Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes  Deputy Clerk: Ryan Bishop

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1        Cafwyd dau ymddiheuriad gan Suzy Davies AC, Comisiynydd ac Ann-Marie Harkin, Swyddfa Archwilio Cymru.

1.2        Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a gofynnodd i'r aelodau ystyried cofnodion y cyfarfod ym mis Mehefin a lywiodd yr argymhelliad bod y Prif Weithredwr a'r Clerc yn llofnodi'r cyfrifon.

 

2.

Cofnodion cyfarfod 17 Mehefin, y camau i'w cymryd a'r materion a gododd

Cofnodion:

ACARAC (04-19) Papur 1 - Cofnodion cyfarfod 17 Mehefin 2019

ACARAC (04-19) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd

2.1        Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 17 Mehefin. Cwblhawyd yr holl gamau ar wahân i'r cam yn ymwneud â’r Comisiwn Etholiadol a oedd yn parhau.

2.2        Ymatebodd y Cadeirydd i gwestiwn gan Ann Beynon drwy ddweud bod trosolwg cyffredinol o ystyriaethau gan y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a Gweithlu (REWAC) wedi cael ei drefnu ar gyfer cyfarfod mis Hydref.

3.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon

Cofnodion:

ACARAC (04-19) Papur 3 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2018-2019

ACARAC (04-19) Papur 3 – Atodiad A – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2018-19

3.1        Gwahoddodd y Cadeirydd a Manon Antoniazzi sylwadau gan aelodau'r pwyllgor ar yr adroddiad blynyddol a'r cyfrifon ac eglurwyd mai rôl y Comisiwn oedd cymeradwyo'r elfen adroddiad blynyddol.

3.2        Ailadroddodd y Cadeirydd ei fod o’r farn bod yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn hygyrch ac yn ddisgrifiad da iawn o weithgaredd a chyflawniadau'r Cynulliad.

3.3        Tynnodd Hugh Widdis sylw at wall geirio yn yr adroddiad blynyddol; cafodd y gwall ei gywiro.

3.4        Gwahoddodd y Cadeirydd Nia Morgan i wneud sylwadau ar y cyfrifon ac i roi rhywfaint o gyd-destun i'r addasiad a wnaed i adlewyrchu effaith dyfarniad diweddar McCloud yn y Goruchaf Lys. Roedd y dyfarniad hwn yn gofyn am addasiad o £1 miliwn i'r swm y mae Comisiwn y Cynulliad yn ei gydnabod mewn perthynas ag ymrwymiad cynllun pensiwn Aelodau'r Cynulliad.

3.5        Esboniodd Nia, ar wahân i'r addasiad pensiwn, nad oedd dim wedi newid ers i'r ISA260 gael ei gyflwyno ym mis Mehefin. Esboniodd hefyd y broses y cytunwyd arni gyda'r actiwarïaid a SAC o amcangyfrif effaith cyllidebol y dyfarniad pensiwn, gan y byddai ailbrisiad llawn yn costio tua £5,000, ac nid oedd yn cael ei ystyried yn werth da am arian. Ychwanegodd Gareth Lucey fod dull y Comisiwn o weithredu yn un synhwyrol a'i fod yn gyson â'r amcangyfrif o addasiadau a roddwyd ar waith gan gyrff eraill y sector cyhoeddus yr effeithir arnynt. Croesawodd y Cadeirydd y dull hwn o weithredu a’r ffaith bod SAC wedi cytuno arno. Diolchodd y Cadeirydd i Nia am y ffordd yr ymdriniwyd â'r addasiad munud olaf.

3.6        Dywedodd Nia Morgan fod y tanwariant yn parhau yn ôl y disgwyl. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith y byddai'r gwersi a ddysgwyd o'r archwiliad eleni yn cael eu trafod mewn cyfarfod adolygu a drefnwyd rhwng SAC a thîm cyllid y Comisiwn. Byddai hyn yn cynnwys trafodaethau ynghylch amseriad yr archwiliad ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn hwyluso llofnodi'r cyfrifon yn gynharach.

3.7        Cadarnhaodd Gareth Lucey nad oedd SAC wedi nodi unrhyw faterion perthnasol wrth archwilio cyfrifon y Comisiwn.

3.8        Diolchodd y Cadeirydd i Nia a phawb a gymerodd ran am eu cyfraniad at yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon ac argymhellodd yn ffurfiol y dylai Comisiwn y Cynulliad gymeradwyo i'r Prif Weithredwr a'r Clerc, a'r Swyddog Cyfrifyddu lofnodi'r Datganiad Cyfrifon.

4.

Adroddiad diweddaru gan SAC

Cofnodion:

ACARAC (04-19) Papur 4 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan SAC

4.1        Ymdriniwyd â'r adroddiad hwn yn eitem 3; nid oedd gan SAC ddim i'w ychwanegu.

 

5.

Sganio’r gorwel

·         Eitem lafar

Cofnodion:

5.1    Gwahoddodd y Cadeirydd swyddogion i roi trosolwg o feysydd gwaith sylweddol a heriau tebygol yn ystod y misoedd nesaf i helpu i lywio blaenraglen waith y Pwyllgor a nodi lle y gallai ychwanegu gwerth. Trafodwyd y syniadau a ganlyn:

·         heriau a gyflwynwyd o ran paratoi ar gyfer Brexit, yn dibynnu ar a fyddai bargen, dim bargen, neu estyniad i'r cynlluniau ymadael;

·         gwaith parhaus i gyflwyno diwygio'r Cynulliad, gan gynnwys newidiadau i enw'r Cynulliad, prosesau etholiadol a'r oedran pleidleisio, a sut y caiff hyn ei gyfleu orau; 

·         diwygio ehangach, tymor hwy ynghylch maint y Cynulliad;

·         y newid ffocws ar gyfer strategaethau cyfathrebu ac ymgysylltu'r Comisiwn;

·         yr adolygiad sydd ar ddod o gefnogaeth i bwyllgorau'r Cynulliad;

·         parhau i ganolbwyntio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol y Comisiwn, yr oedd adroddiad blynyddol ar ei gyfer i fod i gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn yn ystod yr wythnosau nesaf;

·         paratoadau ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2021 a threfniadau pontio;

·         newidiadau yn y trefniadau llywodraethu ar gyfer rhaglenni a phrosiectau wrth sefydlu Swyddfa Rhaglen a Newid;

·         parhau i ganolbwyntio ar seiberddiogelwch.

5.2    Rhoddodd Dave sicrwydd i'r Pwyllgor ynghylch cyfathrebu    parhaus â Phwyllgor Busnes y Cynulliad, Fforwm y Cadeiryddion a Llywodraeth Cymru o ran rheoli capasiti Aelodau a staff y Comisiwn.

6.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

ACARAC (04-19) Papur 5 - Y flaenraglen waith

6.1    Er y byddai'r Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y meysydd blaenoriaeth a amlinellir yn eitem 5 uchod fel mater o drefn, cytunwyd y byddai'r eitemau canlynol yn cael eu hychwanegu at y flaenraglen waith i'w hystyried:

·         y wybodaeth ddiweddaraf am gynllunio senarios ar gyfer Brexit yng nghyfarfod mis Hydref;

·         y wybodaeth ddiweddaraf am brofi ymatebion i ddigwyddiadau seiberddiogelwch fel rhan o wybodaeth ddiweddaraf reolaidd yng nghyfarfod mis Hydref;

·         gwerthuso'r trefniadau a’r strwythur llywodraethu newydd, h.y. y bwrdd gweithredol a'r tîm arweinyddiaeth;

·         adborth ar ddatblygu strategaethau cyfathrebu ac ymgysylltu'r Comisiwn, gan gynnwys ystyriaethau gan REWAC.

6.2    Cytunodd y Pwyllgor i ystyried sesiwn ar y cyd â REWAC i drafod sut y gallent hwy, ac arbenigwyr allanol o bosibl, ychwanegu gwerth at ddatblygu strategaethau cyfathrebu ac ymgysylltu’r Comisiwn.

6.3    Gofynnodd y Cadeirydd i'r aelodau gyfrannu unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau pellach at y flaenraglen waith.

6.4    Cytunwyd bod cyflwyniad a gafwyd mewn cyfarfod pwyllgor gan Ganolfan Lywodraethu Cymru yn flaenorol wedi bod yn ddefnyddiol o ran rhoi persbectif allanol ar y sefyllfa wleidyddol, a chytunodd y Cadeirydd i ystyried cael cyflwyniad tebyg ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

7.0      Unrhyw fater arall

7.1    Gofynnodd Nia am farn aelodau'r pwyllgor am feysydd a oedd yn debygol o gael eu codi pan fyddai’n bresennol mewn sesiwn dystiolaeth yn y Pwyllgor Cyllid sydd ar ddod ynghylch Deddf Archwilio'r Cyhoeddus (Cymru), yn enwedig o ran gosod ffioedd archwilio.

7.2    Trafododd y pwyllgor osod ffioedd archwilio yn gyffredinol ar draws y sector cyhoeddus a disgrifiodd Gareth Lucey y broses ar gyfer gosod ffioedd ar gyfer archwilio cyfrifon y Comisiwn. Cadarnhaodd y byddent yn parhau i edrych ar ffyrdd o ostwng y ffi ymhellach, er y cytunwyd bod hyn yn anodd oherwydd yr effeithlonrwydd a gyflwynwyd eisoes. Cadarnhaodd hefyd fod yr archwiliadau mewnol o dreuliau Aelodau'r Cynulliad, yn ogystal ag archwiliadau mewnol eraill, wedi helpu i gadw'r costau i lawr.

7.3        Ychwanegodd Gareth Watts, er bod y cwmpas i ddibynnu ar archwilio mewnol yn gyfyngedig, roedd y protocol gweithio ar y cyd rhwng y Comisiwn a'r SAC wedi helpu i wneud y mwyaf o'r ddibyniaeth honno ac osgoi dyblygu.

7.4        Diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r pwyllgor a'u swyddogion am eu presenoldeb a'u cyfraniadau.

8.0      Sesiwn breifat

8.1        Bu Gareth Lucey mewn sesiwn breifat gydag aelodau'r pwyllgor unwaith i'r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd cofnodion yn ystod y sesiwn hon.

Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 21 Hydref 2019.