Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00-09.10)

1.

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

1.1  Trafododd Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(4)-34-15 papur 1 (Eitem 4) â'r Pwyllgor.

 

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 280KB) Gweld fel HTML (294KB)

(09.10)

2.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Esgusododd Jocelyn Davies ei hun o dan Reol Sefydlog 18.8. Dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ei rhan.

1.3 Mae'r datganiadau o ddiddordeb a wnaed yn y cyfarfod ar 12 Hydref yn berthnasol i'r cyfarfod hwn.

 

(09.10)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau.

 

(09.10-10.25)

4.

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn Dystiolaeth 7

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Owen Evans – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

James Price – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol – Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

John Howells – Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Christopher Munday – Dirprwy Gyfarwyddwr, Atebion Busnes, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Yn rhan o'r ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, craffodd y Pwyllgor ar Owen Evans, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus; James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol; John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio; a Christopher Munday, Dirprwy Gyfarwyddwr Atebion Busnes, Llywodraeth Cymru.

 

 

(10.25)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 6, 7 a 8 a chyfarfodydd 12 a 19 Ionawr 2016

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.25-10.30)

6.

Blaenraglen waith: Ystyried y rhaglen waith ar gyfer gwanwyn 2016

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd yr Aelodau ar y flaenraglen waith.

 

(10.30-10.45)

7.

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.45-11.00)

8.

Craffu ar Gyfrifon 2014-15: Ystyried yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, a chytuno arno.