Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. |
|
(09:00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y
papurau. |
|
(09:05-09:20) |
Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol 2013-2014 PAC(4)-18-14 (papur 1) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Rhoddodd Mike Usher, Arweinydd y Sector ar gyfer Iechyd a Llywodraeth Ganolog
yn Swyddfa Archwilio Cymru, sesiwn friffio ar yr adroddiad, a nodwyd gan yr
Aelodau. |
|
(09:20-09:30) |
Gofal heb ei drefnu: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-18-14(papur 2) PAC(4)-18-14(papur 3) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd yr Aelodau ymateb
Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor ynghyd â'r cyngor
gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 4.2 Cytunodd
yr Aelodau y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am
eglurder ynghylch nifer o faterion. |
|
(09:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 6, 7,8 & 9 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09:30-10:00) |
Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Trafod yr adroddiad drafft PAC(4)-18-14(Papur 4) Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad
drafft a nodwyd y byddai drafft diwygiedig ar gael i'w drafod yng nghyfarfod y
Pwyllgor ar 15 Gorffennaf. |
|
(10:00-10:20) |
Adroddiad blynyddol 2013-14 Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Aelodau'r cynnwys ar gyfer yr adroddiad blynyddol a
nodwyd y byddai'r clercod yn paratoi drafft i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 15 Gorffennaf. |
|
(10:20-10:50) |
Cyflogau Uwch-reolwyr: Y prif faterion PAC(4)-18-14 (papur 5) Cofnodion: 8.1 Trafododd yr Aelodau'r papur a nodwyd y byddai'r clercod yn paratoi
adroddiad drafft i'w drafod yn gynnar yn
nhymor yr hydref. 8.2 Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i baratoi dogfen yn cymharu'r
canllawiau cyflogau ar gyfer sefydliadau'r sector cyhoeddus. |
|
(10:50-11:00) |
Gohebiaeth y Pwyllgor - y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus PAC(4)-18-14(papur 6) Cofnodion: 9.1 Trafododd yr Aelodau'r ohebiaeth a chytunwyd i drafod cyfrifon
blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2013-14 yn nhymor yr hydref. |