Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Nodwyd bod y Cynulliad wedi cytuno ar
gyllideb y Comisiwn ar 16 Tachwedd 2011. Diolchwyd i Angela Burns AC am arwain
y gwaith ar y gyllideb ac am ei gyflwyno’n effeithiol i’r Cynulliad. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunwyd ar y cofnodion yn ffurfiol. |
|
Gwasanaethau Dwyieithog Dogfennau ategol: Cofnodion: Yn ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf 2011, cytunodd y Comisiwn i gynnal
ymgynghoriad ar Fil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)
ac ar y Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog drafft ac i ddarparu Cofnod dwyieithog
o drafodion y Cyfarfod Llawn yn amodol ar y ffaith bod y trefniadau’n
gynaliadwy ac yn rhesymol o ran cost. Yn dilyn yr ymgynghoriad
cyhoeddus cyn y broses ddeddfu ar y Bil a’r Cynllun drafft, bu swyddogion yn
dadansoddi’r ymatebion. Roedd y cyfranwyr wedi awgrymu nifer o ddiwygiadau i’r
Bil a’r Cynllun. Nodwyd yr ymdrech a wnaed i annog pobl i gyfrannu at y broses
ymgynghori ac roedd y Comisiwn yn croesawu’r ymatebion a ddaeth i law. Penderfynodd y Comisiwn na fyddai’r ddyletswydd i ddarparu Cofnod cwbl
ddwyieithog o drafodion y Cyfarfod Llawn yn cael ei chynnwys ar wyneb y Bil.
Cytunwyd ar weddill y diwygiadau arfaethedig i’r Bil drafft. Bu’r Comisiwn yn
ystyried y diwygiadau posibl i’r Cynllun a gwnaeth nifer o awgrymiadau gan ofyn
i swyddogion eu hadlewyrchu yn y drafft arfaethedig. Ystyriwyd y sylwadau a wnaed yn ystod y broses ymgynghori ynghylch y
Cofnod, a’r ymchwiliadau a wnaed i’r datblygiadau technolegol diweddaraf i
gynorthwyo’r gwasanaethau cyfieithu. Penderfynodd y Comisiwn y bydd Cofnod ysgrifenedig o drafodion y Cyfarfod
Llawn yn cael ei gyhoeddi, o fewn pum niwrnod gwaith, o fis Ionawr 2012, gyda
chyfieithiad o gyfraniadau o’r naill iaith i’r llall. Bwriedir cyflawni hyn
drwy ddefnyddio cyfuniad o systemau cyfieithu peirianyddol a phrawfddarllenwyr,
ynghyd â system reoli a golygu fewnol er mwyn sicrhau bod y Cofnod yn cyrraedd
safonau presennol y Cynulliad o ran arddull, cysondeb ac ansawdd. Byddai’r
union gost yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys pa mor gyflym y bydd
datblygiadau technolegol yn cynyddu cywirdeb y cyfieithiad peirianyddol ond,
mewn unrhyw achos, ni fydd y gost yn fwy na £95,000 y flwyddyn. Bydd y Bil drafft diwygiedig, y Memorandwm Esboniadol ategol, a’r Cynllun
arfaethedig yn cael eu cyflwyno ym mis Ionawr 2012. Cafodd Rhodri Glyn Thomas AC ei awdurdodi gan y Comisiwn i fod yn gyfrifol
am y Bil. Diolchodd y Comisiynwyr i Rhodri Glyn Thomas AC a’r swyddogion am y
gwaith a wnaed hyd yn hyn. Diolchodd Rhodri Glyn Thomas AC i Fwrdd yr Iaith am
y cymorth a roddodd. Cam i’w gymryd: Rhodri Glyn Thomas AC i gyflwyno unrhyw welliannau terfynol i’r Bil a’r Cynllun cyn eu cyflwyno ar ôl ymgynghori ag Angela Burns AC, a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod darpariaethau ariannol perthnasol wedi’u cynnwys yn y Memorandwm Esboniadol ategol. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Rheoli Carbon Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ym mis Tachwedd 2009, cytunodd y Comisiwn blaenorol ar strategaeth Rheoli
Carbon. Roedd hyn yn cynnwys uchelgais i leihau allyriadau blynyddol 8 y cant o
ran ynni a 3 y cant o ran teithio ar fusnes, ac i fod yn garbon niwtral erbyn
2015. Roedd y Comisiwn yn croesawu’r gostyngiad o 11.1 y cant a gafwyd mewn
allyriadau ynni yn ystod blwyddyn 2 ar draws ystad y Cynulliad, sy’n gyfwerth
ag arbediad o 182 tunnell o garbon a thua £50,000 mewn costau. Hyd yma, gwelwyd
gostyngiad o 19 y cant mewn allyriadau gyda tharged o 40 y cant erbyn 2015. Nododd y Comisiynwyr y cynnydd da a wnaed hyd yma ac ailddatganwyd eu
hymrwymiad i’r strategaeth Rheoli Carbon er mwyn cynnal statws y Cynulliad fel
corff seneddol blaenllaw ym maes cynaliadwyedd. Cytunwyd mewn egwyddor i fwrw
ymlaen â phrosiect peilot i osod ffenestri newydd yn Nhŷ Hywel sydd wedi’u dylunio’n well, ac sy’n
lled-awtomatig i alluogi awyru naturiol effeithlon. Cam i’w gymryd: Swyddogion i lunio amcangyfrif manwl o
gost y prosiect peilot i’r Bwrdd Rheoli ei gymeradwyo. |
|
Darparu gwasanaethau TGCh yn y dyfodol Cofnodion: Ar hyn o bryd, caiff gwasanaethau TGCh y Cynulliad eu darparu gan Atos fel
rhan o’r contract Merlin, a fydd yn dod i ben yn 2014. Nid oes gan y Cynulliad
gytundeb ag Atos. Yn hytrach, darperir y gwasanaethau yn unol â Memorandwm
Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gan y Comisiwn a Gweinidogion Cymru pan wahanwyd
y ddau gorff yn 2007. Yn dilyn prosiect UNO, a greodd blatfform TGCh
annibynnol, nid yw systemau’r Cynulliad bellach wedi’u hintegreiddio â rhai
Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi mwy o ryddid i’r Cynulliad o ran dewis
darpariaethau TGCh yn y dyfodol. Mae’r Comisiwn yn cefnogi’r weledigaeth ar gyfer darparu gwasanaethau TGCh yn y dyfodol, a’r ystod o fodelau y gellir eu defnyddio i ddarparu’r gwasanaethau hyn. Cytunwyd y byddai swyddogion yn parhau i ymchwilio i’r opsiynau a gytunwyd. |
|
Cyllideb Atodol 2011-12 Dogfennau ategol: Cofnodion: Yn ei gyllideb ar gyfer 2011-12, mae’r Comisiwn wedi cynnwys cronfeydd ar
wahân i dalu am gostau sy’n gysylltiedig ag etholiadau, gan ei gwneud yn glir y
bydd unrhyw arian sy’n weddill yn cael ei dalu’n ôl i floc Cymru drwy gyllideb
atodol. Roedd cyllideb Aelodau’r Cynulliad yn cynnwys £3.460 miliwn yn seiliedig ar
amcangyfrif y bydd trosiant 30 Aelod gyda chost cyfartalog o £115,000 ar gyfer
pob Aelod, ac roedd cyllideb Gwasanaethau’r Cynulliad yn cynnwys £0.655 miliwn.
Cafodd y dyraniadau cyllidebol hyn eu clustnodi ar gyfer costau’n ymwneud â’r
etholiad. Nodwyd bod y gwir drosiant o 23 Aelod wedi arwain at danwariant o
£1.8 miliwn yn erbyn cyllideb Aelodau’r Cynulliad a thanwariant o £0.2 miliwn
yn erbyn cyllideb Gwasanaethau’r Cynulliad. Cytunodd y Comisiwn y byddai £0.2 miliwn yn cael ei roi yn ôl i floc Cymru drwy gynnig cyllideb atodol. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeiliaid portffolios Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau o fewn
eu portffolios. Dywedodd Sandy Mewies AC, y Comisiynydd sy’n gyfrifol am gydraddoldeb, y bydd
yn gweithio â’r Tîm Cydraddoldeb ar ddatblygu cynllun cydraddoldeb y Comisiwn
a’r Gronfa Fynediad i Aelodau. Cyflwynodd yr holl Gomisiynwyr sylwadau am yr adborth yr oeddent wedi’i gael gan yr Aelodau a’u staff ynghylch y problemau TGCh a gafwyd a chytunwyd ei bod yn annerbyniol bod y problemau wedi parhau cyhyd. Nododd Peter Black fod cyfarfod wedi’i gynnal â swyddogion ar lefel uwch yn BT a’u bod wedi rhoi sicrwydd y bydd y problemau band eang, a oedd wedi effeithio ar sawl rhan o’r Deyrnas Unedig, yn cael eu datrys o fewn tua 10 niwrnod. Dylai unrhyw broblemau eraill gael eu datrys pan fydd pawb wedi trosglwyddo i UNO Fersiwn 2, a bydd unrhyw broblemau gyda’r system gwaith achos yn cael eu datrys ar ôl hynny. Os bydd problemau’n parhau ar ôl hynny, gofynnwyd i swyddogion fynd â’r gŵyn ymhellach gan weithio â Llywodraeth Cymru. |
|
Rhaglen Dreigl Comisiwn y Cynulliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nodwyd y rhaglen dreigl. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Ni nodwyd unrhyw fusnes arall. |