Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

1.2

Datganiad o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion 5 Ebrill yn gofnod cywir.

 

2.

Diwallu ein Hanghenion o ran Llety yn y Dyfodol

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr y wybodaeth a ddarparwyd mewn ymateb i ymholiadau a godwyd ganddynt yn y cyfarfod blaenorol.  Derbyniwyd yr awgrymiadau a wnaed, a nodwyd meysydd ble y byddent yn hoffi cael rhagor o fanylion.

3.

Rhaglen Diwygio'r Cynulliad

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybodaeth i'r Comisiynwyr am ganlyniadau eu hymgynghoriad ar newid enw'r Cynulliad. Trafodwyd nifer o opsiynau ar gyfer y camau nesaf gan gynnwys materion ymarferol ac ariannol cysylltiedig a materion yn ymwneud ag enw da.

 

Cytunodd y Comisiynwyr i ddychwelyd at y mater yn eu cyfarfod nesaf, ar ôl rhoi ystyriaeth bellach i'r berthynas â chwmpas y cynigion deddfwriaethol y gallai'r Comisiwn ddymuno ei dilyn yn ystod tymor y Cynulliad hwn o ganlyniad i ddatganoli pwerau newydd o dan Ddeddf Cymru 2017 .

 

4.

Gweithgarwch ar ystâd y Cynulliad

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr gynigion i newid y modd y caiff gweithgarwch ar yr ystâd ei reoli a'i flaenoriaethu, â'r nod o sicrhau ei fod yn adlewyrchu blaenoriaethau'r Comisiwn yn well o ran ymgysylltu, gan alluogi'r ystâd, a'r Senedd yn arbennig, i gael ei ddefnyddio'n fwy pwrpasol ac felly i ddod yn adnodd allweddol ar gyfer hyrwyddo ymgysylltiad â'r Cynulliad ac annog cynulleidfa fwy amrywiol i'n hystâd.

 

Cydnabu'r Comisiynwyr yr heriau sydd ynghlwm wrth y dull presennol o ddefnyddio'r ystâd, ac roeddent o blaid newid i ddull mwy strategol o ddefnyddio'r ystâd mewn modd pwrpasol ac effeithiol. Nodwyd rhai anawsterau penodol o'u gwybodaeth a'u profiad eu hunain, ac awgrymwyd nifer o ddulliau a allai fod yn ddefnyddiol yn y broses o reoli gweithgarwch yn fwy effeithiol. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i baratoi canllawiau i gefnogi'r newid.

5.

Fframwaith ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol y Cynulliad yn ystod y Pumed Cynulliad

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr bapur a oedd yn nodi fframwaith drafft ar gyfer datblygu rhaglen ystyrlon a chydgysylltiedig o waith rhyngwladol ar gyfer y Pumed Cynulliad.

 

Roeddent yn cefnogi bwriad y fframwaith, i leoli'r Cynulliad ar y llwyfan rhyngwladol fel deddfwrfa fach ond yn un wahanol, arloesol a blaengar, a chytunwyd y dylai ymgysylltu rhyngwladol y Comisiwn gael ei gefnogi trwy ddiben clir. Yn arbennig, tynnodd y Comisiynwyr sylw at ba mor bwysig yw edrych at allan a rhannu'r hyn a wnawn, a nodi meysydd eraill ble y gallem ddatblygu rôl er mwyn manteisio ar gyfleoedd ychwanegol.

 

Bydd cynllun cyflawni yn cael ei baratoi, gan roi ystyriaeth i safbwyntiau'r Comisiwn.

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Cofnodion ACARAC

Cofnodion:

Nodwyd cofnodion cyfarfod ACARAC ar 20 Mawrth.

7.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Gofynnodd y Comisiynwyr am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â diogelwch ar ystâd y Cynulliad.