Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Datgan Buddiannau Cofnodion: Ni
chafodd unrhyw fuddiannau eu datgan. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd
ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi. |
|
Trosglwyddo i'r Pumed Cynulliad - croeso, ymsefydlu a datblygiad proffesiynol parhaus Cofnodion: Trafododd y Comisiwn bapur a oedd yn cynnwys cynigion ar gyfer trefniadau
croesawu ac ymsefydlu’r Aelodau a'u staff yn dilyn etholiad y Cynulliad ym mis
Mai 2016. Ystyriodd y Comisiynwyr hefyd argymhellion ar gyfer rhaglen datblygiad
proffesiynol parhaus i’r Aelodau a’u staff cymorth yn ystod y Pumed Cynulliad,
yn dilyn adolygiad trylwyr o raglen DPP y Pedwerydd Cynulliad. Roedd y rhain wedi'u seilio ar:
Cytunodd y Comisiynwyr y dylid defnyddio’r gwersi a
ddysgwyd oddi wrth y trefniadau ymsefydlu a DPP yn ystod y Pedwerydd Cynulliad
a’u bwydo i ddatblygiadau’r Pumed Cynulliad. Nododd y Comisiynwyr fod yr
Aelodau a'u staff cymorth yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd DPP yn fawr, a bod hyn
i’w weld yn yr arolygon bodlonrwydd. Cytunwyd y byddai cyfleoedd yn cael eu
cynnig i'r Aelodau yn y dyfodol mewn ffordd sy'n cydnabod eu holl gyfrifoldebau
amrywiol i sicrhau bod eu hamser yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol a chan
sicrhau gwerth am arian. |
|
Arolwg bodlonrwydd yr Aelodau Cofnodion: Ystyriodd y Comisiwn ganlyniadau pedwerydd arolwg blynyddol yr Aelodau a’u
staff cymorth. Ymatebodd 33 o Aelodau a 107 o staff cymorth i'r arolwg
ac, o’i gymharu ag arolwg 2014, gwelwyd bod sgôr y rhan fwyaf o'r meysydd
gwasanaeth wedi codi. Roedd y Comisiynwyr yn cydnabod y bydd y sylwadau a gafwyd yn werthfawr
wrth iddynt baratoi dull strategol o wella gwasanaethau ymhellach a chytunwyd y
dylid rhannu canlyniadau'r arolwg gyda’r Aelodau a’u staff. |
|
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft 2016-17 Eitem lafar. Cofnodion: Cafodd y Comisiwn adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft y
Comisiwn, a oedd wedi ei gyhoeddi. Trafododd y Comisiynwyr brif argymhellion yr adroddiad a chytunwyd i
dderbyn pob un ohonynt ac ymateb yn gadarnhaol i'r Pwyllgor Cyllid. |
|
Unrhyw fater arall Papur i'w nodi: Diweddariad ar Newid Cyfansoddiadol Cofnodion: Dywedodd
y Llywydd ei bod wedi cael sylwadau’n holi am ymgynghoriad arfaethedig ynghylch
sefydlu senedd ieuenctid. O gofio'r
ymateb cadarnhaol a gafwyd i’r rhaglen ymgysylltu â phobl ifanc, byddai’n rhaid
i unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol gyd-fynd â’r rhaglen honno ac adeiladu ar y
gwaith rhagorol a wnaed yn y cyswllt hwnnw. |