Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 251KB) Gweld
fel HTML (236KB) |
||
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies. Dirprwyodd Alun
Ffred Jones ar ei rhan. |
|
(09.00-09.05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Gohebiaeth y Pwyllgor: Llythyr oddi wrth Harriet Harman, Cadeirydd y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol (27 Ionawr 2016) Dogfennau ategol: |
||
(09.05-09.35) |
Rheoli Grantiau yng Nghymru: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2015 PAC(4)-07-16 Papur 1 Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth
Cymru Gawain Evans, Cyfarwyddwr
Cyllid, Llywodraeth Cymru Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith yr Ysgrifennydd Parhaol ynghylch Adroddiad
Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau. |
|
(09.35-10.30) |
Dulliau o weithio: Trafodaeth ag Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ar waith y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad PAC(4)-07-16 Papur 2 PAC(4)-07-16 Papur 3 Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth
Cymru Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Trafodwyd gwaith y Pwyllgor yn y Pedwerydd Cynulliad ag Ysgrifennydd
Parhaol Llywodraeth Cymru, ac edrychwyd ymlaen at y Pumed Cynulliad. 4.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol i ymchwilio ymhellach a yw CCAUC yn
cael gwybodaeth ariannol gan brifysgolion yn ystod y flwyddyn sy'n codi
pryderon i Lywodraeth Cymru. |
|
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 6 a 7 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.30-10.45) |
Rheoli Grantiau yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a gafwyd a
chytunwyd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol gyda rhai argymhellion i
wella ymhellach Adroddiadau Rheoli Grant Blynyddol yn y dyfodol. |
|
(10.45-11.00) |
Dulliau o weithio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Aelodau sylwadau'r Ysgrifennydd Parhaol. |