Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Datganiad o fuddiant Cofnodion: Ni
chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunwyd
ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd. |
|
Adolygiad o Gofnod y Trafodion - Adroddiad Cynnydd ac Argymhellion Cofnodion: Roedd Comisiynwyr wedi gofyn am adolygiad i archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer
dull y Comisiwn o ran adrodd am y trafodion. Roedd y Comisiwn wedi cael
trosolwg o’r camau a gymerwyd hyd yn hyn. Holodd y Comisiynwyr am yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer newidiadau a
oedd yn cael eu hargymell, a pha mor fuan y byddai gwahanol agweddau yn cael eu
darparu. Roedd ffocws y cynigion ar wneud y mwyaf o werth y Cofnod (sef y
Cyfarfod Llawn a’r pwyllgorau) drwy ei wneud yn fwy hygyrch, yn
ail-ddefnyddiadwy ac yn chwiliadwy gan gynyddu’r defnydd ohono, a chan wneud
prosesau mor effeithlon â phosibl tra’n cynnal ymddiriedaeth o ran ansawdd.
Roedd gan y Comisiynwyr ddiddordeb arbennig mewn sut mae staff yn cael eu
defnyddio’n effeithiol i ateb y galw amrywiol. Dangosodd y Comisiynwyr gefnogaeth
hefyd i’r syniad o edrych ar y datrysiadau TG mwyaf cost effeithiol, gan
gynnwys addasu systemau a ddefnyddir yn llwyddiannus eisoes mewn mannau eraill.
Mynegwyd hefyd bwysigrwydd bod yn glir ynghylch statws y gwahanol gyhoeddiadau,
er enghraifft fersiynau dros dro a fersiynau terfynol. Cytunodd y Pwyllgor i: • gyhoeddi
drafft Cofnod y Trafodion yn gynharach (a hynny’n weithredol o’r Pumed
Cynulliad); • symud
cyhoeddi y fersiwn cwbl ddwyieithog
ymlaen, a hynny’n weithredol o’r Pumed Cynulliad, ac archwilio
opsiynau’r farchnad ar gyfer darparu hyn; ac • archwilio
ateb TG newydd yn fwy manwl. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar gan y Pwyllgor Archwilio 16/11/15 Cofnodion: Roedd Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Cynulliad wedi cyfarfod
ar 16 November. Rhoddwyd diweddariad i’r Comisiynwyr. Cyflwynwyd adroddiadau i’r Pwyllgor
ar Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Sicrhau Ansawdd Archwilio/DPP, ac roeddent wedi
cydnabod cryfder gwaith y Comisiwn ar ymgysylltu gan bwysleisio pa mor bwysig
ydyw i lwyddiant y Cynulliad. Roedd aelodau’r pwyllgor hefyd wedi ystyried
cynllun Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2015-16. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater arall. |