Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau. Cofnodion: Nododd y
Comisiynwyr yr ymddiheuriadau a gafwyd gan Manon Antoniazzi, gan gytuno bod
awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Siwan Davies dros dro i arfer unrhyw un o
swyddogaethau’r Clerc ac iddi gael ei phenodi’n swyddog cyfrifyddu ychwanegol
yn ystod absenoldeb y Clerc. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ddatganiad o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion
y cyfarfod ar 9 Mai yn gywir. |
|
Yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2021-22 Cofnodion: Cymeradwyodd y
Comisiynwyr fersiwn derfynol yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon, yn cwmpasu’r
cyfnod o 1 Ebrill 2021 hyd at 31 Mawrth 2022, yn amodol ar unrhyw fân waith
cywiro neu olygu. Wrth wneud hynny,
trafodwyd elfennau yn ymwneud â'r ieithoedd swyddogol, a chytunwyd i gyfeirio
atynt yn fwy amlwg o fewn blaenoriaethau'r Comisiwn ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Croesawodd y
Comisiynwyr y dull o gyhoeddi’r adroddiad ar ffurf cyfres newydd o dudalennau
ar y we sy’n cyflwyno uchafbwyntiau’r adroddiad (a’r adroddiadau blynyddol
eraill – Amrywiaeth a Chynhwysiant, y Cynllun Ieithoedd Swyddogol a
Chynaliadwyedd). Daethpwyd i’r casgliad bod hyn yn gwneud cynnwys yr adroddiad
yn llawer mwy hygyrch a hylaw. Bydd yr Adroddiad yn
cael ei lofnodi a’i osod ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru ac fe’i cyhoeddir
ar-lein cyn diwedd tymor yr haf. |
|
Adroddiadau Blynyddol |
|
Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021-22 Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr
ar Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021-22 ynghyd â’r gyfres o
adroddiadau data ar amrywiaeth a chynhwysiant a chynllun gweithredu cyfunol. Croesawodd y
Comisiynwyr yr adroddiad ar y gwaith a wnaed a'r camau gweithredu sy’n
gysylltiedig â’r adroddiad ar gyflog cyfartal a’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau,
y bwlch cyflog ethnigrwydd a’r bwlch cyflog anabledd. Roedd y Comisiynwyr hefyd
yn awyddus i feincnodi yn erbyn sefydliadau eraill. Nododd y Comisiwn fod
dadansoddiadau o gefndir economaidd-gymdeithasol ymgeiswyr am swyddi mewnol ac
allanol wedi'u cynnwys. Hefyd, nodwyd y bydd data economaidd-gymdeithasol yn
cael eu casglu ar gyfer gweithlu'r Comisiwn eleni ac y bydd dadansoddiad o’r
data hyn yn cael ei gynnwys yn adroddiad y flwyddyn nesaf. |
|
Adroddiad Blynyddol ar Gynaliadwyedd 2021-22 Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr
ar yr adroddiad ar berfformiad ystâd y Senedd a’i gweithrediadau yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf o ran cynaliadwyedd, yn amodol ar fân newidiadau. Mae’r adroddiad yn
amlygu cyflawniadau amgylcheddol allweddol; perfformiad yn erbyn targedau, gan
gynnwys blwyddyn gyntaf y Strategaeth Carbon Niwtral; y defnydd o gyfleustodau;
a chrynodeb o’r gwelliannau arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i
ddod. Trafododd y
Comisiynwyr gamau i ddechrau newid y derminoleg a ddefnyddir wrth gyfeirio at
allyriadau isel a dim allyriadau, yn enwedig yng nghyd-destun technoleg newydd,
gan nodi y gallai'r datblygiadau hyn gael eu hystyried mewn perthynas â
chaffael hefyd. |
|
Adroddiad Blynyddol y Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2021-22 Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr
ar yr adroddiad ar y gwaith a wnaed ar draws y sefydliad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
i alluogi'r Comisiwn i gynnal ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog
rhagorol. Trafododd y
Comisiynwyr daith dysgwyr a phwysigrwydd bod yn gynhwysol wrth alluogi staff i
ddysgu, gan gadw mewn cof y drafodaeth flaenorol ar amrywiaeth a chynhwysiant.
Gwnaeth y Comisiynwyr sylwadau ar y berthynas â recriwtio, gan gydnabod gwerth
data a gwaith allgymorth wrth gael gwared ar rwystrau. |
|
Ffyrdd o weithio Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
gynnydd y prosiect, y prif risgiau o ran cyflawni a'r camau nesaf. Hefyd,
trafododd y Comisiynwyr faterion yn ymwneud ag opsiynau hirdymor ar gyfer ystâd
Tŷ Hywel ar ôl i’r brydles ddod i ben yn 2032, gan nodi y byddent yn gofyn
am gyngor proffesiynol, wedi’i lywio gan drafodaethau’r Comisiwn. Cytunwyd y
dylid cynnwys pob opsiwn at ddiben gofyn am gyngor ac y byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda
swyddogion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r safle ger y Senedd. |
|
Adroddiad ar Ganlyniadau Arolwg yr Aelodau Cofnodion: Cyflwynwyd canlyniadau'r arolwg o’r Aelodau a’u staff
cymorth yn 2022 i’r Comisiynwyr. Y canlyniadau hyn fydd yn ffurfio’r data
sylfaenol ar gyfer y Chweched Senedd. Mynegodd y Comisiynwyr ddiddordeb yn y gwasanaethau a
ddarperir i gefnogi llesiant gan fod rhai o’r ymatebwyr wedi nodi diffyg
ymwybyddiaeth ohonynt, a holwyd ynghylch cynnydd yr adolygiad urddas a pharch a
oedd wedi’i lywio gan ymatebion i’r arolwg. Cawsant wybod y byddai’r adroddiad
hwn yn dod gerbron y Comisiwn erbyn yr hydref. Cytunodd y Comisiynwyr
i rannu canfyddiadau perthnasol â'r Bwrdd Taliadau, cyn rhannu'r adroddiad ar y
canlyniadau â'r Aelodau, eu staff cymorth a staff y Comisiwn drwy gyhoeddi’r
wybodaeth hon yn fewnol. |
|
Rheolau a chanllawiau ar ddefnyddio adnoddau’r Senedd Cofnodion: Clywodd y Comisiynwyr am ganlyniadau’r adolygiad diweddar
o’r rheolau a chanllawiau ar ddefnyddio adnoddau’r Senedd yn dilyn
ymgynghoriad ffurfiol. Nodwyd mai diben y rheolau hyn yw sicrhau rheoleidd-dra a
phriodoldeb rheolaeth yr arian cyhoeddus a ddarperir i Gomisiwn y Senedd ac y
mae’r Clerc yn atebol amdano fel prif swyddog cyfrifyddu Comisiwn y Senedd o
dan adran 138 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac i’r Comisiwn wrth arfer y
pwerau a ddirprwywyd i’r Clerc gan Gomisiwn y Senedd. Cafodd y Comisiynwyr gopi o destun diweddaraf y rheolau
ynghyd ag adroddiad drafft ar yr ymgynghoriad. Gwnaeth y Comisiynwyr sylwadau
ar y geiriad diwygiedig yn ymwneud ag arfer crebwyll a phwysigrwydd cysondeb
wrth wneud penderfyniadau sy'n ymwneud â derbynioldeb hawliadau. Nododd y Comisiynwyr fersiwn ddiweddaraf y Rheolau a
Chanllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau’r Senedd, sef y fersiwn y mae’r Clerc a’r
Prif Weithredwr yn cynnig ei chyhoeddi, fel prif swyddog cyfrifyddu Comisiwn y
Senedd ac wrth arfer pwerau a ddirprwywyd i’r Clerc a’r Prif Weithredwr gan
Gomisiwn y Senedd, yn dilyn ymgynghoriad. Cawsant wybod y
byddai'r rheolau arfaethedig hefyd yn cael eu darparu i'r Pwyllgor Safonau
Ymddygiad ac mai’r bwriad yw bod fersiwn ddiweddaraf y rheolau yn dod i rym o
ddechrau toriad yr haf. Bryd hynny, bydd yr adroddiad a'r rheolau yn cael eu
cyhoeddi ar wefan y Comisiwn. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19 Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am fesurau
diogelwch a dulliau gweithredu ar yr ystâd. Trafodwyd goblygiadau’r gyfradd
uchel o achosion yn y gymuned ar hyn o bryd, a nodwyd ei bod yn bwysig bod
unrhyw un sy’n dymuno gwisgo gorchuddion wyneb yn teimlo’n gyfforddus i wneud
hynny. Nodwyd ei bod yn
ddoeth parhau’n wyliadwrus a chytunwyd y byddai'n ddefnyddiol ailgyflwyno’r
cyngor i holl ddefnyddwyr yr ystâd. |
|
Papurau i’w nodi |
|
Canlyniadau’r arolwg staff blynyddol Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
ganlyniadau’r arolwg blynyddol o staff y Comisiwn, gan gytuno i rannu'r
adroddiad cryno â’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, ac i
gyhoeddi'r adroddiad ar y canlyniadau, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor
hwnnw. |
|
Diweddariad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad a fydd yn cael ei roi i’r Pwyllgor ynghylch y Gwaith Craffu ar
Gyfrifon 2020-21. Bydd y llythyr yn cynnwys gwybodaeth am gynnydd wrth ymateb
i’r argymhellion ynghylch gwaith y Comisiwn fel cyflogwr yn ei ymrwymiad
parhaus i hybu cynhwysiant i bawb. |
|
Llythyrau’r Pwyllgor Cyllid/Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - COVID Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
ddiweddariad terfynol y Pwyllgorau ar oblygiadau ariannol pandemig COVID-19
mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2021-22. |
|
Cofnodion Drafft y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) - 29 Ebrill 2022 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad arferol ynghylch cyfarfodydd ARAC. |
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau recriwtio) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn yn ystod pob
cyfarfod o'r Comisiwn. |
|
Nodiadau gan Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd, 12 Mai 2022 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad arferol ynghylch cyfarfodydd Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: ·
Diogelu – soniodd
Joyce Watson am waith dilynol yn sgil trafodaethau’r Comisiwn yr hydref
diwethaf, gan gefnogi pwysigrwydd y camau a gymerir gan Aelodau (gan gynnwys
hyfforddiant) i roi sicrwydd priodol i’r cyhoedd o ystyried eu rôl. Cytunwyd y
byddai gwybodaeth gefndir yn cael ei darparu i'r Comisiynwyr. ·
Diwygio'r Senedd - rhoddodd y Llywydd wybod i’r Comisiynwyr y byddai
trafodaeth gynhwysfawr ar y materion perthnasol yn cael ei chynnwys ar yr
agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y Comisiwn. Materion eraill - cyfeiriodd Janet Finch-Saunders at yr
ohebiaeth ynghylch y Jiwbilî a gofynnodd am y protocol o ran baneri. |