Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd
ymddiheuriadau. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Nid oedd buddiannau
i’w datgan. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi. Roedd dau fater yn codi. Cafodd y Comisiynwyr wybod am y
sylwadau a gafwyd ar y cynigion i symud buses y Cynulliad i leoliad y tu allan
i Gaerdydd, a’r newidiadau arfaethedig i’r modd y rheolir costau’n gysylltiedig
â Swyddfeydd yr Aelodau sy’n cael eu hariannu’n ganolog gan y Comisiwn.
Trafodwyd yr ail fater ymhellach yn eitem 6. |
|
Cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2020-21 - Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am hynt Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21
drwy'r broses graffu. Derbyniwyd addasiadau a wnaed i ddarparu gwybodaeth
gliriach am gostau’n ymwneud â'r Comisiynydd Safonau. Cytunwyd hefyd y dylid
gwneud addasiad pellach i adlewyrchu amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion
(ASHE) a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac a
ddefnyddir yn y Penderfyniad. Nododd y Comisiynwyr
yr amserlen ar gyfer gwaith yn ymwneud â’r gyllideb yn ystod mis Tachwedd 2019,
a chytunwyd ar eu hymateb i'r argymhellion a godwyd yn Adroddiad y Pwyllgor
Cyllid a'u Cyllideb Derfynol ar gyfer 2020-21, cyhyd ag y caiff yr addasiad
uchod ei adlewyrchu yn y ddau. |
|
Cyfathrebu ac Ymgysylltu |
|
Dull o godi ymwybyddiaeth o Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru), ac etholiad 2021 Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr gynigion i ddatblygu dulliau
cyffredin o gyfathrebu ac ymgysylltu mewn perthynas â thri maes gwaith craidd
hyd at fis Mai 2021 - Newid Enw, Rhoi’r Bleidlais i bobl ifanc 16 oed a’r
Etholiad Cyffredinol yng Nghymru yn 2021. Roedd y Comisiynwyr yn
gefnogol i’r cynigion yn gyffredinol, ac roeddent yn cydnabod y byddai hynt y
Bil yng Nghyfnodau 3 a 4 yn dylanwadu ymhellach ar y manylion penodol.
Trafodwyd hefyd y cysylltiad â’r gwaith y byddai’r Pwyllgor ar Ddiwygio
Etholiadol y Cynulliad yn ymgymryd ag ef, a’r ffaith y byddai’n fuddiol
ymgymryd â gwaith ychwanegol i gael gwybod rhagor am y prif gynulleidfaoedd a’u
hanghenion. |
|
Adroddiad y Cynulliad Dinasyddion Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr
gyflwyniad yn amlinellu’r broses o gynnal y
Cynulliad Dinasyddion, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf, a’r canlyniadau. Trafodwyd y tri argymhelliad
cyffredinol a ddeilliodd o'r digwyddiad: Cynulliadau dinasyddion; Cyd-greu; a
Llwyfannau Arbenigol, a'u perthynas â’r dulliau ymgysylltu y mae’r Comisiwn yn
eu defnyddio ar hyn o bryd. Cytunodd
y Comisiynwyr i rannu casgliadau’r adroddiad â chadeiryddion y pwyllgorau, sef
y rhai a all eu defnyddio orau, a gofyn am adborth ganddynt hwy a chan
aelodau'r pwyllgorau i fesur y diddordeb yn y dulliau ymgysylltu hyn. Cytunwyd
i gefnogi, mewn egwyddor, y cynnig i ehangu'r dulliau ymgysylltu sydd ar gael,
yng nghyd-destun sicrhau bod eu pwrpas yn glir a’r ffaith y byddai
goblygiadau o ran cost ac amseru pe bai'r Cynulliad am i'r Comisiwn fwrw ymlaen
â'r argymhellion. Cytunodd y Comisiynwyr hefyd i rannu'r adroddiad â'r Pwyllgor Busnes er
gwybodaeth ac i roi adborth, maes o law, i’r rhai a oedd ynghlwm wrth y
Cynulliad Dinasyddion. |
|
Diwygio'r Cynulliad: Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) – y wybodaeth ddiweddaraf Eitem lafar Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sawl mater yn ymwneud â Bil
Senedd ac Etholiadau (Cymru), yn dilyn trafodion Cyfnod 2 a chyn Cyfnod 3.
Trafodwyd y gwelliannau’n ymwneud â phryd y bydd pobl ifanc 16/17 oed yn cael
yr hawl i bleidleisio, a materion yn ymwneud ag anghymwyso’r rhai sydd â mandad
deuol, a hynny er mwyn creu mwy o eglurder yn unol argymhellion y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn y Pedwerydd Cynulliad. Trafododd y Comisiynwyr y broses welliannau, a’r ffaith bod y Bil yn awr yn
ymdrin â materion nad oedd y Comisiwn wedi’u cynnwys yn niwyg gwreiddiol y Bil,
a hynny oherwydd gwelliannau y cytunwyd arnynt yng Nghyfnod 2. Bydd y Llywydd yn adlewyrchu'r drafodaeth yn nadl Cyfnod 3. Nododd y Comisiynwyr y
llythyr a anfonwyd gan y Llywydd at arweinwyr y pleidiau, y Rheolwyr Busnes, y
Comisiynwyr, a’r Aelodau a gyflwynodd welliannau. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Brexit Eitem lafar Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y ffaith
bod y timau busnes a’r gwasanaethau corfforaethol cysylltiedig â gwaith y
Comisiwn yn parhau â’u paratoadau ar gyfer senarios amrywiol yn ymwneud â
Brexit. |
|
Adolygiad y Bwrdd Taliadau o'r Penderfyniad Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr ddau fater y tynnodd Cadeirydd y Bwrdd Taliadau eu
sylw atynt mewn perthynas ag ymgynghoriad y Bwrdd yn dilyn ei Adolygiad o’r
Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad,
Nododd y Comisiynwyr y llythyr gan y Bwrdd Taliadau a chytunwyd y dylai'r
Llywydd ymateb i gadarnhau y byddent yn ystyried gwasanaethau All-leoli fel rhan
o'r gwaith o gynllunio ar gyfer etholiad 2021; ac yn cytuno, mewn egwyddor, ar
y modd y mae’r Bwrdd Taliadau yn bwriadu egluro’r cymorth a roddir i Aelodau ag
anableddau yn y Penderfyniad. Wrth wneud hyn, roedd y Comisiynwyr am dynnu sylw
at gwmpas llawn Cronfa Cydraddoldeb a Mynediad y Comisiwn. • ymgynghori
â'r Bwrdd Taliadau ynghylch cynnwys darparu / costau deunydd ysgrifennu Lyreco
yn y Penderfyniad yn y dyfodol; • y
Comisiwn i barhau i ddarparu deunydd ysgrifennu rhagdaledig, a thalu am bostio
a swmp-bostio ac argraffu; a pharhau i fonitro unrhyw gostau y gellir eu
priodoli i Aelodau unigol a’u cyhoeddi’n rheolaidd o fis Mai 2021 ymlaen, i
wella tryloywder; a • defnyddio
dulliau gwahanol o ddarparu rhai gwasanaethau, i leihau costau ac i sicrhau
gwerth am arian. Byddai’r Bwrdd
Taliadau yn darparu rhagor o wybodaeth maes o law. |
|
Yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth (EPLI) ar gyfer Aelodau Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr
i ofyn i’r Bwrdd Taliadau ystyried darparu Yswiriant Atebolrwydd Arferion
Cyflogaeth ar gyfer Aelodau’r Cynulliad. |
|
Papurau i’w nodi |
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (grid penderfyniadau y Ddogfen Awdurdodi Recriwtio (RAD)) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
diweddariad y Bwrdd Gweithredol ynghylch penderfyniadau a wnaed yn ddiweddar
mewn perthynas â RAD. |
|
Cynllun pensiwn Aelodau’r Cynulliad - datganiad o egwyddorion buddsoddi Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
newidiadau yn y Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi a wnaed gan Fwrdd Pensiynau
Aelodau’r Cynulliad, yn unol â’r gofynion datgelu newydd |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: ·
Dywedodd y Llywydd
wrth y Comisiynwyr y byddent yn cael gwybodaeth, maes o law, am adroddiad y
Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. ·
Cafodd y Comisiynwyr
wybod bod apêl a gynhaliwyd yn ddiweddar mewn perthynas â thribiwnlys
cyflogaeth wedi’i wrthod. Byddai dyddiad y
cyfarfod nesaf yn cael ei gadarnhau. |