Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i'r Pwyllgor. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike
Hedges. Roedd Gwyn Price yn dirprwyo ar ei ran. |
|
(09:00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papurau. |
|
(09:05-10:35) |
Cyflogau Uwch-reolwyr: Sesiwn dystiolaeth 6 Briff ymchwil Marie Rosenthal, Clerc y Sir a Swyddog Monitro, Cyngor Caerdydd Delyth Jones, Pennaeth y Gyfraith a Llywodraethu a Swyddog Monitro, Cyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd y
Pwyllgor dystiolaeth am gyflogau uwch-reolwyr gan Marie Rosenthal, Clerc Sirol
a Swyddog Monitro, Cyngor Caerdydd a Delyth Jones, Pennaeth y Gyfraith a
Llywodraethu a Swyddog Monitro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. 3.2 Gofynnodd y Pwyllgor
i'r Clercod gael eglurhad o reoliadau newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru ar
gyfer aelodau etholedig. 3.3 Cytunodd Delyth Jones
i anfon rhagor o wybodaeth am aelodau trawsbleidiol yr is-bwyllgor cyflogaeth
yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. |
|
(10:35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5, 6 & 7 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:35-10:50) |
Cyflogau Uwch-reolwyr: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a
ddaeth i law. |
|
(10:50-10:55) |
Rheoli Cyflyrau Cronig: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru PAC(4)-13-14(papur 1) Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan
Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i'w gyfeirio at y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol. |
|
(10:55-11:00) |
Strategaeth leoli Llywodraeth Cymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru PAC(4)-13-14(papur 2) Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan
Lywodraeth Cymru a chytunwyd i ymateb yn gofyn am ragor o ymatebion i'r
argymhellion a geir yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. |