Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lara Date
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.35) |
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(10.35 - 10.55) |
Arolwg o'r Gweithdrefnau Safonau: Ystyried cynigion Cyfnod 2, gan gynnwys trefniadau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau lobïo Gerard
Elias QC, y Comisiynydd Safonau Cofnodion: Nododd y Cadeirydd y bydd y Weithdrefn Gwynion ddiwygiedig yn cael ei gosod ar 20 Mehefin. Rhoddodd y Comisiynydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y cynigion ar gyfer cyfnod 2 o’r Adolygiad o’r Gweithdrefnau Safonau. Nododd y Comisiynydd y bydd Cod Ymddygiad Aelodau’r Cynulliad yn cael ei ystyried yn ystod y cyfnod hwn o’r broses adolygu, i gynnwys ymddygiad personol a lobïo; defnyddio adnoddau’r Cynulliad; cysylltiad rhwng Aelodau a staff; cyflogau, treuliau a materion cyyslltiedig; perthynas Aelodau â’r Comisiwn; a chwestiynau am gyfrinachedd. Bydd hyn hefyd yn cynnwys ystyried materion sy’n ymwneud â lobïo a chosbau. Roedd y Comisiynydd yn disgwyl y bydd angen cyfnod o naw mis er mwyn cynnal ymgynghoriad eang er mwyn nodi unrhyw broblemau a materion, gan gynnwys ymgynghori â’r holl Aelodau. Bydd y Comisiynydd yn cyflwyno adroddiad ar ei argymhellion a’r rhesymau drostynt i’r Pwyllgor erbyn mis Mawrth 2013. Cytunwyd y dylid ystyried trefniadau mewn perthynas â lobïo’n syth fel rhan o’r adolygiad, er i’r Comisiynydd nodi nad oedd unrhyw gŵyn am lobïo wedi’i gwneud iddo yn y 18 mis ers iddo fod yn y swydd. Bydd y Comisiynydd yn cynnal ymgynghoriad cynhwysfawr, gan gynnwys yn fewnol gydag Aelodau a’r Llywodraeth, dros gyfnod yr haf, a chyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor ar 9 Hydref yn nodi a yw’r trefniadau presennol yn ddigon cadarn. Mewn perthynas â chosbau, roedd y Comisiynydd wedi cael rhai sylwadau am adolygu’r trefniadau presennol a byddai’n croesawu barn cynnar y Pwyllgor am yr hyn yr oedd yn ystyried i fod yn briodol. Cytunodd y Pwyllgor bod angen pwerau disgresiwn cryfach ym maes cosbau. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion: Nodwyd y papurau. |
||
SOC(4)-03-12 - Papur 1 - Llythyr gan y Llywydd at y Cadeirydd Dogfennau ategol: |
||
Trawsgrifiad |