Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lara Date 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

1.1        Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

1.2     Fe wnaeth y Cadeirydd roi gwybod i’r Pwyllgor am ei gyfarfod diweddar gydag aelodau o Public Affairs Cymru.

(09.15 - 09.45)

2.

Ystyried adroddiad drafft ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol

SOC(4)-02-13 – Papur Preifat 1

SOC(4)-02-13 - Papur Preifat 2

Cofnodion:

2.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 

2.2 Nododd y Comisiynydd nad oedd diffygion mawr yn y system bresennol ond bod angen rhyw ddull o gofnodi gweithgarwch lobïo.

 

2.3Trafododd y Pwyllgor y dewisiadau posibl o ran cofrestru gwybodaeth am weithgarwch lobïo. Cytunodd y Pwyllgor ar un o’r dewisiadau a gynigiwyd ac ar welliannau i’r canllawiau drafft ar lobïo a hygyrchedd i Aelodau.

 

2.4 Ystyriodd yr Aelodau’r rheolau drafft ar gyfer gweithredu’r Grwpiau Trawsbleidiol.

 

2.5 Caiff yr adroddiad drafft ei ddiwygio i gynnwys sylwadau’r Aelodau cyn i’r Cadeirydd ei gyfeirio at y Llywydd.

(09.45 - 10.45)

3.

Ystyried adroddiad ar y Cod Ymddygiad gan y Comisiynydd

SOC(4)-02-13 – Papur Preifat 3

 

·         Gerard Elias QC – Y Comisiynydd Safonau

Cofnodion:

3.1 Cyflwynodd y Comisiynydd ei nodyn briffio.

 

3.2 Ystyriodd y Pwyllgor ffurf y Cod Ymddygiad mewn deddfwrfeydd eraill a chytunodd ar ei hoff ffurf ar gyfer Cod Ymddygiad newydd y Cynulliad. Mae’n cynnwys pedair adran er mwyn cynnwys egwyddorion  Nolan a nodi’r canlynol yn glir:- 1) ystod y methiannau i gydymffurfio sy’n bosibl; 2) y ddeddfwriaeth/Rheolau Sefydlog sy’n berthnasol; 3) unrhyw ganllawiau a gyflwynwyd; a 4) yr ystod o sancsiynau sydd ar gael yn wyneb methiant i gydymffurfio â nhw.

 

3.3 Rhoddodd y Pwyllgor ragor o ystyriaeth i fodel ar gyfer trefn sancsiynau diwygiedig. Cytunwyd y byddai’r sancsiynau yn cael eu diwygio fel mater o flaenoriaeth, ac y byddent yn cael eu cynnwys yn y Cod wrth lunio’r fersiwn derfynol. Cytunodd y Pwyllgor ag awgrym y Comisiynydd y dylai ef ymgynghori â holl Aelodau’r Cynulliad ar y drefn sancsiynau yr hoffai’r Pwyllgor ei gweld.

 

3.4 Caiff adroddiad ar ddiwygio’r drefn sancsiynau ei ddrafftio, yn amodol ar ganlyniad ymgynghoriad y Comisiynydd, i’w ystyried yn y cyfarfod nesaf ar 23 Ebrill.