Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 240KB) Gweld fel HTML (291KB)

 

(09.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar. Roedd Andrew R T Davies yn dirprwyo ar ei ran.

1.3 Esgusododd Jocelyn Davies ei hun o dan Reol Sefydlog 18.8. Dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ei rhan.

1.4 Roedd Sandy Mewies am ddatgan buddiant fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad ac nid oedd yn bresennol ar gyfer eitem 2.1 ac eitem 6.

1.5 Mae’r datganiadau o ddiddordeb a wnaed yn y cyfarfod ar 12 Hydref yn berthnasol i’r cyfarfod hwn.

1.6 Croesawodd y Cadeirydd Nur Saleh, o gwmni llywodraethu Global Partners, sy’n dysgu am weithrediad y Cynulliad Cenedlaethol. 

 

 

(09.00-09.05)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Craffu ar Gyfrifon 2014-15: Llythyr gan Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad - Cynllun Ymadael Gwirfoddol (19 Tachwedd 2015)

Dogfennau ategol:

2.2

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Gwybodaeth ychwanegol gan Lambert Smith Hampton (23 Tachwedd 2015)

Dogfennau ategol:

2.3

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Llythyr gan y Prisiwr Dosbarth (24 Tachwedd 2015)

Dogfennau ategol:

(09.05-10.15)

3.

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn dystiolaeth 6

PAC(4)-33-15 Papur 1

Papur Ymchwil

 

Langley Davies - Cyfarwyddwr, South Wales Land Developments Limited

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn holi Langley Davies, Cyfarwyddwr South Wales Land Developments Limited, fel rhan o’r ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.

 

(10.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 5, 6 & 7

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig a chafodd ei ymestyn i gwmpasu eitem 1 ar gyfer y cyfarfod ar 8 Rhagfyr 2015.

 

(10.15-10.30)

5.

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.30-10.45)

6.

Craffu ar Gyfrifon 2014-15: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-33-15 Papur 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, nis cyrhaeddwyd yr eitem hon.

 

(10.45-11.00)

7.

Blaenraglen waith: Trafod rhaglen waith y gwanwyn 2016

PAC(4)-33-15 Papur 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Bu’r Aelodau’n trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn 2016 ond gofynnodd am ragor o fanylion am yr ymchwiliad posibl i Faes Awyr Caerdydd.