Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Virginia Hawkins 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1     Cafwyd ymddiheuriadau gan Antoinette Sandbach. Estynnodd y Cadeirydd groeso i Russell George, a oedd yn dirprwyo ar ei rhan yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 17.48.

(13.00 - 13.40)

2.

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Tystiolaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

CFP(4)-03-11 papur 1

                Dr Clare Eno, Uwch Gynghorydd ar Bysgodfeydd

Dr Sue Gubbay, Aelod o Gyngor Cefn Gwlad Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Clywodd y Grŵp dystiolaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, a gytunodd i ddarparu gwybodaeth am gost y cynllun newydd ar gyfer rheoli llongau.

(13.40 - 14.20)

3.

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Tystiolaeth gan Gyswllt Amgylchedd Cymru

CFP(4)-03-11 papur 2

          John Clark, RSPB Cymru

Debbie Crockard, y Gymdeithas Cadwraeth Forol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Grŵp dystiolaeth gan Gyswllt Amgylchedd Cymru, a gytunodd i ddarparu rhagor o wybodaeth am hawliau pysgota hanesyddol.

4.

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

CFP(4)-03-11 papur 3

Alun Davies AC, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Rory O'Sullivan, Cyfarwyddwr, Materion Gwledig

Stuart Evans, Pennaeth y Polisi Pysgodfeydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Clywodd y Grŵp dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog, a gytunodd i ysgrifennu at y Grŵp cyn y Nadolig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am ei drafodaethau â Gweinidog Senedd y DU ynghylch rhywogaethau nad oes cwota ar eu cyfer, a’r concordat.

Trawsgrifiad