Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sian Phipps 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:15 - 09:30

1.

Sesiwn friffio anffurfiol cyn y prif gyfarfod

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor sut y byddai’n hoffi ymdrin â’r cyfarfod.

09:30

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd.

09:30 - 11:30

3.

Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog.

 

Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

 

3.2 Roedd Claire Fife, Rheolwr y Rhaglen Ddeddfwriaethol, Llywodraeth Cymru, gyda’r Prif Weinidog.

 

3.3 Gwnaeth y Pwyllgor waith craffu ar y Prif Weinidog yn y meysydd canlynol:

·         Cynllunio a chydgysylltu’r rhaglen ddeddfwriaethol;

·         Ymgynhoriadau ac ymgysylltu;

·         Trafodaethau â Llywodraeth y DU; a

·         Materion ar ôl deddfu a rhoi deddfau ar waith.

 

 

Hyrwyddo Menter

 

3.4 Roedd James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth gyda’r Prif Weinidog; a Rob Hunter, Cyfarwyddwr, Cyllid – Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.

 

3.5 Gwnaeth y Pwyllgor waith craffu ar y Prif Weinidog yn y meysydd canlynol:

·         Menter ac entrepreneuriaeth yng Nghymru;

·         Polisi trawsbynciol;

·         Cefnogaeth i fusnes a chreu busnesau; a

·         Menter mewn addysg ac entrepreneuriaeth yr ifanc.

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 5

Cofnodion:

Eitem 5.

11:30 - 11:45

5.

Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd gan y Prif Weinidog.

 

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyfarfod yn breifat cyn diwedd tymor yr hydref i drafod y busnes sydd ar ddod.