Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1       Croesawodd  y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Nid oedd ymddiheuriadau.

 

(09.00 - 09.10)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2.1

Maes Awyr Caerdydd: Gwybodaeth ychwanegol gan Simon Jones, Cadeirydd Holdco (19 Chwefror 2016)

Dogfennau ategol:

2.2

Maes Awyr Caerdydd: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (22 Chwefror 2016)

Dogfennau ategol:

2.3

Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (24 Chwefror 2016)

Dogfennau ategol:

2.4

Maes Awyr Caerdydd: Gwybodaeth ychwanegol gan Chris Cain, Northpoint Aviation (23 Chwefror 2016)

Dogfennau ategol:

2.5

Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Undeb Rygbi Cymru - Cyfyngedig (24 Chwefror 2016)

Dogfennau ategol:

2.6

Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan James Price, Llywodraeth Cymru (24 Chwefror 2016)

Dogfennau ategol:

(09.10 - 09.30)

3.

Craffu ar Gyfrifon 2014-15: Ystyried ymatebion i adroddiad y Pwyllgor

PAC(4)-08-16 Papur 1 - Llyfrgell Genedlaethol Cymru

PAC(4)-08-16 Papur 2 - Amgueddfa Genedlaethol Cymru

PAC(4)-08-16 Papur 3 – Comisiwn y Cynulliad

PAC(4)-08-16 Papur 4 - Chwaraeon Cymru

PAC(4)-08-16 Papur 5 – Llywodraeth Cymru

PAC(4)-08-16 Papur 6 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Gwnaeth yr Aelodau drafod a nodi’r ymateb a gafwyd gan y sefydliadau ynghylch yr argymhellion a gyflwynwyd iddynt yn adroddiad y Pwyllgor a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2015.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i wneud y canlynol:

·       Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am farn ar y materion yn ymwneud â threfniadau yswiriant Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dull Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar gyfer codi ffi am ddigwyddiadau a’i barn am drefniadau’r ddau sefydliad o ran diswyddo. 

·       Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad esbonio’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i wneud y deunydd a gyhoeddir ar ei wefan yn fwy hygyrch, yn enwedig i bobl â gofynion penodol. 

·       Cynnwys argymhelliad yn ei adroddiad etifeddiaeth y dylai’r Pwyllgor dilynol graffu ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 yn nhymor yr hydref 2016 ac ystyried yn benodol a yw’r ffordd y cyflwynir y cyfrifon wedi gwella ac a ydynt yn cynnwys linc i Adroddiad Rheoli Grantiau Blynyddol Llywodraeth Cymru. Awgrymwyd hefyd efallai y bydd y pwyllgor dilynol am edrych yn ehangach ar ddull Llywodraeth Cymru o leihau ei defnydd o ynni.

·       Cynnwys argymhelliad yn ei adroddiad etifeddiaeth y dylai’r Pwyllgor dilynol graffu ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru yn nhymor yr hydref 2016.

(09.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 5 a 6

 

 

Cofnodion:

4.1 Cytunwyd ar y cynnig.

 

(09.30 - 10.00)

5.

Trafod y memorandwm cyd-ddealltwriaeth drafft diwygiedig ynghylch yr Adolygiad o Siarter y BBC

PAC(4)-08-16 Papur 7

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Gwnaeth yr Aelodau nodi a chroesawu’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth drafft diwygiedig ynghylch yr Adolygiad o Siarter y BBC.

5.2 Cytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi diolch iddi am wahodd y Pwyllgor i drafod y memorandwm cyd-ddealltwriaeth ac i roi gwybod hefyd y bydd adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor yn cynnwys argymhelliad y dylai’r pwyllgor dilynol ystyried cynnwys cyfrifon y BBC fel rhan o’i waith blynyddol yn craffu ar gyfrifon.

 

(10.00 - 11.00)

6.

Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(4)-08-16 Papur 8 – Llythyr gan Darren Millar AC ac Archwilydd Cyffredinol Cymru (24 Tachwedd 2015)

PAC(4)-08-16 Papur 9 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Darren Millar AC (7 Rhagfyr 2015)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd yr Aelodau wybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch ei adroddiad, Sefydlu ac arolygu Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror.