Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 268KB) Gweld fel HTML (314KB)

 

(09.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones AC a Peter Black AC.

 

1.3 Roedd William Powell AC yn dirprwyo ar ran Peter Black AC.

 

(09.00)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

(09.00 - 10.00)

3.

Y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 8

Mari Thomas, Swyddog Polisi (Cyllid), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Gary Watkins, Rheolwr Gwasanaethau Refeniw, Cyngor Caerdydd

Nick Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid Gweithredol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

 

Papur 1 - Ymateb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'r ymgynghoriad

Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mari Thomas, Swyddog Polisi (Cyllid), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Gary Watkins, Rheolwr Gwasanaethau Refeniw, Cyngor Caerdydd, Tara King, Prif Swyddog Gwastraff a Phriffyrdd, Cyngor Caerdydd a Nick Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Cyllid Gweithredol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

 

(10.00 - 10.45)

4.

Y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 9

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mike Usher, Swyddfa Archwilio Cymru

Martin Peters, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Papur 2 - Ymateb Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r ymgynghoriad

Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Mike Usher a Martin Peters, Swyddfa Archwilio Cymru.

 

4.2 Cytunodd Mike Usher i roi gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor.

 

(10.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 6, 7, 8 a 9

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.45 - 11.00)

6.

Y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Papur 3 - Nodyn briffio gan y Cynghorydd Arbenigol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.15 - 12.00)

7.

Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Ymgynghoriad ar Fil drafft

Papur 4 - Ymgynghoriad ar Fil drafft: Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Bil drafft a'r dull ymgynghori.

 

(12.00 - 12.20)

8.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17: Dull o gynnal y gwaith craffu

Papur 5 – Dull o gynnal y gwaith craffu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull craffu.

 

(12.20 - 12.30)

9.

Etifeddiaeth Pwyllgor Busnes y Pedwerydd Cynulliad: Ymgynghoriad

Papur 6 - Llythyr i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan y Llywydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cytunodd y Pwyllgor i ailystyried y mater yn y cyfarfod ar 5 Tachwedd.