Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 311KB) Gweld
fel HTML (351KB) |
||
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.1
Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan. Roedd David Rees yn dirprwyo. |
|
(09.00) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 2.1
Nodwyd y papur. Cytunodd yr Aelodau i gynnwys argymhelliad yn ei Adroddiad
Etifeddiaeth bod y Pwyllgor olynol yn ystyried cynnal ymchwiliad i'r pwnc hwn. |
|
Llythyr gan y Cadeirydd at Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol: |
||
(09.05-09.15) |
Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Trafod ymatebion i adroddiad y Pwyllgor PAC(4)-09-16 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru PAC(4)-09-16 Papur 2 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(4)-09-16 Papur 3 - Llythyr gan y Cadeirydd at y Dirprwy Weinidog
Sgiliau a Thechnoleg PAC(4)-09-16 Papur 4 – Gwybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd yr Aelodau yr ymatebion a chytunwyd i gynnwys argymhelliad yn
Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor bod y Pwyllgor olynol yn gofyn am
ddiweddariad pellach ar y cynnydd a wnaed yn ystod hydref 2016. 3.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am
eglurhad pellach ynghylch cymhlethdod gosod Band Eang (R1), y gost bosibl yn
ychwanegol at werth y talebau sydd ar gael (R2), beth mae 'deinamig' yn ei
olygu i'r defnyddiwr (R8), a disgrifiad o sut y gellir gwella'r wefan. |
|
(09.15-10.30) |
Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil James Price - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol - Grŵp yr Economi, Sgiliau
a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru Gareth Bullock - Cadeirydd, Cyllid Cymru ccc Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Craffodd y Pwyllgor ar James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi,
Sgiliau a Chyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru, a Gareth Bullock, Cadeirydd
Cyllid Cymru plc, ar Gronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru. 4.2 Cytunodd James Price i wneud yr hyn a ganlyn: · Rhoi eglurhad ynghylch
cyfansoddiad y panel dethol, pryd y cafodd penodiadau'r panel cynghori eu
gwneud, a nifer yr aelodau a benodwyd o du allan i Gymru; · O fewn Llywodraeth
Cymru, gofyn a ddylid rhannu'r cyngor cyfreithiol y mae Llywodraeth Cymru yn ei
geisio â chyrff hyd braich; · Cadarnhau lefel y
cyllid grant a gynigiwyd i ReNeuron; ac · Eglurhad ynghylch a
gafodd cofnodion llawn eu cymryd yng nghyfarfodydd WIDAB ar 18 Mehefin 2013 a
24 Hydref 2013. 4.3 Cytunodd Gareth Bullock i ddarparu rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r ffioedd trefnu sy'n daladwy i
Reolwyr y Gronfa gan Gwmnïau Buddsoddi. |
|
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 6 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.30-11.00) |
Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Am fod amser yn brin, cytunodd yr Aelodau i drafod y dystiolaeth a
gafwyd yn y cyfarfod ar 15 Mawrth 2016. |