Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1         Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod.

1.2         Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies oherwydd ei chyfrifoldebau fel un o Gomisiynwyr y Cynulliad (Rheol Sefydlog 18.9). Roedd Gwyn Price yn dirprwyo ar ei rhan.

1.3         Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan a Jenny Rathbone. Dirprwyodd Keith Davies a David Rees ar eu rhan.

 

(09:00)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

(09:00 - 09:45)

3.

Craffu ar Gyfrifon 2014 - 15: Comisiwn y Cynulliad

PAC(4)-24-15 Papur 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

David Melding AM - Comisiynydd y Cynulliad Dros Dro

Claire Clancy - Prif Weithredwr

Nicola Callow - Cyfarwyddwr Cyllid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor gyfrifon blynyddol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15, gan holi David Melding AC, Comisiynydd y Cynulliad Dros Dro, Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad a Nicola Callow, Cyfarwyddwr Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

3.2 Cytunodd Claire Clancy i anfon yr Adolygiad Archwilio Mewnol o effeithiolrwydd y Comisiwn, ynghyd â'r cynllun gweithredu sy'n cyd-fynd ag ef.

3.3 Cytunodd Nicola Callow i anfon manylion am y cyllidebau sydd wedi'u neilltuo i'r meysydd gwaith cenedlaethol Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus a Pleidleisio@16?.

3.3 Cytunodd Claire Clancy i anfon nodyn ar berfformiad incwm gwirioneddol y Pierhead yn erbyn y perfformiad incwm a ragwelwyd.

 

(09:45-10:35)

4.

Craffu ar Gyfrifon 2014 - 15: Chwaraeon Cymru

PAC(4)-24-15 Papur 2

PAC(4)-24-15 Papur 2A

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Sarah Powell, Prif Weithredwr, Chwaraeon Cymru

Peter Curran, Cyfarwyddwr Cyllid, Chwaraeon Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Mae'r tabl a ganlyn yn dangos datganiadau'r Aelodau a wnaed yn ystod yr eitem hon:

Jocelyn Davies

Merch yn hyfforddwraig chwaraeon

Mike Hedges

Aelod o sawl clwb pêl-droed, rygbi a chriced, ac mae rhai ohonynt wedi cael arian gan y loteri

Keith Davies

Aelod o glwb rygbi a Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol

Mab yn hyfforddwr rygbi

Aled Roberts

Aelod o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Pêl-droed Wrecsam ac yn llywodraethwr ysgol

David Rees

Mae pwll nofio sydd mewn perygl o orfod cau yn ei etholaeth

 

4.2 Trafododd y Pwyllgor gyfrifon blynyddol Chwaraeon Cymru ar gyfer 2014-15, gan holi Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol a Peter Curran, Cyfarwyddwr Cyllid, Chwaraeon Cymru.

 

(10:35-10:45)

5.

Gwaith Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori: Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer 2014-15

PAC(4)-24-15 Papur 3 - Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS) - Adroddiad Blynyddol 2014-15

PAC(4)-24-15 Papur 3A - Canllawiau Fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol - Cyfreithwyr

PAC(4)-24-15 Papur 3B - Canllawiau Fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar Effeithlonrwydd Adnoddau Cymru - Cyngor ar Effeithlonrwydd Ynni a'r Amgylchedd

PAC(4)-24-15 Papur 3C - Canllawiau Fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol - Adeiladu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd yr Aelodau Adroddiad Blynyddol cyntaf y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer 2014-15 ynghyd â'r canllawiau a'r fframweithiau.

5.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor awgrymu bod y Pwyllgor nesaf yn ystyried y gwaith y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu ei wneud ar gaffael cyhoeddus yn y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

 

(10:45-10:50)

6.

Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(4)-24-15 Papur 4

PAC(4)-24-15 Papur 5

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor a sylwadau'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gylch.

6.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o eglurhad ynglŷn ag ymateb y llywodraeth i argymhellion yr Adroddiad.

 

(10:50-10:55)

7.

Ymateb i Ddiwygio Lles yng Nghymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(4)-24-15 Papur 6

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor. Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wrth y Pwyllgor y byddai'n ysgrifennu at y Cadeirydd yn ddiweddarach yr wythnos hon gyda'i sylwadau.

 

(10:55)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 9

Cofnodion:

8.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:55 -11:00)

9.

Craffu ar Gyfrifon 2014 - 15: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

9.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.