Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Tom Jackson  Legislation: Sarah Beasley

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00 - 09:05)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

(09:05 - 09:55)

2.

Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Tystiolaeth gan yr Athro David Heald

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro David Heald.

(09:55 - 10:45)

3.

Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Tystiolaeth gan Reolwr ac Archwilydd Cyffredinol y DU

Amyas Morse, Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Amyas Morse, Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol y DU.

(10:45)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 5

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

(10:50 - 11:00)

5.

Ystyried tystiolaeth ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan yr Athro Heald a Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol y DU fel rhan o’r gwaith o graffu ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) yng Nghyfnod 1.

6.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Hydref 2012, a llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) a threfniadau mewn perthynas â Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981.

 

 

Trawsgrifiad