Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lara Date
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Kirsty Williams. Ni chaniateir dirprwyon ar y Pwyllgor o dan
Reol Sefydlog 22.4. |
|
(09.30) |
Ystyried adroddiad drafft ar Grwpiau Lobïo a Thrawsbleidiol SOC(4)-03-13 – Papur preifat 1 Cofnodion: 2.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft. 2.2 Yn amodol ar
ddosbarthu fersiwn glân terfynol gyda mân newidiadau, cytunwyd ar yr adroddiad.
2.3 Nododd y
Cadeirydd y disgwylir i’r adroddiad gael ei gyhoeddi ddydd Iau 2 Mai ac y byddai
dadl yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei threfnu maes o law, gyda’r bwriad o wahodd
y Cynulliad i gefnogi ei argymhellion. |
|
(10.00) |
Ystyried adroddiad y Comisiynydd ar Sancsiynau SOC(4)-03-13 – Papur preifat 2 · Gerard Elias QC – Y Comisiynydd Safonau Cofnodion: 3.1 Cyflwynodd y
Comisiynydd ei adroddiad ar welliannau i weithdrefn Sancsiynau’r Cynulliad. 3.2 Nododd y
Comisiynydd ei fod wedi ymgynghori â phob Aelod Cynulliad, y Llywydd ac
Arweinwyr Pleidiau wrth baratoi ei adroddiad. 3.3 Trafododd Aelodau’r
adroddiad ac yn benodol y materion yn ymwneud â ‘hawliau a breintiau’, unrhyw
uchafswm cyfnod o waharddiad a phwysigrwydd gwneud yn glir na fyddai sancsiynau
yn erbyn Aelod Cynulliad yn effeithio ar staff cymorth yr Aelod hwnnw. 3.4 Nododd y
Cadeirydd y byddai adroddiad y Pwyllgor ar Sancsiynau, i’w gyflwyno i’r
Pwyllgor Busnes, yn cael ei ddrafftio er mwyn ei drafod yn y cyfarfod nesaf ar
7 Mai. |