Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau gan aelodau'r Comisiwn. Roedd Eric Gregory wedi
ymddiheuro nad oedd yn gallu dod i'r cyfarfod yn ôl y bwriad. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Nid oedd buddiannau i’w
datgan. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y
cyfarfod blaenorol. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Senedd Ieuenctid a'r Dathliadau Ugain Mlynedd Cofnodion: Y wybodaeth ddiweddaraf
am y Senedd Ieuenctid Clywodd y
Comisiynwyr am ddigwyddiad llawn cyntaf y Senedd Ieuenctid, a gynhaliwyd yr
wythnos flaenorol. Dywedodd y
Llywydd y bu’n brofiad cynhyrfus ac roedd yn canmol pawb a fu ynghlwm wrth y
digwyddiad a’r holl waith paratoi. Gellir
gweld cyfarfod y Senedd Ieuenctid yma:http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/79aa22a2-0253-4a7e-badb-3baf239e5ff3?autostart=True Trefniadau i nodi’r
ffaith bod ugain mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol Cafodd y
Comisiynwyr wybod am y trefniadau i nodi’r ffaith bod ugain mlynedd wedi mynd
heibio ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y dathliadau’n dechrau ar
ddyddiad yr etholiad cyntaf, sef 6 Mai. Cytunodd y
Comisiynwyr fod hyn yn gyfle unigryw i feithrin cysylltiadau â phobl Cymru.
Trafodwyd cyfleoedd i gynnwys Aelodau’r
Cynulliad yn y gweithgareddau ac i roi cyfle iddynt arwain digwyddiadau yn eu
hetholaethau a'u rhanbarthau eu hunain, gan danlinellu ei bod yn arbennig o
bwysig estyn allan i gymunedau difreintiedig nad ydynt yn ymwneud fawr ddim â’r
broses wleidyddol. Trafododd
y Comisiynwyr ei bod yn bwysig i Aelodau'r Cynulliad ymrwymo i gymryd rhan yn y mathau hyn o
weithgareddau, naill ei fel unigolion neu fel rhan o bwyllgorau, gan ddysgu o
brofiadau Senedd@. Cafwyd trafodaeth fanwl
ynghylch y posibilrwydd o gynnal Cynulliad Dinasyddion a'r posibilrwydd y
gallai hyn ysgogi pobl i feddwl sut y byddent yn gallu cyfrannu at waith y
Cynulliad yn y dyfodol. Roedd gwahanol
fodelau ar gael, ac roedd y cynnig yn ffafrio gofyn i gwmni arbenigol recriwtio
cyfranogwyr ar sail demograffeg gytbwys. |
|
Capasiti adnoddau'r Cynulliad Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr y
sefyllfa ddiweddaraf o ran adnoddau staffio. Yn benodol, cafwyd trafodaeth am y
risg a oedd yn wynebu’r sefydliad os na fydd digon o staff i ddiwallu
anghenion, a nodwyd yn flaenorol fel pwysau posibl, yn ymwneud â gwaith Brexit. Cytunodd y Comisiwn i
awdurdodi swyddogion i drafod a datblygu cynllun busnes ar gyfer cynyddu nifer
y staff fel bod deg mwy na’r uchafswm presennol, a hynny drwy gadw o fewn y
gyllideb bresennol. Byddai angen trafod hyn ymhellach gyda'r Comisiwn a'r
Pwyllgor Cyllid. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio'r Cynulliad Eitem lafar Cofnodion: Rhoddodd y Llywydd
wybodaeth i'r Comisiynwyr am y datblygiadau diweddaraf ers cyflwyno Bil Senedd
ac Etholiadau (Cymru) ar 12 Chwefror. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno ar yr
amserlen ar gyfer y Bil, gan gynnwys cwblhau cyfnod 1 cyn toriad yr haf a
chwblhau’r cyfnod diwygio dros dymor yr hydref. Byddai'r Llywydd yn rhoi
tystiolaeth i bwyllgorau fel rhan o'u gwaith craffu deddfwriaethol - i'r
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 11 Mawrth ac i'r Pwyllgor
Cyllid ar 4 Ebrill. Gofynnodd y Llywydd i'r
Comisiynwyr i fod yn rhagweithiol a rhoi gwybod am unrhyw bryderon sy’n codi
neu sy’n cael eu trafod mewn fforymau eraill mewn perthynas â’r Bil wrth i’r
broses ddeddfwriaethol fynd rhagddi. |
|
Papurau i’w nodi: |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf a gaiff ei chyflwyno’n rheolaidd ym mhob un o gyfarfodydd
y Comisiwn. |
|
Unrhyw Fater Arall ·
Llythyr gan Joyce Watson Cofnodion: ·
Isafswm cyflog - soniodd
Joyce Watson am y setliad cyflog a gafodd staff y Comisiwn yn ddiweddar, gan ei
groesawu fel cytundeb cadarnhaol. Fodd bynnag, roedd yn teimlo y dylai isafswm
cyflog staff sy'n gweithio yma dan gontract gyfateb i’n hisafswm cyflog ni.
Roedd y comisiynwyr yn gefnogol o ran egwyddor a gofynnwyd am ragor o wybodaeth
er mwyn medru penderfynu ar y mater mewn cyfarfod arall. ·
Tribiwnlys - Cafodd y
Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am Dribiwnlys Cyflogaeth a oedd yn mynd
rhagddo. Yn ystod y cyfnod ers y
cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cwblhau eu Polisi ar gyfer darparu
henebion, cofebion a phlaciau, a chytunwyd ar Ymatebion i argymhellion y
Pwyllgor Safonau a'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. |