Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad allanol

Cyswllt: Steve George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd.

1.2     Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies ac Ann Jones.  Dirprwyodd Elin Jones ar ran Jocelyn Davies a dirprwyodd  Joyce Watson ar ran Ann Jones.

 

(13:30-15:15)

2.

Sesiwn Graffu ar waith y Gweinidog

 

  • Carwyn Jones AC, Prif Weinidog

 

  • Carys Evans – Dirprwy Gyfarwyddwr, Materion Cyfansoddiadol a Pherthnasau Rhynglywodraethol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi’r Prif Weinidog am y  goblygiadau i Gymru yn dilyn y refferendwm dros annibyniaeth yr Alban a materion o bwysigrwydd lleol i ardal gorllewin Cymru.

 

2.2  Gofynnodd y Cadeirydd nifer o gwestiynau i’r Prif Weinidog.  Roedd y cwestiynau wedi’u cyflwyno gan y cyhoedd drwy’r cyfryngau cymdeithasol a gan ddisgyblion nifer o ysgolion uwchradd.

2.1

2.1 Y Goblygiadau i Gymru yn sgil Refferendwm yr Alban ar Annibyniaeth.

Cofnodion:

2.1 Goblygiadau i Gymru yn dilyn y Refferendwm dros Annibyniaeth yr Alban.

2.2

2.2 Materion sy'n Berthnasol i Orllewin Cymru

Cofnodion:

2.2 Materion perthnasol i orllewin Cymru

3.

Papurau i'w Nodi (15:15 - 15:20)

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau’r ddau bapur.

3.1

3.1 Papur i'w Nodi 1

 

CSFM(4) 02-14 (ptn 1): Llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd - Datganiad Blynyddol ar Fyrddau Cynghori a Arweinir gan y Sector Preifat a Grwpiau Gorchwyl a Gorffen

 

Dogfennau ategol:

3.2

3.2 Papur i'w Nodi 2

CSFM(4)02-14 (ptn 2): Llythyr gan y Cadeirydd i'r Prif Weinidog – gwaith dilynol o'r cyfarfod ar 26 Mehefin (Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd).

 

Dogfennau ategol:

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

 

Eitem 5

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer Eitem 5 ar yr Agenda.

5.

Trafod y Dystiolaeth o'r Sesiwn Flaenorol (15:20 - 15:30)

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd gan y Prif Weinidog yn ystod y sesiwn graffu yn gynharach.