Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd
ymddiheuriadau. Croesawyd Eric
Gregory, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ACARAC) i'r cyfarfod.
Croesawyd Adam Price, AC hefyd yn ôl o'i gyfnod tadolaeth. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd
Datganiadau o Fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd bod
cofnodion 4 Mehefin yn gofnod cywir. |
|
Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad 2017-18 Cofnodion: Cyflwynodd Eric
Gregory, Cadeirydd ACARAC, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor, yn unol â chylch
gorchwyl ACARAC. Soniodd am nifer o agweddau ar brofiad y Pwyllgor dros y
flwyddyn flaenorol. Yn benodol, tynnodd sylw at gofnod ardderchog y Comisiwn o
ran gweithredu ar argymhellion yr Archwiliad Mewnol, rheoli risg yn gadarn a'r
ymagwedd hyblyg tuag at reoli prosiectau sy'n cynnwys defnyddwyr wrth ddatblygu
systemau. Gwnaeth y
Comisiynwyr sylwadau ar y datganiad llywodraethu da a chlir yn Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn yn dilyn blwyddyn gyntaf y Prif Weithredwr yn
y swydd, a'r effaith gadarnhaol ar ddarllenadwyedd arddull newydd yr adroddiad
blynyddol. Nododd y
Comisiynwyr Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y
Cynulliad, a fydd yn cael ei gyhoeddi gan y Pwyllgor. |
|
Rhaglen diwygio'r Cynulliad Cofnodion: Ystyriodd y
Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith ar raglen ddiwygio'r Cynulliad
a chrynodeb o ganfyddiadau'r ymgynghoriad yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, a
gynhaliwyd rhwng 12 Chwefror a 6 Ebrill. Ystyriodd y
Comisiwn ganfyddiadau'r ymgynghoriad a gwnaeth nifer o benderfyniadau wrth
baratoi ar gyfer gwneud cynigion deddfwriaethol, neu lunio eu dull o wneud y
cynigion hynny. Cytunodd: ·
mewn
egwyddor, i gydweithio â Llywodraeth Cymru drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth
ynghylch cynigion i newid rhyddfraint y Cynulliad. ·
i
gynnig deddfwriaeth ar y rhyddfraint a'r newid enw ar gyfer ei weithredu cyn
etholiad 2021. Gallai ail Fil ar y system etholiadol a'r maint ddilyn os yw
consensws trawsbleidiol ar y materion hynny yn dod i'r amlwg; ·
gostwng
yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i 16; ac ·
eithrio
rhai materion polisi o gwmpas gwaith diwygio'r Cynulliad: pleidlais
carcharorion, hawliau pleidleisio i drigolion cyfreithlon Cymru waeth beth yw
eu cenedligrwydd neu eu dinasyddiaeth, a rhannu swyddi i'r Aelodau. Gofynnodd y
Llywydd i'r Comisiynwyr gymryd dau fater penodol i'w trafod gyda'u grwpiau a
rhoi adborth cyn diwedd y tymor. Y rhain oedd: • y disgrifydd ar gyfer Aelodau ar ôl
newid yr enw; a'r • mater o anghymwyso mewn perthynas ag
aelodaeth o Dŷ'r
Arglwyddi. Cafodd hyn ei argymell gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol
a Deddfwriaethol presennol. Cytunodd y
Comisiynwyr y byddai'r Llywydd yn gwneud datganiad ysgrifenedig yn cyfleu
penawdau'r ymgynghoriad, a'r penderfyniadau a wnaeth am ei strategaeth
ddeddfwriaethol, ynghyd â chwmpas eang y Bil cyntaf ar ddiwygio etholiadol, cyn
diwedd y tymor. Cytunwyd y bydd crynodeb o brif ganfyddiadau'r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi o fewn ychydig wythnosau,
gydag adroddiad llawn ar yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref. |
|
Strategaeth y Gyllideb - Cyllideb y Comisiwn 2019-20 Cofnodion: Fel rhan o
ddatblygiad parhaus Cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2019-20, ystyriodd y
Comisiynwyr nifer o agweddau sy'n dod i'r amlwg o ran eu dull o gyllidebu, a
rhoddwyd cyfarwyddyd er mwyn i'r gwaith o baratoi'r gyllideb ddrafft barhau, yn
barod i'w hystyried ym mis Medi. Roedd eu
hystyriaethau'n cynnwys: • cytuno ar ymateb i'r llythyr ymgynghori
gan Gadeirydd y Bwrdd Taliadau at y Llywydd ar ail ymgynghoriad y Bwrdd ar
gynigion sy'n deillio o adolygiad o gymorth staffio i'r Aelodau; • rhagolygon ar gyfer 2018-19; • cyflwyno cyllideb ddrafft 2019-20, yng
ngoleuni'r argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid; a • phrosiectau blaenoriaeth posibl ar gyfer
2019-20. Cytunodd y
Comisiynwyr na ddylid cyhoeddi'r papur gwaith hwn. Caiff y gyllideb ddrafft ei gosod ar ôl
ystyriaeth derfynol y Comisiwn ym mis Medi. |
|
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft 2017-18 Cofnodion: Cymeradwyodd y
Comisiynwyr y drafft o'u Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon, yn cwmpasu 1 Ebrill
2017 hyd at 31 Mawrth 2018, yn amodol ar unrhyw fân waith cywiro neu olygu.
Cytunwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei osod cyn diwedd tymor yr haf a'i
gyhoeddi ar-lein. |
|
Adroddiad Blynyddol Drafft ar Amrywiaeth a Chynhwysiant Cofnodion: Cytunodd y
Comisiynwyr ar yr adroddiad, a gyflwynwyd gan Joyce Watson fel y Comisiynydd
Cyfrifol, ac y dylid cyhoeddi'r adroddiad terfynol. |
|
Contract glanhau'r Comisiwn Cofnodion: Dychwelodd y
Comisiynwyr at y mater o opsiynau, a ystyriwyd gyntaf yn y cyfarfod ym mis
Mehefin, ar gyfer adnewyddu'r contract gwasanaethau glanhau presennol, yn
enwedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â thelerau ac amodau staff y
contract. Cytunodd y
Comisiynwyr i ymestyn y contract cyfredol am flwyddyn er mwyn mapio'n llawn y
gofynion ar gyfer y contract a thendro'r contract pan gaiff fframwaith nesaf y
Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ei gyhoeddi. |
|
Papurau i’w nodi: |
|
Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y
Comisiynwyr y diweddariad arferol diweddaraf. |
|
Strategaeth Buddsoddi'r Bwrdd Pensiynau Cofnodion: Nododd y
Comisiynwyr y strategaeth fuddsoddi a gytunwyd gan y Bwrdd Pensiynau. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Swyddfa Brwsel -
Nododd y Comisiynwyr fod Llywodraeth Cymru yn fodlon parhau â'r trefniant
presennol ar gyfer Swyddfa'r Comisiwn ym Mrwsel, a ddarperir gan Lywodraeth
Cymru yng Nghanolfan Cymru, Brwsel, ar yr un telerau tan ddiwedd mis Rhagfyr
2020. Sesiynau
ymwybyddiaeth seiber gan yr Aelodau a Staff Cymorth yr Aelodau - Nodwyd bod y
nifer sy'n manteisio ar sesiynau briffio ymwybyddiaeth seiber yn gymysg,
gofynnwyd i'r Comisiynwyr danlinellu ei bwysigrwydd gyda'u grwpiau. Bwrdd Pensiynau -
Cytunodd y Comisiynwyr y gellid ymgymryd â threfniadau ar gyfer cynrychiolydd y
Comisiwn ar y Bwrdd Pensiynau y tu allan i'r cyfarfod os oes angen. |