Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Paul Davies, Jocelyn Davies ac Ann Jones.

Roedd William Graham yn dirprwyo ar ran Paul Davies a Jeff Cuthbert yn dirprwyo ar ran Ann Jones yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

(11.15-13.15)

2.

Sesiwn Graffu ar Waith Gweinidogion - Adolygiad o Bynciau y Craffwyd Arnynt mewn Cyfarfodydd Blaenorol

Carwyn Jones AC, Prif Weinidog

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn holi'r Prif Weinidog ar bynciau a drafodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol yn ystod y pedwerydd Cynulliad.

 

Cytunodd y Prif Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth:

·         yn cymharu cyfran yr ymgeiswyr ar gyfer penodiadau cyhoeddus o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol â chyfran y penodiadau gwirioneddol o'r grwpiau hyn;

·         ynghylch effeithiolrwydd y dulliau a ddefnyddir i annog ceisiadau gan bobl yn y grwpiau hynny.

 

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papurau. 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 5

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer Eitem 5 ar yr agenda.

 

(13.15-13.30)

5.

Trafod y dystiolaeth o'r Sesiwn Flaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn graffu gynharach a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog, yn nodi nifer o sylwadau ac argymhellion.