Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 69KB) Gweld
fel HTML (68KB) |
||
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Nid
oedd ymddiheuriadau. |
|
(09.00 - 09.10) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y
papurau. |
|
Maes Awyr Caerdydd: Gwybodaeth ychwanegol gan Simon Jones, Cadeirydd Holdco (19 Chwefror 2016) Dogfennau ategol: |
||
Maes Awyr Caerdydd: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (22 Chwefror 2016) Dogfennau ategol: |
||
Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (24 Chwefror 2016) Dogfennau ategol: |
||
Maes Awyr Caerdydd: Gwybodaeth ychwanegol gan Chris Cain, Northpoint Aviation (23 Chwefror 2016) Dogfennau ategol: |
||
Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Undeb Rygbi Cymru - Cyfyngedig (24 Chwefror 2016) Dogfennau ategol: |
||
Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan James Price, Llywodraeth Cymru (24 Chwefror 2016) Dogfennau ategol: |
||
(09.10 - 09.30) |
Craffu ar Gyfrifon 2014-15: Ystyried ymatebion i adroddiad y Pwyllgor PAC(4)-08-16 Papur 1 - Llyfrgell Genedlaethol Cymru PAC(4)-08-16 Papur 2 - Amgueddfa Genedlaethol Cymru PAC(4)-08-16 Papur 3 – Comisiwn y Cynulliad PAC(4)-08-16 Papur 4 - Chwaraeon Cymru PAC(4)-08-16 Papur 5 – Llywodraeth Cymru PAC(4)-08-16 Papur 6 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Gwnaeth yr Aelodau drafod a nodi’r ymateb a gafwyd
gan y sefydliadau ynghylch yr argymhellion a gyflwynwyd iddynt yn adroddiad y
Pwyllgor a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2015. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i wneud y canlynol: · Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am farn ar y materion yn ymwneud â
threfniadau yswiriant Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dull Amgueddfa Genedlaethol
Cymru ar gyfer codi ffi am ddigwyddiadau a’i barn am drefniadau’r ddau
sefydliad o ran diswyddo. · Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad esbonio’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i
wneud y deunydd a gyhoeddir ar ei wefan yn fwy hygyrch, yn enwedig i bobl â
gofynion penodol. · Cynnwys argymhelliad yn ei adroddiad etifeddiaeth y dylai’r Pwyllgor
dilynol graffu ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 yn nhymor
yr hydref 2016 ac ystyried yn benodol a yw’r ffordd y cyflwynir y cyfrifon wedi
gwella ac a ydynt yn cynnwys linc i Adroddiad Rheoli Grantiau Blynyddol
Llywodraeth Cymru. Awgrymwyd hefyd efallai y bydd y pwyllgor dilynol am edrych
yn ehangach ar ddull Llywodraeth Cymru o leihau ei defnydd o ynni. · Cynnwys argymhelliad yn ei adroddiad etifeddiaeth y dylai’r Pwyllgor
dilynol graffu ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru yn nhymor yr hydref 2016. |
|
(09.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5 a 6 Cofnodion: 4.1 Cytunwyd ar y cynnig. |
|
(09.30 - 10.00) |
Trafod y memorandwm cyd-ddealltwriaeth drafft diwygiedig ynghylch yr Adolygiad o Siarter y BBC PAC(4)-08-16 Papur 7 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Gwnaeth yr Aelodau nodi a chroesawu’r
memorandwm cyd-ddealltwriaeth drafft diwygiedig ynghylch yr Adolygiad o Siarter
y BBC. 5.2 Cytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at
Lywodraeth Cymru i roi diolch iddi am wahodd y Pwyllgor i drafod y memorandwm
cyd-ddealltwriaeth ac i roi gwybod hefyd y bydd adroddiad etifeddiaeth y
Pwyllgor yn cynnwys argymhelliad y dylai’r pwyllgor dilynol ystyried cynnwys
cyfrifon y BBC fel rhan o’i waith blynyddol yn craffu ar gyfrifon. |
|
(10.00 - 11.00) |
Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(4)-08-16
Papur 8 – Llythyr gan Darren Millar AC ac Archwilydd Cyffredinol Cymru (24
Tachwedd 2015) PAC(4)-08-16
Papur 9 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Darren Millar AC (7
Rhagfyr 2015) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cafodd yr Aelodau wybodaeth gan Archwilydd
Cyffredinol Cymru ynghylch ei adroddiad, Sefydlu
ac arolygu Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, a gyhoeddwyd ar 26
Chwefror. |