Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Cyswllt: Sulafa Thomas 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

Croesawyd Bob Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, a Sarah Pinch, Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Gydnabyddiaeth, Ymgysylltu a'r Gweithlu i'r cyfarfod.

1.b

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

1.c

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nodwyd cofnodion cyfarfod y Comisiwn ar 15 Mawrth.

 

2.

Trefn Lywodraethu a Gweithdrefnau’r Comisiwn

Cofnodion:

Mae’r egwyddorion fframwaith cyffredinol ar gyfer llywodraethu'r Comisiwn, y rheolau ar gyfer cynnal cyfarfodydd y Comisiwn a dirprwyo swyddogaethau i'r Prif Weithredwr, wedi cael eu hadnewyddu yng ngoleuni profiad ac arfer gorau. Mae hyn yn arferol yn dilyn pob etholiad, a gwahoddir y Comisiwn i ddisodli'r dogfennau presennol.

Cytunodd y Comisiynwyr i ddisodli dogfennau fframwaith llywodraethu presennol gyda fersiynau wedi'u diweddaru:

·         Egwyddorion llywodraethu a darpariaethau ategol

·         Rheolau ar gyfer cynnal busnes y Comisiwn

·         Dirprwyo swyddogaethau'r Comisiwn

·         Trefniadau ar gyfer arfer swyddogaethau'r Clerc

Cytunodd y Comisiynwyr i adolygu lefel Dirprwyo swyddogaethau'r Comisiwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Nodwyd hefyd y cynigion ar gyfer cyfathrebu ag Aelodau ynglŷn â gwaith y Comisiwn.

Hysbyswyd y Comisiynwyr hefyd bod nodyn yn nodi fframwaith rheoleiddio rôl a chylchoedd gwaith priodol y Bwrdd Taliadau, y Swyddog Cyfrifyddu, y Comisiwn, y Comisiynydd Safonau a'r Pwyllgor Safonau wedi'i baratoi ar gyfer Grwpiau ac y byddai'n cael ei ddosbarthu.

Bydd y fframwaith llywodraethu yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Senedd er tryloywder.

3.

Portffolios y Comisiwn

Cofnodion:

Mae gan y Comisiwn gyfrifoldeb corfforaethol dros arfer y swyddogaethau a roddwyd iddo a chyfrifoldeb dros lywodraethu'r sefydliad. Mae gan y Comisiynwyr gyfrifoldeb ar y cyd dros benderfyniadau, ac mae ganddynt statws cyfartal mewn trafodaethau.

Gan y caiff y Comisiynwyr ddyrannu cyfrifoldeb dros oruchwylio ystod ddiffiniedig o waith sefydliadol i Gomisiynydd unigol, cytunodd y Comisiynwyr ar y portffolios a ganlyn:

           

Portffolio:

Comisiynydd

Cyfathrebu    

Llywydd

Cyllideb a llywodraethiant (gan gynnwys aelodaeth y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg)      

Ken Skates

Cydraddoldeb

Joyce Watson

Ieithoedd swyddogol          

Rhun ap Iorwerth

Datblygu cynaliadwy

Janet Finch-Saunders

 

Caiff y wybodaeth am y portffolios ei chyhoeddi ar wefan y Senedd er tryloywder.

4.

Adroddiad ARAC / Adroddiad Blynyddol REWAC ac Ailstrwythuro Uwch Swyddi

4.a

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)

Cofnodion:

Mae Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn ei gwneud yn ofynnol i Gadeirydd y Pwyllgor fod yn bresennol mewn cyfarfod o'r Comisiwn bob blwyddyn i gyflwyno Adroddiad Blynyddol i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu.

Cyflwynodd Bob Evans, Cadeirydd ARAC, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor, a nodwyd gan y Comisiwn.

Canmolodd yr hyn a gyflawnwyd wrth ymateb i bandemig Covid-19 a chyfres daclus o gyfrifon, a rhybuddiodd i gefnogi parhâd gwaith sylweddol y Comisiwn ar seiberddiogelwch.

Trafododd y Comisiynwyr bwysigrwydd ystyriaethau seiberddiogelwch a'r rhesymeg dros y cyfyngiadau y mae'n rhaid eu cymhwyso i ddarpariaethau TGCh, gyda chydbwysedd rhwng cyfleustodau a diogelwch. Cytunwyd i gynnwys darpariaethau TGCh y Comisiwn ar flaenraglen waith y Comisiwn.

4.b

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cynghori ar Gydnabyddiaeth, Ymgysylltu a'r Gweithlu (REWAC) ac Ailstrwythuro Uwch Swyddi

Cofnodion:

Cyflwynodd Sarah Pinch, Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Gydnabyddiaeth, Ymgysylltu a'r Gweithlu Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor, a nodwyd gan y Comisiynwyr. Roedd y Pwyllgor wedi cymryd diddordeb arbennig mewn cyfleoedd i ysgogi cynrychiolaeth gymdeithasol-economaidd a lleiafrifoedd ethnig yn well o fewn y Comisiwn, ac wedi rhoi ffocws i ymatebion i Covid mewn perthynas â gweithlu'r Comisiwn ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Gwnaeth holl swyddogion y Comisiwn, ac eithrio'r Clerc, eu hunain yn absennol o'r drafodaeth ar ailstrwythuro uwch swyddi. Cytunodd y Comisiynwyr ar gynigion i wneud newidiadau i bortffolios Cyfarwyddwyr a nodwyd trefniadau ar gyfer uwch staff sy'n rhan o'r Bwrdd Gweithredol.

5.

Cyfeiriad Strategol y Comisiwn

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr fyfyrdodau eu rhagflaenwyr ar yr hyn a ddysgwyd drwy’r darnau mwyaf arwyddocaol / agweddau allweddol o waith y Comisiwn yn y Bumed Senedd, a’r ffactorau sy'n sbarduno newid, a fyddai’n dylanwadu ar gyfeiriad y strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd.

Trafododd y Comisiynwyr yr angen i allu arloesi, a'u cyfrifoldebau ehangach i Gymru. Nodwyd ganddynt fod buddsoddi mewn ymchwil ac arfer da yn y defnydd o ieithoedd swyddogol yn ystod y pandemig a gwneud cynnydd ar arferion caffael yn faterion i'w hystyried ynghyd â ffyrdd o weithio yn y dyfodol, a chytunwyd i drafod ymhellach yn yr hydref.

6.

Strategaeth Cyllideb Ddrafft 2022-23

Cofnodion:

Darparwyd cefndir a chyd-destun i Gomisiynwyr i lywio eu syniadau ynghylch strategaeth y gyllideb ac ystyried dulliau gweithredu mewn perthynas â'r gyllideb ar gyfer 2022-23.

Ar ôl myfyrio ar rinweddau cymharol y dewisiadau amgen a'r wybodaeth a ddarparwyd, gofynnodd y Comisiwn i waith gael ei wneud ar Opsiwn C. Roedd hyn er mwyn cymryd i ystyriaeth yr angen i ystyried y capasiti sydd ei angen i gyflawni mewn ffyrdd sy'n addas i anghenion yr Aelodau, er enghraifft parhau i weithio’n hybrid. Byddai Cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2022-23 yn cael ei chyflwyno i'r Comisiwn yn ei gyfarfod ym mis Medi cyn cael ei gosod yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog.

Trafododd y Comisiynwyr hefyd y prosiect ffenestri newydd, a fu’n destun adroddiad dichonoldeb a gynhaliwyd yn ystod 2020 i gael cyngor arbenigol i lywio penderfyniad i’r dyfodol ar oblygiadau'r gyllideb, yr amseru a'r gwaith sydd ei angen i roi ffenestri newydd yn Nhŷ Hywel yn raddol.

Trafododd y Comisiynwyr yr angen, yng nghyd-destun gofynion cyffredinol llety yn y dyfodol a chytunwyd y dylid parhau’r trafodaethau yn ôl amserlen a fyddai'n caniatáu i'r materion hyn gael eu hystyried yn gyfochrog.

7.

Diweddariad COVID

Cofnodion:

Dychwelyd Gwasanaethau

Trafododd y Comisiynwyr Fatrics Blaenoriaeth drafft Dychwelyd Gwasanaethau, a chytunwyd arno. Byddai’r matrics yn cael ei ddefnyddio fel map llwybr i barhau i ailgyflwyno gwasanaethau, a thrwy hynny ddychwelyd gwasanaethau i rai rhithwir yn ôl yr angen pe bai canllawiau Llywodraeth Cymru ar faterion sy'n ymwneud â covid-19 yn newid/yn cynyddu.

Roeddent o'r farn mai’r tebygolrwydd yw y byddai’r angen am weithio’n hybrid yn parhau, gan gydnabod yr angen i alluogi Aelodau i gymryd rhan mewn busnes. Cytunodd y Comisiynwyr y byddai'r mesurau presennol yn parhau am weddill y tymor, ac y byddai Profion Llif Ochrol ar gael ar gyfer dechrau'r tymor newydd, fel rhagofal ychwanegol.

 

Opsiynau ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd ar ystâd y Senedd

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth a ddarparwyd am y camau a gymerwyd i ailddechrau gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd ar ystâd y Senedd, gan ailgyflwyno mynediad rheoledig i'r cyhoedd i weld y Cyfarfod Llawn ac i Aelodau gynnal digwyddiadau gyda rhanddeiliaid.

8.

Papurau i'w nodi

8.a

Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarparwyd fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn yn ystod y Bumed Senedd.

8.b

Cofnodion ARAC Ebrill 2021

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfod y Pwyllgor.

9.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Rhwydwaith Gwresogi Ardal Caerdydd – Cafodd y Comisiynwyr gyflwyniad byr i'r gwaith sy'n cael ei wneud i alluogi dŵr poeth, a gynhyrchir o wres gwastraff o waith ynni-o-wastraff Viridor yn y dociau, wedi'i bibellu o amgylch rhan isaf Caerdydd, i'w ddefnyddio gan gwsmeriaid yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus i wresogi eu hadeiladau. Byddai dogfen Cwestiynau Cyffredin yn cael ei darparu i Gomisiynwyr yn dilyn y cyfarfod.

 

Adroddiad prisio terfynol Cynllun Pensiwn yr Aelodau gan Actiwari'r Cynllun - Hysbyswyd y Comisiynwyr bod y bwrdd pensiynau wedi cytuno ar y prisiad ac na nododd unrhyw gynnydd yng nghyfradd cyfraniadau pensiwn y Comisiwn i Aelodau. Byddai’r adroddiad yn cael ei ddosbarthu er gwybodaeth.

 

Yn y cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiwn wedi cytuno ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn ac Adroddiadau Blynyddol yn ymwneud ag Amrywiaeth a Chynhwysiant, Ieithoedd Swyddogol a Chynaliadwyedd, ymgynghorwyd ar y trefniadau sy'n ymwneud â'r Prif Gynghorydd Cyfreithiol a chytunodd i gael gwared â’r ffensys dros dro o amgylch y Senedd.

Mae'r Comisiynwyr hefyd wedi cytuno ar benodiad i'r Bwrdd Taliadau ac ymgynghorwyd ar newidiadau arfaethedig i Gynllun Pensiwn yr Aelodau.