Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

1.b

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Nid oedd buddiannau i'w datgan.

1.c

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion 27 Ionawr yn gofnod cywir.

2.

Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd – Strategaeth lleihau carbon

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar gyfres o egwyddorion, targedau a chamau gweithredu a fydd yn sail i’r strategaeth lleihau carbon newydd o 2021 i 2030.

Trafododd y Comisiynwyr y camau gweithredu a'r argymhellion, a nodi wrth i'r strategaeth gael ei chwblhau y dylid canolbwyntio mwy ar newid diwylliant ac ymddygiadau. Gwnaethant gytuno hefyd i gydnabod, fel Corff Corfforaethol, bod argyfwng hinsawdd yn bodoli.

3.

Capasiti Adnoddau’r Comisiwn – y wybodaeth ddiweddaraf

Cofnodion:

Roedd y Comisiynwyr wedi gofyn am wybodaeth bellach ynghylch y swyddi a nodwyd i gefnogi’r gwaith o gyflawni eu strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu sydd newydd ei chytuno.

Roedd y Comisiynwyr eisoes wedi cytuno ar yr egwyddor o ddyrannu adnoddau ychwanegol i gefnogi eu blaenoriaeth strategol o ymgysylltu. Buont yn trafod y wybodaeth bellach ac ymrwymodd y Llywydd i ddarparu briff ychwanegol i egluro'r berthynas rhwng y rolau newydd a chyflawni'r strategaeth.

4.

Gohebiaeth y Bwrdd Taliadau

Cofnodion:

Bu'r Comisiynwyr yn trafod llythyrau gan y Bwrdd Taliadau ynghylch ymgynghoriad y Bwrdd ar y Penderfyniad drafft ar gyfer y Chweched Senedd, ac ynghylch ystyriaeth bellach y Bwrdd o'r materion mewn perthynas â chostau a ysgwyddwyd gan Aelodau am redeg eu swyddfeydd, ac eithrio'r rhai y mae’r Penderfyniad yn darparu ar eu cyfer, lle gwnaethant ddau argymhelliad.

Cytunodd y Comisiynwyr i ysgrifennu yn ôl at y Bwrdd gyda'u casgliadau mewn perthynas â'r argymhellion, gan gytuno, drwy fwyafrif, i ddwyn ymlaen cyhoeddi data o ran defnydd i ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf, ac i ddarparu gwybodaeth i gefnogi gwaith y Bwrdd tuag at gynnwys y darpariaethau hyn yn y Penderfyniad. Ar ôl trafod barn y Bwrdd ynghylch cyflwyno 'cap', cytunwyd i gadw’r status quo ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Cytunwyd hefyd i dynnu sylw at ddau fater sy'n codi o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad, sef esboniad ynghylch y ddwy elfen gyllido a nodwyd i gefnogi ymgysylltu ag etholwyr, a statws yr eiddo a ariennir gan y Comisiwn.

5.

Opsiynau o ran lle yn y dyfodol – hyblygrwydd cynyddol y swyddfeydd o fewn Tŷ Hywel

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr gynigion i newid rhywfaint ar y lle sydd ar gael yn Nhŷ Hywel i roi mwy o hyblygrwydd i swyddfeydd yr Aelodau.

 

 

6.

Pontio o ran yr Etholiad – y dull gweithredu

Cofnodion:

Nododd y Comisiwn wybodaeth a ddarparwyd am gynllunio ar gyfer diddymu’r Pumed Cynulliad a’r cyfnod pontio dros gyfnod etholiad 2021.

Cytunodd y Comisiynwyr i ystyried materion penodol i wneud penderfyniad yn eu cylch mewn cyfarfodydd yn ddiweddarach yn 2020.

7.

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Craffu ar Gyfrifon 2018-19

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr gais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am wybodaeth bellach mewn perthynas â'r ymateb i ddau o'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor.  Nododd y Comisiynwyr y llythyr gan y Pwyllgor a chytunodd ar ymateb.

8.

Coronafeirws

Cofnodion:

Ar ôl cael eu briffio, bu'r Comisiynwyr yn trafod y camau a gymerwyd eisoes, yr hyn sy'n cael ei wneud, a'r penderfyniadau y mae angen eu gwneud ar hyn o bryd wrth ymateb i’r coronafeirws, Covid-19. Gwnaethant gytuno ar gamau gweithredu mewn perthynas â throthwyon presennol a thrafod trefniadau ymarferol a pharhad busnes.

Penderfynodd y Comisiwn y bydd gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd yn dod i ben o ddydd Mawrth 17 Mawrth, ac na fyddant yn ailddechrau cyn 26 Ebrill. Bydd adeiladau'n cau i'r cyhoedd ac eithrio'r rhai sy'n cymryd rhan neu'n arsylwi trafodion ffurfiol y Cynulliad. Penderfynodd y Comisiwn hefyd ohirio wythnos fusnes y Senedd yn y gogledd ddwyrain yn ddiweddarach yr haf hwn. 

Trafododd y Comisiynwyr hefyd yr angen i gefnogi staff yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan ledaeniad COVID-19 a'r angen i barhau i ddarparu arweiniad perthnasol i Aelodau'r Cynulliad mewn perthynas â'u staff a'u swyddfeydd eu hunain.

Cadarnhaodd y Comisiynwyr eu cefnogaeth i’r dull arfaethedig a chytunwyd ar y prosesau penderfynu, gan gydnabod y byddai angen gwneud penderfyniadau pellach.

9.

Papurau i’w nodi:

9.a

Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o benderfyniadau recriwtio a roddir ym mhob un o gyfarfodydd y Comisiwn.

9.b

Cofnodion Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ACARAC) – y cyfarfod fis Ionawr

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad a ddarparwyd yn dilyn cyfarfod ACARAC ym mis Ionawr.

10.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Hysbyswyd y Comisiynwyr fod y contract glanhau wedi'i ddyfarnu yn dilyn ymarfer caffael.