Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(13.00-13.40) |
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru PAC(4)-26-15
Papur 1 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (6 Hydref 2015) Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. |
|||||||||||||||
(13.50-14.30) |
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn friffio gyda Llywodraeth Cymru Owen Evans – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Y Grŵp
Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru John Howells – Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, Llywodraeth
Cymru Richard Baker – Cyd-Pennaeth Dros Dro, Adran Eiddo, Llywodraeth
Cymru Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan Lywodraeth Cymru a thrafodwyd cwmpas
yr ymchwiliad. |
|||||||||||||||
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 415KB) Gweld
fel HTML (525KB) |
||||||||||||||||
(14.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 3.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn
falch bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gallu cymryd rhan yn yr wythnos
#SeneddAbertawe ac estynnodd ddiolch i'r staff yn Amgueddfa Genedlaethol y
Glannau am eu cymorth yn cynnal y cyfarfod. 3.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar. Dirprwyodd Andrew R T Davies ar ei
ran. 3.3
Esgusododd Jocelyn Davies ei hun o dan Reol Sefydlog 18.8. Dirprwyodd Alun
Ffred Jones ar ei rhan. 3.4
Gwnaeth yr Aelodau y datganiadau a ganlyn:
|
|||||||||||||||
(14.35 - 15.35) |
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn Dystiolaeth 1 PAC(4)-26-15
Papur 2 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (7
Medi 2015) PAC(4)-26-15
Papur 3 – Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol (23 Gorffennaf 2015) Papur
Briffio’r Gwasanaeth Ymchwil Owen Evans – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Y Grŵp
Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru John Howells – Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, Llywodraeth
Cymru Richard Baker – Cyd-Pennaeth Dros Dro, Adran Eiddo, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol
ar hyn o bryd am Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, gan holi Owen Evans, Dirprwy
Ysgrifennydd Parhaol, y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, John
Howells, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, a Richard Baker, Cyd-bennaeth Dros Dro yr
Adran Eiddo. 4.2 Cytunodd Owen Evans i anfon rhagor o wybodaeth am y canlynol: · Copi o'r
adroddiad prisio a luniwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru gan King Sturge (Jones
Lang LaSalle erbyn hyn); · Sut y cafodd
yr asedau a aeth i'r portffolio a drosglwyddwyd i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn
Adfywio eu dewis, ynghyd â manylion am unrhyw waith marchnata blaenorol gan
Lywodraeth Cymru o ran yr asedau ym mhortffolio tir Cronfa Buddsoddi Cymru mewn
Adfywio a chopi o gofnodion y cyfarfod lle cytunwyd ar y dewis yn y portffolio; · Yr ystyriaeth
a roddir gan Lywodraeth Cymru i'r goblygiadau i Drysorlys y DU o ran refeniw
treth yn y dyfodol wrth gytuno ar drafodion masnachol sydd ag endidau tramor; · Eglurhad o
statws cyfreithiol cysylltiad a chontract Llywodraeth Cymru ag Amber
Infrastructure Ltd (fel Aelod Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig arall, ac fel
Rheolwr Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio), a chyngor cyfreithiol Llywodraeth
Cymru ar effaith bosibl unrhyw benderfyniad a wneir gan Lywodraeth Cymru i ddod
â'r contract i ben. |
|||||||||||||||
(15.50 - 16.50) |
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn Dystiolaeth 2 PAC(4)-26-15
Papur 4 – Papur gan gyn-aelodau’r Bwrdd Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio Papur
Briffio’r Gwasanaeth Ymchwil Gyn-aelodau’r Bwrdd Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio Richard Anning Ceri Breeze Richard Harris Chris Holley Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith pedwar cyn-aelod o Fwrdd Cronfa Buddsoddi
Cymru mewn Adfywio a benodwyd i'r Bwrdd gan Lywodraeth Cymru. Holwyd y
canlynol: ·
Ceri Breeze: Aelod o'r Bwrdd ers mis Mawrth 2010. Penodwyd yn Gadeirydd ym mis Hydref
2011. Ymddiswyddodd ym mis Hydref 2013; ·
Richard
Anning: Aelod o'r Bwrdd ers mis Rhagfyr
2010. Ymddiswyddodd ym mis Hydref 2013; ·
Y Cynghorydd
Christopher Holley: Aelod o'r Bwrdd ers mis Tachwedd
2010. Ymddiswyddodd ym mis Hydref 2013; a · Richard Harries: Aelod o'r Bwrdd ers mis Gorffennaf
2012. Ymddiswyddodd ym mis Mehefin 2013. 5.2 Nododd y Cadeirydd fod Jonathan Geen, cyn-aelod o Fwrdd Cronfa
Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, wedi gwrthod y gwahoddiad i ddod i'r sesiwn hon
oherwydd gwrthdaro buddiannau. 5.3 Cytunodd cyn-aelodau o Fwrdd Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio i
adolygu ac anfon unrhyw sylwadau a allai fod ganddynt ar brisiadau'r farchnad
gan Savills (Ionawr 2012) ac adroddiad y Prisiwr Dosbarth ym mis Gorffennaf
2015. |
|||||||||||||||
(16.50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 7 Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||
(16.50 - 17.00) |
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |