Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Trawsgrifiad

(09.45 - 09.50)

2.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones. Dirprwyodd Sandy Mewies ar ei rhan.

 

 

(09:50 - 11.45)

3.

Craffu ar Waith y Gweinidog - Cydberthynas Llywodraeth Cymru â'r Trydydd Sector a'r Sector Preifat

CSFM(4)-04-13 Papur 1

CSFM(4)-04-13 Papur 2

·         Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog

·         Eleanor Marks, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Gymunedau

·         James Price – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Prif Weinidog yn y meysydd a ganlyn mewn perthynas â'r trydydd sector/cyrff anllywodraethol:

 

·         Rôl y trydydd sector o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus;

·         Cyllid a chystadleuaeth;

·         Llywodraethu; a

·         Gwerth am arian.

 

 

2.2 Yn dilyn hynny, craffodd y Pwyllgor ar waith y Prif Weinidog yn y meysydd a ganlyn mewn perthynas â'r sector preifat:

 

·         Gweithredu Cynllun Busnes Gweinidogion Cymru;

·         Defnydd Llywodraeth Cymru o fyrddau cynghori a arweinir gan y sector preifat;

·         Rôl bosibl y sector preifat o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol; ac

·         Effaith polisi a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar fusnes.

 

2.3 Gofynnodd y Cadeirydd nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog a anfonwyd at y Pwyllgor gan sefydliadau ac aelodau'r cyhoedd, a hynny gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.

 

2.4 Cytunodd y Prif Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn darparu rhagor o wybodaeth am:

 

·         Ba rai o'r argymhellion a wnaed yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, Cydberthynas Llywodraeth Cymru â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan, a gafodd eu derbyn a'u gweithredu;

·         Y gwahaniaeth y mae'r cynllun grantiau cydraddoldeb wedi'i wneud i'r trydydd sector ac i'r sefydliadau sydd wedi cael cyllid, ac i ddull Llywodraeth Cymru o fonitro'r cynllun;

·         Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mesur effeithiolrwydd Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru.

 

2.5 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ragor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer y grwpiau gorchwyl a gorffen.

 

 

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 4 a 5

 

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(11.45 - 11.55)

5.

Trafod y dystiolaeth o'r sesiynau blaenorol

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Prif Weinidog yn ystod y sesiwn graffu flaenorol.

 

 

(11.55 - 12.05)

6.

Trafod ymateb y Prif Weinidog i argymhellion y Pwyllgor yn dilyn ei gyfarfod diwethaf

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb y Prif Weinidog i'r llythyr a anfonwyd gan y Pwyllgor ar seilwaith gogledd Cymru yn dilyn ei gyfarfod yng ngogledd Cymru ar 19 Gorffennaf.  Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am eglurder ar nifer o faterion.