Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00-09.15)

1.

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

1.1 Ystyriodd Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Hydref.

 

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 285KB) Gweld fel HTML (403KB)

(09:15)

2.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar. Dirprwyodd Andrew R T Davies ar ei ran.

2.3 Esgusododd Jocelyn Davies ei hun o dan Reol Sefydlog 18.8. Dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ei rhan.

2.4 Mae’r datganiadau o ddiddordeb a wnaed yn y cyfarfod ar 12 Hydref yn berthnasol i’r cyfarfod hwn.

 

(09.15-09.20)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau.

 

3.1

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Llythyr gan James Price, Llywodraeth Cymru (12 Hydref 2015)

Dogfennau ategol:

(09.20-10.45)

4.

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn dystiolaeth 5

PAC(4)-28-15 Papur 1

PAC(4)-28-15 Papur 2

Papur Briffio’r Gwasanaeth Ymchwil

 

Jeremy Green - Lambert Smith Hampton Ltd

Lee Mogridge - Lambert Smith Hampton Ltd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Jeremy Green a Lee Mogridge o Lambert Smith Hampton Ltd fel rhan o’r ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.

4.2 Cytunodd Jeremy Green a Lee Mogridge i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor:

 

·       Gwirio a chadarnhau’r dyddiadau y gwnaethant gyfarfod â swyddogion cynllunio o Gyngor Dinas Caerdydd a Chyngor Sir Fynwy a chyflwyno unrhyw ohebiaeth berthnasol;

·Gwirio a gafodd yr holl ddiddordeb a ddangoswyd gan brynwyr posibl ei gyfleu i Fwrdd CBCA ac yn benodol y diddordeb a ddangoswyd gan Legat Owen, a phryd y gwnaed hynny;

·Manylion y cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda’r prynwr arfaethedig rhwng mis Chwefror 2011 a mis Mawrth 2012;

·Gwiriwch pryd y sefydlwyd perthynas gyda Mr Langley Davies, pwy o LSH oedd yn gweithredu ar ei ran ac ym mha swyddogaeth ac ar ba brosiectau eraill (lle y mae’n Gyfarwyddwr);

·Darparu e-byst a gohebiaeth arall gyda’r prynwr posibl pan awgrymodd y prynwr y byddai’n niweidiol i’w fuddiannau ac y gallai ragfarnu’r trafodion portffolio pe byddai’n cael ei orfodi i gynnal prisiad ffurfiol, ac

·       Egluro pryd ddechreuodd LSH farchnata safle Trefynwy ar gyfer SWLD.

 

 

 

(10.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 6 ac eitem 1 yng nghyfarfod 3 Tachwedd 2015

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.45-11.00)

6.

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, nis cyrhaeddwyd yr eitem hon.