Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Bydd Dianne Bevan, y Prif Swyddog Gweithredu, yn ymddeol
ddiwedd y tymor hwn. Dymunodd y Comisiynwyr yn dda i Dianne ar ei hymddeoliad
gan ddiolch iddi am ei chyfraniad i waith y Cynulliad. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau
o fuddiant. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol (28 Mehefin
2012) – Papur 1 Dogfennau ategol: |
|
Cyllideb ddrafft 2013-14 Papur 2 Cofnodion: Cadarnhaodd y Comisiynwyr eto eu hymrwymiad i weithio o
fewn y gwariant dangosol ar gyfer 2013-14 a nodwyd yn nogfen gyllidebol y
llynedd. Mae disgwyl y bydd y Comisiwn yn cytuno ar y gyllideb yn
ei gyfarfod ar 27 Medi, cyn ei gosod gerbron y Cynulliad ar 28 Medi. Cyfeiriodd y Comisiynwyr at y ddogfen sydd ar waith gan
ddiolch i'r swyddogion am eu gwaith ar gyllideb 2013-14. Camau i'w cymryd: Bydd swyddogion yn parhau i weithio ar ddogfen y gyllideb yn ystod toriad yr haf, gan gynnwys y materion a drafodwyd yn y cyfarfod ynddi. |
|
Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad Papur 3 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio
Comisiwn y Cynulliad ar gyfer blwyddyn ariannol 2011-12 i'r Comisiynwyr i'w
nodi. Mae'n ofynnol i'r Pwyllgor
Archwilio ddarparu Adroddiad Annibynnol i'r Comisiwn, ac i'r Swyddog
Cyfrifyddu, yn crynhoi ei waith yn ystod y flwyddyn, ar yr un pryd ag y mae
cyfrifon blynyddol y Comisiwn yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad. Mae'r
adroddiad yn nodi bod lefelau gwarantu yn y Comisiwn yn gyffredinol dda, â
chyfle i wella mwy mewn rhai meysydd a chael gwell effeithlonrwydd wrth reoli a
defnyddio rheolyddion. Bydd y Pwyllgor yn parhau i roi sylw penodol i’r meysydd
hyn yn 2012-13 a sicrhau bod y rhaglen archwilio mewnol yn cefnogi hyn.
Noddodd
y Comisiynwyr yr adroddiad. Rhoddodd Claire Clancy grynodeb ar lafar o waith y Pwyllgor Archwilio, yn dilyn ei gyfarfod ar 5 Gorffennaf a chadarnhau bod y Pwyllgor Archwilio wedi argymell ei bod hi, fel Swyddog Cyfrifyddu, yn llofnodi cyfrifon blynyddol y Comisiwn. Gwnaed hyn, ac roedd disgwyl i Archwilydd Cyffredinol Cymru eu llofnodi a'u cyflwyno yn ystod y dyddiau nesaf. |
|
Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2011-12 Papur 4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Mae Comisiwn y
Cynulliad yn llunio Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf
ar y cynnydd a wnaed ar y camau a nodir yng Nghynllun Cydraddoldeb 2008-2012.
Mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg o'r gwaith y mae staff y Comisiwn wedi ei
wneud i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng mis Ionawr 2011 a mis Mawrth 2012. Mae uchafbwyntiau'n cynnwys hyrwyddo cymryd rhan
mewn democratiaeth drwy ymgyrch 'Pleidleisiwch 2011’; datblygu ffyrdd o
ymgysylltu ag amrywiol grwpiau ledled Cymru; cefnogi rhwydweithiau staff; dod
yn rhif 20 ym mynegai cydraddoldeb Stonewall 2012; cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau
ac arddangosfeydd gan grwpiau amrywiol, a datblygu taflenni gwybodaeth i
addysgu Aelodau am eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Cymeradwyodd y
Comisiynwyr waith y Tîm Cydraddoldeb a nodi'r llwyddiannau niferus yn ystod y
cyfnod yr adroddwyd amdano. Cytunwyd y byddai rhai
newidiadau i'r adroddiad, gan gynnwys amlygu'r llwyddiannau mwyaf arwyddocaol
yn fwy eglur a lleihau hyd cyffredinol y ddogfen, cyn ei chyhoeddi. |
|
Rhaglen dreigl Papur 5 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ddydd Iau 27 Medi. Bydd yr eitemau ar yr agenda yn cynnwys y Gyllideb Ddrafft 2013-14 |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Bydd y Comisiynwyr yn cynnal cyfarfod anffurfiol ar 2
Awst. Cytunodd Claire Clancy i rannu'r ohebiaeth ddiweddaraf ag
Atos â'r Comisiynwyr. Yna, aeth y Comisiwn i sesiwn breifat a chytuno ar gynnig
ynghylch mater cyfrinachol yn ymwneud â staffio a gyflwynwyd iddynt gan y Prif
Weithredwr yn unol â’r Ddirprwyaeth. Yr Ysgrifenyddiaeth Gorffennaf 2012 |