Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynadledda 23 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes Deputy Clerk: Buddug Saer
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant Cofnodion: 1.1 Datganodd Eric Gregory ei fod yn dal i fod yn rhan o'r tîm gweithredu ar
gyfer yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. 1.2 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau eraill. |
|
Cofnodion a materion yn codi Cofnodion: ACARAC (01-18) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd
2017 ACARAC (01-18) Papur 2 – Crynodeb o’r camau gweithredu 2.1
Cymeradwywyd
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd a nodwyd y wybodaeth
ddiweddaraf am y camau a nodwyd ym mhapur 2.
2.2 Mewn perthynas â phwynt gweithredu 2.3 (triniaeth o Gyflog Archwilydd
Cyffredinol Cymru), roedd Gareth Watts yn disgwyl manylion ynghylch yr hyn
yr oedd ei angen o ran sicrwydd pellach i'r Ysgrifennydd Parhaol yn dilyn
cyfarfodydd yr oedd ef a Nia Morgan wedi'u cynnal â swyddogion Llywodraeth
Cymru dros doriad yr haf. Roedd y Pwyllgor yn pryderu y gallai hyn fod yn
broblem os na fyddai wedi'i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Byddai
Gareth yn parhau i fynd ar ôl Llywodraeth Cymru ar y mater hwn ac yn
diweddaru'r Pwyllgor maes o law. 2.3 O ran pwynt gweithredu 6.1 (Diogelwch Seiber), cytunwyd y câi
swyddogion o TGCh eu gwahodd i ddod i'r cyfarfod ym mis Ebrill i roi diweddariad
i'r Pwyllgor ar wendidau seiber a chynlluniau ymateb. Camau i’w cymryd -
Pennaeth TGCh a/neu Bennaeth Seilwaith a Rheoli Gweithrediadau i ddod i
gyfarfod mis Ebrill i roi diweddariad i'r Pwyllgor ar ddiogelwch seiber. |
|
Adroddiad Gweithgarwch Archwilio Mewnol Cofnodion: ACARAC (01-18) Papur 3 - Adroddiad cynnydd Archwilio Mewnol, ac
argymhellion monitro 3.1
Cwestiynodd
y Pwyllgor gapasiti Gareth i fodloni'r ymrwymiadau sydd wedi'u hamlinellu yn ei
gynllun archwilio. Cadarnhaodd fod y cynllun diwygiedig yn rhoi ystyriaeth i'w
waith ar yr Adolygiad Capasiti a'i fod yn dal i fod ar y trywydd iawn. Roedd ei amser wedi'i dreulio yn llwyr bron
ar yr Adolygiad Capasiti ers cyfarfod mis Tachwedd a byddai nifer yr
adroddiadau yn cael eu dosbarthu cyn cyfarfod mis Ebrill fodd bynnag. 3.2
Cwestiynodd
y Pwyllgor barodrwydd y Comisiwn am Reoliad Cyffredinol Diogelu Data ym mis Mai
2018. Roedd Dave a Gareth yn credu bod lefel yr ymgysylltiad â'r Rheolwr
Llywodraethu Gwybodaeth a faint o ganllawiau a luniwyd ganddo, ynghyd â rhannu
dogfennaeth ac arferion â sefydliadau eraill, yn dangos bod Comisiwn y
Cynulliad wedi'i baratoi'n dda. 3.3
Cafodd
y Pwyllgor argraff dda gan ddull rhagweithiol y Pwyllgor, a rhoddwyd sicrwydd
iddo yn hyn o beth, yn enwedig o ran y canllawiau a luniwyd ar gyfer Aelodau'r
Cynulliad gyda'r diffyg canllawiau ar gyfer cynrychiolwyr etholedig gan
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Awgrymwyd y gwellid rhannu'r canllawiau hyn a
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gwnaethant groesawu'r Rheoliad Cyffredinol
Diogelu Data - Adolygiad Paratoi yr oedd disgwyl ei
gynnal ym mis Chwefror. 3.4
Nododd
Gareth, yn ogystal â'r Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data, fod y trafodaethau yn
y Fforwm Rhyngseneddol yn cynnwys Brexit a'r datganoli pwerau yn sgil Brexit.
Cytunodd aelodau'r Pwyllgor fod gallu'r Comisiwn i lywio risgiau sylweddol a
sicrwydd cysylltiedig o fewn amgylchedd gwleidyddol i'w ganmol. 3.5
Roedd
adolygiad Sicrwydd Ansawdd Allanol o Gynulliad Gogledd Iwerddon eto i'w drefnu
gan Gareth. Byddai'n cyflwyno'r cynnydd yn erbyn ei gynllun gweithredu Sicrwydd
Ansawdd Allanol yn y cyfarfod nesaf.
Camau i’w cymryd -
Gareth i gyflwyno'r cynnydd yn erbyn ei gynllun gweithredu Sicrwydd
Ansawdd Allanol yn y cyfarfod fis Ebrill.
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad Capasiti Cofnodion: Eitem lafar 4.1
Cafodd
y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad Capasiti yn dilyn cyfarfod
diweddar Comisiwn y Cynulliad unwaith iddynt gymeradwyo 'r adroddiad
cychwynnol. 4.2
Bydd Dave yn arwain cyfnod nesaf yr adolygiad, sef gweithredu'r
argymhellion. Rhoddodd Dave wybod y sefydlwyd grŵp llywio traws-sefydliad
i ddatblygu a chydlynu'r modd y cyflwynir cynllun gweithredu. Roedd disgwyl i
gylch gorchwyl y grŵp gael eu hystyried gan y Bwrdd Rheoli. Amlinellodd
wahanol gamau gweithredu a oedd eisoes yn cael eu datblygu hefyd, megis
cylchoedd diwygiedig ar gyfer cynllunio ac adrodd. 4.3
Cadarnhaodd
Suzy Davies fod y Comisiwn wedi croesawu'r adroddiad ac wedi argymell y dylid
cynnal adolygiad capasiti ar ddechrau pob Cynulliad newydd i lywio'r gwaith o
gynllunio ar gyfer yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r strategaeth. 4.4
Trafododd
y Pwyllgor gyd-destun yr adolygiad o ran yr heriau penodol sy'n wynebu'r Pumed
Cynulliad, gan gynnwys Brexit, diwygio etholiadol y Cynulliad, cyfyngiadau
ariannol a'r awydd i gyfyngu ar niferoedd staff. Trafodwyd hefyd y gwaith manwl
o gynllunio ar gyfer senarios a wneir gan yr uwch swyddogion penodol mewn
perthynas â Brexit a'r Bil Ymadael. 4.5
Awgrymodd y Pwyllgor y dylai'r Comisiwn sicrhau
bod digon o ddata meintiol i fod yn dystiolaeth o ganfyddiadau'r adolygiad a'r
gwelliannau dilynol o ran effeithlonrwydd ac effeithlonrwydd, a sicrhau bod y
dystiolaeth yn addas i graffu arni. Roeddent yn cydnabod, fodd bynnag, ei bod
yn anodd mesur gwerth y gwasanaethau a ddarparwyd neu feincnodi yn erbyn
deddfwrfeydd eraill. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf gan Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion: ACARAC (01-18) Papur 4 - Y wybodaeth ddiweddaraf am archwiliad Swyddfa
Archwilio Cymru 5.1
Cyflwynodd Gareth Lucey
y wybodaeth ddiweddaraf ar ran Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd cyfrifon 2016-17
wedi'u cau'n llawn gyda gostyngiad o £5,221 yn y ffi a amcangyfrifwyd. Câi'r
wybodaeth ddiweddaraf am ganfyddiadau cychwynnol archwiliad 2017-18 ei
chyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Ebrill. Roedd y ffi ar gyfer archwiliad 2017-18 yn
dal i gael ei adolygu'n ffurfiol gan yr Archwilydd Cyffredinol. Gofynnodd y
Cadeirydd am ddadansoddiad o'r ffi i ddangos rolau swydd yr unigolion sy'n
ymwneud â'r broses archwilio. 5.2
Roedd
y tîm hefyd yn gweithio ar friff i'r Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â'i
ymchwiliad i broffilio cyllideb Penderfyniad y Bwrdd Taliadau. Roedd angen
trafodaethau pellach gyda thîm technegol Swyddfa Archwilio Cymru a byddai'r
cyngor a oedd yn cael ei drafftio gan Ann-Marie yn amlinellu safbwynt Swyddfa
Archwilio Cymru o'r manteision a'r anfanteision i ddull presennol a dull
arfaethedig y Cynulliad. 5.3
Cyfarfu'r
tîm hefyd â Gareth Watts i drafod cynnwys cynllun Archwilio Mewnol 2017-18, ac
unrhyw feysydd eraill lle gallai gwaith Gareth roi sicrwydd i archwiliadau
ariannol Swyddfa Archwilio Cymru. Camau i’w cymryd -
Swyddfa Archwilio Cymru
i rannu dadansoddiad o ffi archwilio 2017-18 i ddangos rolau swyddi'r unigolion
sydd ynghlwm wrth y broses archwilio. |
|
Adolygiad o bolisïau cyfrifyddu Cofnodion: ACARAC (01-18) Papur 5 – Adolygiad o bolisïau cyfrifyddu Eitem 7 - Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ACARAC (01-18) Papur 6 - Y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllid 6.1
Cyflwynodd Nia'r ddau
bapur a chroesawodd gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor ynghylch y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf. 6.2
Nododd y Pwyllgor bapur
yr adolygiad o bolisïau cyfrifyddu Pan ofynnwyd iddynt, cadarnhaodd
cynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru eu bod yn fodlon ar driniaeth
dadfeiliadau a amlinellwyd yn y papur. 6.3
Roedd y sefyllfa
ariannol gyfredol yn dal i fod yn heriol. Fodd bynnag, ers cyfarfod mis Tachwedd,
rhoddwyd tasg i'r Cyfarwyddwyr ganfod arbedion, gan gynnwys gohirio rhywfaint
o'r gwariant tan 2018-19 i ddarparu lefel wrth gefn a hyblygrwydd yn 2017-18,
gan gydnabod y byddai hyn yn effeithio ar gyllideb 2018-19. Bydd y Bwrdd
Buddsoddi ac Adnoddau yn ystyried cyn bo hir a fydd rhai o'r prosiectau a
ohiriwyd, megis y cylch newid peiriannau TGCh, yn gallu parhau yn 2017-18. 6.4
Byddai offeryn
blaenoriaethu a ddatblygwyd gan Dave a Gareth Watts yn cynorthwyo â
phenderfyniadau cyllido yn y dyfodol. Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth
ddiweddaraf ynghylch y sail a'r meini prawf ar gyfer blaenoriaethu yng
nghyfarfod mis Ebrill. 6.5
Eglurodd Nia yr angen am
gyllideb atodol i dalu am y diffyg a achoswyd gan gynnydd yn rhagolygon Adran
Actiwari'r Llywodraeth o gost y cyllid pensiwn. Cyflwynwyd Memorandwm
Esboniadol i'r Pwyllgor Cyllid ym mis Rhagfyr. 6.6
Cadarnhaodd Dave fod
arbedion wedi'u negodi mewn perthynas â rhai cytundebau heb unrhyw newid i
safon y gwasanaeth. Cyfeiriodd Nia at yr arbedion gwerth am arian yn deillio o
arbedion effeithlonrwydd busnes, ond rhybuddiodd y byddai arbedion mewn meysydd
megis caffael yn fwy anodd yn y dyfodol oni bai fod newidiadau sylweddol i
ddarpariaeth gwasanaethau. Mewn ymateb i gwestiynau am yr ardoll brentisiaeth,
cytunodd Nia i gadarnhau a ddylai cyflogres Aelodau, fel cyflogeion unigol,
gael eu trin ar wahân neu ar y cyd o ran y trothwy £3 miliwn. 6.7
Gwahoddwyd y Pwyllgor i
anfon unrhyw sylwadau i Nia mewn llythyr yr oedd disgwyl iddo gael ei anfon i'r
Pwyllgor Cyllid yn dilyn lansiad ei ymchwiliad i sut yr oedd cyllideb gwariant
Seneddau eraill yn cysylltu â chyflog a lwfans Aelodau. Camau i’w cymryd -
Dave a Gareth Watts i
roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y meini prawf blaenoriaethu a'r
modd y caiff ei weithredu yng nghyfarfod mis Ebrill. -
Nia i egluro a yw'r
ardoll brentisiaeth yn berthnasol i Aelodau'r Cynulliad fel cyflogwyr. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid |
|
Arolwg Effeithiolrwydd y Pwyllgor - cyflwyno'r canlyniadau Cofnodion: ACARAC (01-18) Papur 7 – Arolwg Effeithiolrwydd y Pwyllgor 7.1
Cyflwynodd Kathryn
Hughes ganlyniadau'r arolwg i'r Pwyllgor, a oedd yn ffafriol. Roedd yr arolwg
hwn yn cyflwyno data a oedd yn lled gymaradwy i arolwg 2015, er gwaethaf rhai
adolygiadau a chwestiynau ychwanegol 7.2
Nododd Kathryn ambell faes i'w gwella ar sail y sylwadau a wnaed gan yr
ymatebwyr. Yr unig gam ffurfiol a nodwyd gan y Pwyllgor oedd ystyried defnyddio
cyfarfod mis Gorffennaf yn well, a ddefnyddiwyd ar hyn o bryd i ystyried cau'r
cyfrifon yn derfynol. Gallai hyn gynnwys ystyried canlyniadau'r cyfarfodydd
diwedd tymor blynyddol ar gyfer cynllunio strategol, a gyflwynwyd gan y
Comisiwn, neu ddadansoddiad manylach o risg neu wybodaeth perfformiad. 7.3
At ei gilydd, roedd y
Cadeirydd yn falch â'r canlyniadau cadarnhaol ac yn llongyfarch aelodau a
swyddogion ACARAC. Caiff blaenraglen
waith ddiwygiedig yn cynnwys yr awgrymiadau hyn ei dosbarthu dros doriad yr
haf. Camau i’w cymryd -
Yr Ysgrifenyddiaeth i
weithio â'r swyddogion a'r Cadeirydd i benderfynu pa eitemau y gellid eu
cyflwyno i'w trafod yng nghyfarfod mis Gorffennaf. |
|
Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol (adroddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol) Cofnodion: ACARAC (01-18) Papur 8 - Adroddiad Dangosyddion
Perfformiad Allweddol Ebrill-Medi 2017 Eitem 10 – Adroddiad risgiau corfforaethol ACARAC (01-18) Papur 9 - Risgiau Corfforaethol ACARAC (01-18) Papur 9 - Atodiad A - Adroddiad Cryno ar Risgiau
Corfforaethol ACARAC (01-18) Papur 9 - Atodiad B - Risgiau Corfforaethol a nodwyd Eitem 11 - Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi’i nodi neu risg
newydd ACARAC (01-18) Papur 10 - Y wybodaeth ddiweddaraf am Risgiau Corfforaethol
Rhyng-gysylltiedig y Comisiwn 8.1
Roedd fersiwn derfynol, gyhoeddedig yr adroddiad ar ddangosyddion
perfformiad allweddol wedi'u cynnwys yn y pecyn er gwybodaeth. Dywedodd Dave
fod adolygiad o'r dangosyddion perfformiad allweddol yn mynd rhagddo gyda'r
Penaethiaid Gwasanaeth a'r Cyfarwyddwyr. Roedd hyn yn cynnwys ystyried datblygu
dangosfwrdd mewnol yn ogystal â'r dangosyddion perfformiad allweddol
cyhoeddedig. Cadarnhaodd y bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys ystyried a yw
targedau yn ddigon heriol a pherthnasol. Awgrymodd y Pwyllgor y dylid rhoi
ystyriaeth i seilio targedau ar ganlyniadau yn hytrach nag allbynnau. 8.2
Cyflwynodd
Dave wedyn y papurau risg, gan nodi bod y proffil risg sylweddol parhaus yn
dangos y pwysau a faint o ansicrwydd sy'n wynebu'r sefydliad. 8.3
Er cydnabod bod y risgiau gweddilliol yn parhau i fod yn uchel oherwydd eu
heffaith pe dônt yn wir, awgrymodd y Pwyllgor y dylid herio rheolaethau a
lefelau goddef yn barhaus i sicrhau bod digon yn cael ei wneud i'w rheoli.
Cytunodd y swyddogion i ystyried sylwadau'r Pwyllgor ar opsiynau i gyflwyno
risgiau mewn ffordd wahanol i helpu dadansoddi yn well. 8.4
Nododd
y Pwyllgor y papur yn amlinellu sut roedd y Comisiwn yn rheoli natur
rhyng-gysylltiedig ei risgiau corfforaethol. Roedd y Pwyllgor yn dal i fod yn
fodlon bod y risgiau'n cael eu rheoli'n dda, yn unigol ac ar y cyd. Gan y
byddai'r risgiau rhyng-gysylltiedig yn parhau i gael eu rheoli ar y cyd a'u
hysbysu i'r Pwyllgor ar wahân yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol, cytunwyd nad
oedd angen iddynt weld adroddiadau tebyg ar reoli'r risgiau rhyng-gysylltiedig
yn y dyfodol. |
|
Adroddiad risgiau corfforaethol |
|
Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi’i nodi neu risg newydd |
|
Trafod materion wrth baratoi ar gyfer adroddiad blynyddol y Pwyllgor i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu Cofnodion: ACARAC (01-18) Papur 11 - Adroddiad Blynyddol 2016-17 9.1
Roedd
adroddiad blynyddol 2016-17 wedi ei gynnwys er gwybodaeth. Gofynnodd y
Cadeirydd i aelodau'r Pwyllgor wneud unrhyw sylwadau sydd ganddynt ynghylch
strwythur, fformat a chynnwys yr adroddiad blynyddol nesaf i'r tîm clercio y tu
allan i'r cyfarfod hwn. Camau i’w cymryd - Aelodau'r Pwyllgor i roi gwybod i'r tîm clercio am newidiadau a awgrymwyd
i'r strwythur a'r fformat ynghyd â'r cynnwys ar gyfer yr adroddiad blynyddol
nesaf. |
|
Crynodeb o’r ymadawiadau Cofnodion: ACARAC (01-18) Papur 12 – Crynodeb o’r ymadawiadau 10.1
Nododd
y Pwyllgor un achos o ymadael â’r gweithdrefnau caffael arferol. |
|
Blaenraglen Waith Cofnodion: ACARAC (01-18) Papur 13 - Y flaenraglen waith 11.1
Nododd
y Pwyllgor y Flaenraglen Waith. 11.2
Roedd
y Cadeirydd am atgoffa'r Prif Weithredwr y byddai ei gyfnod fel Cadeirydd ac
Ymgynghorydd Annibynnol, yn ogystal â rôl Keith Baldwin fel Ymgynghorydd
Annibynnol ac aelod o'r Pwyllgor, yn dod i ben ym mis Hydref 2018. 11.3
Yn
y cyfarfod, cytunwyd i ychwanegu'r eitemau a ganlyn: -
Pennaeth TGCh a Phennaeth Seilwaith a Rheoli Gweithrediadau i gyflwyno
eitem ar Ddiogelwch Seiber yng nghyfarfod mis Ebrill. -
Dave i gyflwyno'r meini
prawf blaenoriaethu ar gyfer prosiectau/rhaglenni yng nghyfarfod mis
Ebrill. -
Yr Ysgrifenyddiaeth i
weithio gyda'r swyddogion a'r Cadeirydd i benderfynu pa eitemau y gellir eu
cyflwyno i'w trafod yng nghyfarfod mis Gorffennaf. 12.0
Sesiwn breifat 12.1
Bu Swyddfa Archwilio Cymru yn bresennol mewn sesiwn
breifat gydag aelodau’r Pwyllgor wedi i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni
chymerwyd cofnodion o’r cyfarfod. |