cefnogaeth i'r system hyd at 2022.

9.3        Sicrhawyd y Pwyllgor fod yr adolygiad wedi cadarnhau bod buddion disgwyliedig y system, a gyflwynwyd bron i dair blynedd yn ôl wedi'u gwireddu, wedi gwella'r amgylchedd rheolaeth fewnol a'i bod yn addas at y diben.

10.

Adroddiad Risgiau Corfforaethol

Cofnodion:

ACARAC (01-20) Papur 10 - Risgiau corfforaethol

ACARAC (01-20) Papur 10 - Atodiad A - Crynodeb o’r Gofrestr o Risgiau Corfforaethol

ACARAC (01-20) Papur 10 - Atodiad B - Risgiau corfforaethol a nodwyd

10.1     Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Dave am statws risgiau corfforaethol y Comisiwn a gwahoddwyd hwy i wneud sylwadau.

10.2     Nododd y Pwyllgor, er gwaethaf diffyg symud yn y cyfraddau risg, fod ymdrech barhaus yn cael ei gwneud i reoli'r risgiau, rhai nad oedd gan y Comisiwn fawr ddim dylanwad, os o gwbl arnynt. Rhoddodd Dave sicrwydd fod y risgiau'n cael eu monitro'n rheolaidd ar lefelau priodol.

10.3     Croesawodd y Pwyllgor y cynnydd ar gamau lliniaru i gryfhau rheolaethau lle bo hynny'n bosibl, gan gynnwys penodi Swyddog Diogelu.

10.4     Cytunwyd y byddai geiriad risg Brexit yn cael ei adolygu ac y rhoddid ystyriaeth i asesu'r risgiau o amgylch tirwedd gyfansoddiadol y DU ar ôl ymadael â’r UE.

10.5     Trafododd y Pwyllgor ffyrdd yr oedd y Comisiwn yn bwriadu ymateb i'r dirwedd gyfansoddiadol ehangach sy'n newid, yn enwedig o ran gwaith ymgysylltu. Nododd Manon fod y Bwrdd Gweithredol wedi cynnal sesiynau cynllunio'r Chweched Cynulliad a oedd yn edrych ar amrywiol senarios posibl a'u goblygiadau. At hynny, roedd staff y Comisiwn wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn nifer o sesiynau staff yn edrych ar sut y gallai fod angen i'r sefydliad ymateb i'r gwahanol senarios hynny pe byddent yn cael eu gwireddu.

10.6     Awgrymodd y Cadeirydd y dylid cynnal trafodaethau pellach ynghylch rôl y Pwyllgor wrth fonitro'r risgiau cyfansoddiadol hyn mewn sesiwn edrych i’r dyfodol.

Cam gweithredu:(10.5) Rhannu canlyniadau trafodaethau ar y strategaeth ar gyfer y Chweched Cynulliad.

11.

Risgiau Corfforaethol - risg Diwygio'r Cynulliad

Eitem lafar – Risgiau Corfforaethol Diwygio'r Cynulliad

Cofnodion:

11.1     Croesawodd y Cadeirydd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad, Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu a Richard Thomas, Rheolwr Gweithredu yn y Tîm Cyfansoddiadol, i'r cyfarfod.

11.2     Dywedodd Siwan fod y Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 15 Ionawr 2020 ac amlinellodd sut roedd hyn wedi newid y proffil risg. Amlinellodd hefyd y llywodraethu a oedd ar waith i alluogi gwneud penderfyniadau a rheoli risgiau a rôl Bwrdd Prosiect Diwygio'r Cynulliad wrth oruchwylio gweithrediad yr agweddau ar y Ddeddf a oedd o fewn cyfrifoldeb y Comisiwn.

11.3     Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, disgrifiodd Siwan sut roedd y strwythur llywodraethu, gan gynnwys bwrdd y prosiect a'r Tîm Integredig Newid Enw yn hwyluso’r broses o ledaenu gwybodaeth yn effeithiol yn fewnol i staff ac i randdeiliaid allanol. Ychwanegodd fod cyngor manwl hefyd yn cael ei roi i Aelodau'r Cynulliad a'u staff pan fyddai penderfyniadau'n cael eu gwneud.

11.4     Nododd Siwan fod y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad wedi ceisio cyllid gan y Comisiwn i gynnal cynulliad dinasyddion. Byddai'r tîm Trawsnewid Strategol yn parhau i ddarparu cefnogaeth i'r Llywydd a'r Comisiwn yn eu hymgysylltiad â’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.

11.5     Byddai cynigion ar weithredu’r Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) mewn perthynas â'r newid enw yn cael eu cyflwyno i'r Comisiwn ar 27 Ionawr lle byddent yn gwneud penderfyniadau ar sail barn y mwyafrif pe bai angen.

11.6     Mewn perthynas â gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed, eglurodd Richard Thomas sut roedd y Comisiwn yn gweithio'n agos gyda'r holl randdeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Etholiadol, a oedd yn arwain ar gofrestru i bleidleisio, a grwpiau eraill i sicrhau ymgyrch gynhwysfawr i godi ymwybyddiaeth. Ychwanegodd fod deunydd ar gyfer ysgolion eisoes wedi'i baratoi ac, er bod hyn yn cael ei arwain yn bennaf gan Lywodraeth Cymru, roedd gan y Comisiwn ran allweddol i'w chwarae wrth ymgysylltu â'r bobl ifanc.

11.7     Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am fod yn bresennol ac am roi diweddariad mor drylwyr i aelodau'r Pwyllgor.

Cam gweithredu:(11.3) Rhoi brîff ar waith i ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol mewn perthynas ag agweddau ar newid enw y Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru).

12.

Seibr ddiogelwch

Cofnodion:

ACARAC (01-20) Papur 11 - Adolygiad o ddibyniaethau contract Microsoft

12.1     Croesawodd y Cadeirydd Mark Nielson, Pennaeth TGCh a Darlledu a Jamie Hancock, Pennaeth Seilwaith a Gweithrediadau (TGCh), i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am ddarparu papur cynhwysfawr cyn y cyfarfod.

12.2     Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, rhoddodd Mark a Dave sicrwydd y byddai'r Comisiwn yn parhau i wneud yn siŵr eu bod yn manteisio i'r eithaf ar y gwasanaethau Microsoft sydd ar gael, wrth gofio am yr hyn a oedd gan y diwydiant ehangach i'w gynnig a chadw i fyny â'r dechnoleg ddiweddaraf. Ychwanegodd Mark, nawr bod y swydd Rheolwr Diogelwch a Chydymffurfiad a grëwyd yn ddiweddar wedi'i llenwi, y byddai hyn yn hwyluso'r ymgyrch barhaus i sicrhau bod mesurau seiberddiogelwch cadarn ar waith ac yn effeithiol.

12.3     Clywodd y Pwyllgor, yn dilyn asesiad o'r gwahanol opsiynau sydd ar gael i ddarparu gwahaniad daearyddol o dapiau wrth gefn a chopïau, barnwyd mai Azure Backup oedd yr ateb gorau i'r Comisiwn. Ymhlith manteision eraill, roedd yr ateb yn integreiddio'n llawn â gwasanaethau cwmwl presennol y Comisiwn a oedd yn dileu unrhyw ddibyniaeth ar dâp, neu storfa leol.

12.4     Hysbysodd Jamie y Pwyllgor fod Microsoft yn anelu at greu amgylchedd canolfan ddata carbon niwtral, a oedd yn unol â thargedau ac ymrwymiadau amgylcheddol y Comisiwn.

12.5     Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd ynghylch p’un a oedd profion wedi digwydd mewn perthynas ag adfer data o system wrth gefn, hysbysodd Jamie y Pwyllgor fod rhywfaint o brofion wedi'u cynnal yn llwyddiannus a bod hyn wedi llywio cynlluniau ar gyfer profion llawnach.

12.6     Ailadroddodd Mark y gwahoddiad i aelodau'r Pwyllgor fynychu Microsoft Datacentre lleol, gan gyfuno hyn â thrafodaeth â swyddogion Microsoft ac Azure.

13.

Adborth ar ystyriaeth REWAC o Strategaeth Ymgysylltu'r Comisiwn

Eitem lafar

Cofnodion:

13.1     Rhoddodd Ann ac Arwyn ddiweddariad i'r Pwyllgor ar feysydd yr ymdriniwyd â hwy yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu ar 14 Ionawr, a byddai cofnodion ohono'n cael eu rhannu ag aelodau ACARAC. Mae'r meysydd dan sylw fel yr amlinellir isod:

  • cynigion ar gyfer cynllun prentisiaeth lefel graddedig lle roedd Lowri Williams, Pennaeth Adnoddau Dynol, wedi cynnig pedwar opsiwn i'w hystyried;
  • y dull arfaethedig o wneud cais am achrediad Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl, ar ôl sicrhau statws Aur yn flaenorol;
  • Cynllun Cydnabod y Comisiwn lle, ar ôl cael eu henwebu gan eu cyfoedion, cydnabuwyd staff am gyfraniadau at werthoedd y Comisiwn drwy dystysgrif; a
  • diweddariad ar Strategaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd y Comisiwn a'i gynigion ar gyfer cyflawni.

13.2     Diolchodd y Cadeirydd i Ann ac Arwyn am y diweddariad ac roedd yn edrych ymlaen at gael diweddariad pellach maes o law.

14.

Adborth ar bresenoldeb yn Fforwm Cadeiryddion ARAC

Eitem lafar

Cofnodion:

14.1 Rhoddodd y Cadeirydd adborth i aelodau'r Pwyllgor ar bresenoldeb Fforwm Cadeiryddion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Roedd y pynciau wedi cynnwys symudiad cyflym technoleg yn y sector archwilio, yn enwedig o ran prosesu data a dadansoddeg data.

15.

Crynodeb o’r Ymadawiadau

Cofnodion:

ACARAC (01-20) Papur 12 – Crynodeb o’r ymadawiadau

15.1 Nododd y Pwyllgor yr ymadawiadau o weithdrefnau caffael arferol a amlinellwyd yn y papur.

16.

Y flaenraglen waith

Cofnodion:

ACARAC (01-20) Papur 13 - Y flaenraglen waith

16.1    Gan na thrafodwyd yr eitem hon - byddai aelodau'r Pwyllgor yn cael eu gwahodd i wneud sylwadau y tu allan i'r pwyllgor.

Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 27 Ebrill 2020.