Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

1a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn.

1b

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

1c

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2013

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cofnodion.

2.

Adolygu’r cymorth i’r Pwyllgorau

Cofnodion:

Ym mis Rhagfyr 2012 gofynnodd y Comisiwn am adolygiad o'r cymorth a ddarperir i bwyllgorau'r Cynulliad, a bu'r adolygiad yn edrych ar yr amrywiaeth eang o gymorth sydd ar gael. Nod yr adolygiad oedd nodi gwelliannau ar unwaith, er mwyn sicrhau bod y cymorth a ddarperir yn cael ei lywio gan y Cadeiryddion a'r pwyllgorau eu hunain bob amser a’i fod yn diwallu anghenion Aelodau unigol ac anghenion y pwyllgorau.

 

Dros y  chwe mis diwethaf, casglwyd tystiolaeth gan gadeiryddion ac aelodau unigol o bwyllgorau, i geisio deall eu gofynion yn well a chanfod i ba raddau roeddent yn teimlo bod angen newid y ddarpariaeth bresennol. Roedd y farn yn amrywio, gyda rhywfaint o dystiolaeth yn dangos bod yr Aelodau'n fodlon â'r cymorth sydd ar gael, a rhywfaint yn dangos bod galw am rywfaint o newidiadau mewn arferion gweithio. Roedd y gwaith wedi darparu cyfle i roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio. Byddai canlyniadau Arolwg Aelodau'r Cynulliad a'u Staff Cymorth, a oedd newydd eu casglu, hefyd yn dylanwadu ar gynigion ar gyfer newid yn y dyfodol.

 

Er bod y Comisiynwyr yn teimlo bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn wybodaeth ddiweddar a defnyddiol ar y cynnydd hyd yma a'r amrywiaeth o safbwyntiau a gyflwynwyd, mynegwyd pryder nad oedd y papur yn darparu golwg strategol ar yr opsiynau a oedd ganddynt ar gyfer y dyfodol. Teimlwyd y dylid rhoi mwy o bwyslais ar ddatblygu arferion gorau gan gynnwys adnabod model ar gyfer y gwasanaethau craidd a fyddai’n darparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf. Roedd y Comisiynwyr am ddefnyddio dull mwy cyfannol a chynnwys pob agwedd ar y cymorth sydd ar gael i’r Aelodau, gan gynnwys, er enghraifft, datblygiadau technolegol a datblygiad proffesiynol parhaus. Roedd angen i’r cynigion hefyd ystyried swm y gwaith a oedd yn ofynnol i 42 o Aelodau’r Cynulliad ei gyflawni. Cytunwyd y byddai'r mater yn cael ei drafod eto yng nghyfarfod y Comisiwn yn yr hydref.

Cam i’w gymryd: Cyflwynir papur arall yn yr hydref yn hyn o beth.

3.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2012-13

Cofnodion:

Cyhoeddir Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn ar-lein ar  11 Gorffennaf. Anfonir copïau at yr Aelodau cyn diwedd y tymor a bydd rhywfaint o gopïau ar gael, gyda chrynodeb, yn nigwyddiadau'r Comisiwn dros yr haf. 

Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar nifer fach o newidiadau.

4.

Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2012-13

Cofnodion:

Mae'r Adroddiad Cydraddoldeb yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn ôl cynllun Cydraddoldeb y Comisiwn ar gyfer 2012-16. Mae'r adroddiad yn nodi nifer o gyraeddiadau arwyddocaol dros y flwyddyn, ond hefyd mae'n cydnabod bod rhai cyfleoedd i wella. Diolchodd y Comisiynwyr i staff am eu hymrwymiad parhaus i ddarparu'r agenda cydraddoldeb a oedd yn parhau i ddangos cyfraniad cadarnhaol y Cynulliad yn y maes hwn. 

Cytunwyd ar yr adroddiad.

5.

Y Pwyllgor Archwilio 18 Ebrill a 13 Mehefin

Cofnodion:

Nodwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 18 Ebrill. Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad llafar ar y materion a drafodwyd yn y Pwyllgor Archwilio ar 13 Mehefin, gan gynnwys cadarnhad o lefel y sicrwydd a roddwyd ar y cyfrifon ar gyfer 2012-2013, a chafwyd trafodaeth fer ar y cynlluniau archwilio mewnol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

6.

Unrhyw Fusnes Arall