Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

 

(09:00)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

(09:05-09:50)

3.

Ymdrin â'r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru

Briff ymchwil

 

Steve Thomas CBE – Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Jon Rae - Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dilwyn Williams – Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Gwynedd a Chadeirydd Cymdeithas Trysoryddion Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steve Thomas CBE, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnodda,u Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Dilwyn Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Sir Gwynedd a Chadeirydd Cymdeithas Trysoryddion Cymru ar Ymdrin â'r Heriau Ariannol sy'n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru.

3.2 Cytunodd Steve Thomas i ddarparu copïau o adroddiadau blaenorol yr is-grŵp gwariant.

 

(09:50)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 5, 6 a 7

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09:50-10:00)

5.

Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10:00-10:05)

6.

Memorandwm ar gyfer Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

PAC(4)-19-14(papur 1)

PAC(4)-19-14(papur 2)

Cofnodion:

6.1 Nododd yr Aelodau y Memorandwm ar gyfer Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a'i gymeradwyo.

 

(10:05-11:00)

7.

Rhaglen Datblygu Proffesiynol: Craffu ariannol

Cofnodion:

7.1 Cyflwynodd Don Peebles, Pennaeth Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yr Alban, a Martin Jennings o'r Gwasanaeth Ymchwil yr hyfforddiant i'r Aelodau.