Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | |
---|---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF447KB) Gweld
fel HTML (426KB). |
|||
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Sandy Mewies ac Aled Roberts. Nid oedd neb yn dirprwyo ar eu
rhan. |
||
(09.00) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
||
Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: Llythyr oddi wrth Simon Jones, Llywodraeth Cymru - 27 Ionawr 2016 Dogfennau ategol: |
|||
Glastir: Llythyr oddi wrth Matthew Quinn, Llywodraeth Cymru - 1 Chwefror 2016 Dogfennau ategol: |
|||
(11.40-12.40) |
Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth 5 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Transport Scotland
Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Nicholls, Cyfarwyddwr, Teithiau
Awyrennau a Llongau, Camlesi a Chludo Nwyddau Transport Scotland ac Andrew
Miller, Cadeirydd Maes Awyr Glasgow Prestwick fel rhan o'r ymchwiliad i
Lywodraeth Cymru yn caffael a pherchnogi maes awyr Caerdydd. |
||
(12.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 6 Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
||
(12.40-13.00) |
Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
||
(09.00-10.30) |
Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth 3 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Llywodraeth Cymru James Price - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a
Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan James Price, Dirprwy Ysgrifennydd
Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru
fel rhan o'r ymchwiliad i Lywodraeth Cymru yn caffael a pherchnogi maes awyr
Caerdydd. 3.2 Cytunodd James Price i anfon y wybodaeth ganlynol at y Pwyllgor: ·
Rhestr o'r Cwmnïau Angori yng Nghymru ynghyd â'r meini prawf er mwyn bod yn
Gwmni Angor; ·
Nodyn yn cynnwys ffigurau teithwyr a nifer yr hediadau dros y 25 mlynedd
diwethaf; ·
Cynllun a rhestr o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gaffael; ·
Eglurhad o'r brys ynghylch pam bod rhaid cwblhau'r pryniant mewn amser byr
a pham y defnyddiwyd gweithdrefn S128 yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006; ·
Manylion llawn o'r gwahanol brisiadau a wnaed cyn y caffaeliad; ·
Cadarnhad ynghylch a gynhaliwyd y gwerth tir gwreiddiol ar y safle fel maes
awyr neu Werth Tir Gweddilliol safle'r maes awyr cyn adeg y pryniant; ·
A yw'r cyfrifiadau ar y Gwerth Tir Gweddilliol ar gael; a Nodyn ar ba ddull prisio a ddefnyddiwyd i roi gwerth ar yr asedau yng
nghyfrifon blynyddol Holdco. |
||
(10.30-11.30) |
Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth 4 PAC(4)-06-16 P1 PAC(4)-06-16 P2 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Arbenigwyr Teithiau Awyren a Thrafnidiaeth Chris Cain - Cyfarwyddwr a Phennaeth Ymchwil, Northpoint Aviation Yr Athro Stuart Cole CBE - Athro Emeritws Economeg a Pholisi Trafnidiaeth,
Prifysgol De Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Chris Cain,
Cyfarwyddwr a Phennaeth Ymchwil, Northpoint Aviation a'r Athro Stuart Cole CBE,
Athro Emeritws Economeg a Pholisi Trafnidiaeth, Prifysgol De Cymru, fel rhan
o'r ymchwiliad i Lywodraeth Cymru yn caffael a pherchnogi maes awyr Caerdydd. |