Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Webber 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf grŵp gorchwyl a gorffen y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ystyried materion llywodraethu ac atebolrwydd mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru.  

(9:00-9:15)

2.

Cylch Gorchwyl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ystyried materion llywodraethu ac atebolrwydd mewn cysylltiad ag Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(4)-05-11 – Papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd yr Aelodau ar gylch gwaith a chylch gorchwyl y grŵp gorchwyl a gorffen.

(9:15-10:15)

3.

Amcangyfrif o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru

PAC(4)-05-11 – Papur 2

 

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Kevin Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol; Ann Marie Harkin, Cyfarwyddwr y Grŵp Adnoddau; a Matthew Hockridge, Cynghorydd Datblygu Busnes a Pholisi.

 

3.2 Bu’r Aelodau yn craffu ar amcangyfrifon incwm a gwariant swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2013.

 

Camau i’w cymryd:


Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu:

 

·         Dadansoddiad cost a budd ar gyfer gweithredu system adnoddau dynol a chyflogres annibynnol yn Swyddfa Archwilio Cymru.

·         Rhagor o wybodaeth am yr adolygiad o fflyd gerbydau Swyddfa Archwilio Cymru.

Trawsgrifiad