Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 275KB) Gweld
fel HTML (253KB). |
||
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09.00-09.05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Maes Awyr Caerdydd: Llythyr oddi wrth Roger Lewis, Cadeirydd - Maes Awyr Caerdydd (26 Ionawr 2016) Dogfennau ategol: |
||
(09.05-10.35) |
Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth 2 Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil Cwmni Daliannol Llywodraeth Cymru (Cwmni DalLlC) Simon Jones – Cadeirydd, Cwmni DalLlC, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Simon Jones o gwmni daliannol
Llywodraeth Cymru (WGC Holdco), fel rhan o'r ymchwiliad i gamau Llywodraeth
Cymru i gaffael Maes Awyr Caerdydd a'i pherchenogaeth ohono. 3.2 Cytunodd Simon Jones i anfon y wybodaeth a ganlyn i gynorthwyo
ymchwiliad y Pwyllgor: · A dderbyniodd
BA unrhyw gymhelliant ariannol gan Lywodraeth Cymru i leoli ei gyfleusterau
cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd; · Data ar sut y
mae teithwyr yn cyrraedd Maes Awyr Caerdydd; · Gwerth
presennol Maes Awyr Caerdydd; ac · Enwau
darparwyr y benthyciadau i'r meysydd awyr hynny y dywedwyd yn y sesiwn
dystiolaeth eu bod wedi derbyn benthyciadau. |
|
(10.35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 5 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.35-11.00) |
Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |