Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
||
Papurau i'w nodi PAC(4) 06-13 – Papur 1 – Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Llywydd ynghylch amserlen y Pwyllgor PAC(4) 06-13 – Papur 2 – Gohebiaeth gan y Llywydd at y Cadeirydd ynghylch amserlen y Pwyllgor PAC(4) 06-13 – Papur 3 – Ymateb i’r pwyntiau gweithredu gan Swyddfa’r Cabinet Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ganlyn: · gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a’r Llywydd ynghylch amserlen y Pwyllgor; · ymateb gan Swyddfa’r Cabinet i’r camau i’w cymryd a nodwyd yn y cyfarfod ar 18 Chwefror 2013; a · chofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor ar 18 Chwefror. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 4 a 5. Cofnodion: Eitemau 4 a 5. |
||
(9:05 - 9:15) |
Trafod amserlen y Pwyllgor Cofnodion: 4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod materion mewn perthynas â’r amserlen, a chytunodd ar gynigion a amlinellwyd gan y Cadeirydd ynghylch trefnu blaenraglen waith y Pwyllgor. |
|
(9:15 - 11:00) |
Ystyried adroddiad drafft y Pwyllgor ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen Cofnodion: 5.1 Cafwyd datganiad o fuddiant gan Julie Morgan o dan yr eitem hon, a gadawodd y cyfarfod cyn i’r drafodaeth ddechrau. 5.2 Bu’r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad drafft ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen. Cytunodd y Pwyllgor ar nifer o newidiadau i’r adroddiad, a chytunodd i ystyried yr adroddiad eto mewn cyfarfod arall. |
|
Trawsgrifiad |